Hanes Cymru (llyfr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Llinell 10: Llinell 10:
== Dolen allanol ==
== Dolen allanol ==
* [http://www.penguin.co.uk/nf/Book/BookDisplay/0,,9780140284768,00.html ''Hanes Cymru''] ar wefan Penguin
* [http://www.penguin.co.uk/nf/Book/BookDisplay/0,,9780140284768,00.html ''Hanes Cymru''] ar wefan Penguin

{{eginyn llyfr}}


[[Categori:Llyfrau 1990]]
[[Categori:Llyfrau 1990]]
[[Categori:Llyfrau am Gymru]]
[[Categori:Llyfrau Cymraeg]]
[[Categori:Llyfrau Cymraeg]]
[[Categori:Llyfrau hanes]]
[[Categori:Llyfrau hanes]]

Fersiwn yn ôl 00:14, 8 Tachwedd 2013

Llyfr gan John Davies ar hanes Cymru yw Hanes Cymru a gyhoeddwyd gyntaf gan Allen Lane (Penguin) ym 1990. Fe'i ystyrir yn gampwaith yr awdur ac yn waith awdurdodol.[1] Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r llyfr gan yr awdur dan y teitl A History of Wales ym 1993. Mae'r llyfr yn adrodd hanes Cymru o Oes yr Iâ hyd at yr unfed ganrif ar hugain (yn argraffiad 2007). Un o amcanion John Davies wrth ei ysgrifennu oedd i "[g]ryfhau lle'r Gymraeg fel iaith ysgolheictod hanesyddol".[2]

Ystyrir Hanes Cymru yn llyfr hanes darllenadwy[1] ac yn ôl un adolygydd ei brif rinwedd yw "grym ei naratif, gyda’i ddisgrifiadau bachog a’i osodiadau doniol".[3] Llyfnder sydd i'r arddull wrth ymdrin â ffeithiau ac ystadegau sydd yn ôl Betsan Powys yn "llywio ac yn lliwio yr un pryd".[4]

Yn 2007 cyhoeddwyd diweddariad o Hanes Cymru ac A History of Wales gan Penguin gyda phennod newydd ar Gymru ers 1979.[5] Yn ei ragair i'r argraffiad hwn, ysgrifennodd Davies, "Cyflwynwyd argraffiad cyntaf y gyfrol hon i'r olaf o'r hen genhedlaeth; cyflwynir yr argraffiad hwn i'r cyntaf o'r genhedlaeth newydd."[6]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Davies, John. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
  2. Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 430 [HANESYDDIAETH].
  3.  Hanes Cymru. Gwales.com. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
  4.  Powys, Betsan (2007). Hanes Cymru: 'Dim ond John Davies . . .'. BBC.
  5.  Hanes Cymru: Ychwanegu at y blociau?. BBC (2007). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
  6. Davies, John. Hanes Cymru (Penguin, 2007), t. xi.

Dolen allanol