Nest ferch Rhys ap Tewdwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 7 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q449000 (translate me)
Llinell 10: Llinell 10:
Ysgrifenwyd dwy [[nofel]] ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan [[Geraint Dyfnallt Owen]], sef ''Nest'' (1949) a ''Dyddiau'r Gofid'' (1950).
Ysgrifenwyd dwy [[nofel]] ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan [[Geraint Dyfnallt Owen]], sef ''Nest'' (1949) a ''Dyddiau'r Gofid'' (1950).


{{DEFAULTSORT:Nest ferch Rhys}}
{{Eginyn Cymry}}
[[Categori:Cymry'r 11eg ganrif]]

[[Categori:Tywysogesau Deheubarth]]
[[Categori:Cymry'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:Genedigaethau'r 11eg ganrif]]
[[Categori:Genedigaethau'r 11eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Tywysogesau Deheubarth]]

Fersiwn yn ôl 20:14, 21 Hydref 2013

Yr oedd y Dywysoges Nest yn ferch i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (fl. 1100-1120).

Adwaenir Nest fel Helen Cymru oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.

Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerald de Windsor. Ymhlith ei phlant gan Gerallt o Windsor oedd ei ferch Angharad. Priododd Angharad â William de Barri, arglwydd Maenorbŷr; un o'i meibion oedd y llenor enwog Gerallt Gymro.

Cafodd fab gyda Harri I, brenin Lloegr, a gafodd yr enw Henry Fitz Roy. Lladdwyd ef pan oedd un un o arweinwyr y fyddin a ymosododd ar Ynys Môn yn 1157, yn ystod cyrch brenin Lloegr yn erbyn Owain Gwynedd. Cafodd Nest hefyd nifer o blant gan Stephen, cwnstabl castell Aberteifi, yn cynnwyd Robert Fitz-Stephen, arweinydd y fyddin Normanaidd gyntaf i groesi i Iwerddon i ddechrau'r goresgyniad Normanaidd yno.

Ffuglen

Ysgrifenwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, sef Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).