Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfrifiad 2011: clean up, replaced: Y nifer dros 16 sy'n ddiwaith → Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith
B →‎Cyfrifiad 2011: clean up, replaced: {{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|5}} → {{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|67.1}} using AWB
Llinell 19: Llinell 19:
{{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|73}}
{{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|73}}
{{bar percent|'''Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Tudweiliog) (156)'''|blue|38.9}}
{{bar percent|'''Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Tudweiliog) (156)'''|blue|38.9}}
{{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|5}}
{{bar percent|:''Y ganran drwy Gymru''|grey|67.1}}
}}
}}



Fersiwn yn ôl 09:14, 16 Hydref 2013

Eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog

Pentref bychan a chymuned ar arfordir ogleddol Penrhyn Llŷn, Gwynedd yw Tudweiliog.

Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gymraeg-gyntaf eu hiaith. Mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda thwristiaeth yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, eglwys, capel ac ysgol gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a Phwllheli, sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir Gwynedd, ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur (cromlech) ar Mynydd Cefnamwlch, olion cymuned o Oes yr Haearn ar gopa fynydd Carn Fadryn, traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol Porth Ysgaden, Porth Colmon yn Llangwnnadl (hefyd Llangwnadl), a Phorth Gwylan sydd dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tudweiliog (pob oed) (970)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tudweiliog) (686)
  
73.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tudweiliog) (666)
  
68.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Tudweiliog) (156)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.