Thomas Iorwerth Ellis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 25: Llinell 25:
[[Categori:Cymry Llundain]]
[[Categori:Cymry Llundain]]
[[Categori:Genedigaethau 1899]]
[[Categori:Genedigaethau 1899]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg]]

Fersiwn yn ôl 22:54, 29 Hydref 2013

Awdur Cymraeg, darlithydd a phrifathro, oedd Thomas Iorwerth Ellis a gyhoeddai wrth yr enw T. I. Ellis (1899, Llundain - 1970). Roedd yn fab i'r gwleidydd adnabyddus Thomas Edward Ellis, AS Meirionnydd.

Cafodd yrfa hir ym myd addysg fel darlithydd yn y Clasuron ac fel prifathro ysgol sir y Fflint yn Y Rhyl. Bu'n ysgrifennydd Undeb Cymru Fydd (1941-1967). Gwasanaethodd hefyd am gyfnodau hir ar bywllgorau sefydliadau fel Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfranodd nifer o erthyglau ar bynciau llenyddol, diwylliannol a gwleidyddol i gylchgronau Cymreig a chwe chyfrol i'r gyfres boblogaidd Crwydro Cymru (Llyfrau'r Dryw). Cyhoeddodd hefyd gofiant i'w dad mewn dwy gyfrol a chasgliad o ysgrifau.

Llyfryddiaeth

Cyfres Crwydro Cymru
  • Crwydro Ceredigion
  • Crwydro Maldwyn
  • Crwydro Meirionnydd
  • Crwydro Mynwy
  • Crwydro Sir y Fflint
Eraill
  • The Development of Higher Education in Wales (1935)
  • Cofiant T. E. Ellis (1944, 1948)
  • Ym Mêr fy Esgyrn (1955). Ysgrifau.
  • Dilyn Llwybrau (1967). Ysgrifau
  • Life of Ellis Jones Griffith (1969)