Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd well
B trwsio delwedd
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:File:Llangar Church - geograph.org.uk - 170552.jpg|250px|bawd|Eglwys Llangar]]
[[Delwedd:Llangar Church. - geograph.org.uk - 559314.jpg|250px|bawd|Eglwys Llangar]]
[[Plwyf]] eglwysig ym mro hanesyddol [[Edeirnion]], gogledd [[Cymru]], yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] heddiw ond bu gynt yn rhan o [[Sir Feirionnydd]].
[[Plwyf]] eglwysig ym mro hanesyddol [[Edeirnion]], gogledd [[Cymru]], yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] heddiw ond bu gynt yn rhan o [[Sir Feirionnydd]].



Fersiwn yn ôl 21:59, 29 Hydref 2013

Eglwys Llangar

Plwyf eglwysig ym mro hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw Llangar. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd.

Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o Feirionnydd a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng nghwmwd Edeirnion.

Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi Llandrillo a Chorwen, gan godi i lethrau'r Berwyn i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o Bowys.

Canolfan y plwyf oedd y llan lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen yn Nyffryn Edeirnion, ar lan Afon Dyfrdwy. Bu'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Eifionydd yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten James Cook yn 1776-78.