Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Brychan"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 59 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
manion, categoriau
B (Bot: Migrating 5 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2398021 (translate me))
(manion, categoriau)
:''Erthygl am y sant yw hon. Am y bardd o'r 19eg ganrif gweler [[John Davies (Brychan)]].''
 
Brenin a [[sant]] oedd '''Brychan''' (fl. [[5ed ganrif]]), sefydlwr [[teyrnas Brycheiniog]] (yn ne-ddwyrain [[canolbarth Cymru]]) yn ôl traddodiad. Fel sant dydd ei ŵyl yw [[5 Ebrill]].
 
==Bywgraffiad==
Niwlog ac amhendant yw llawer o'r dystiolaeth amdano (efallai'n cynrychioli mwy nag un ffigwr o'r enw). Dywedir ei fod o dras [[Gwyddelod|Wyddelig]] a'i fod yn frenin cynnar ar Frycheiniog. Dywedir ymhellach ei fod yn fab i [[Marchell ferch Tewdrig|Farchell]], ferch [[Tewdrig]], brenin [[Garthmadrun]]. Yn ôl traddodiad croesodd Marchell i [[Iwerddon]] a phriododd y tywysog Anlach fab Coronac. Ganed plentyn i Farchell yn Iwerddon.
 
Pan ddychwelasant i Gymru bu farw Tewdrig a chymerodd Brychan drosodd fel brenin Garthmadrun a newidiodd enw'r deyrnas honno i Frycheiniog (ond mae'n fwy tebygol i hynny ddigwydd yn hwyrach ymlaen, er cof am Frychan).
 
==Etifeddiaeth==
Roedd Brychan yn dad i bedwar ar hugain o blant yn ôl traddodiad (ffigwr a geir yn aml mewn [[llên gwerin]], e.e. meibion [[Llywarch Hen]]). Tyfai'r rhan fwyaf ohonyn nhw i fyny i fod yn seintiau gan sefydlu eglwysi ledled y wlad. Cyfeirir at deulu ("llwyth") Brychan yn y [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] fel un o "dri llwyth seintiau Cymru" (ynghyd â theuluoedd [[Caw]] a [[Cunedda|Chunedda]].
 
Enwir nifer o eglwysi, yn y de a'r canolbarth yn bennaf, ar ôl Brychan a'i ddisgynyddion; ffaith sy'n awgrymu fod Brycheiniog yn ystod ei deyrnasiad yn ganolfan [[Cristnogaeth|Gristnogol]] bwysig.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Cymry'r 5ed ganrif]]
[[Categori:Teyrnoedd Brycheiniog]]
[[Categori:Oes y Seintiau yng Nghymru]]
[[Categori:Seintiau Cymru]]

Llywio