Gemau'r Gymanwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Newid enwau gwledydd hyd at De Affrica using AWB |
→Cenhedloedd/dibynadwyoedd sydd wedi cystadlu: Newid enwau gwledydd (dolenni) hyd at De Affrica using AWB |

Llinell 172: | Llinell 172: | ||
1: [[Aden]] yn [[De Arabia]] a gadawodd y gymanwlad yn 1968.

1: [[Aden]] yn [[De Arabia]] a gadawodd y gymanwlad yn 1968.

2: Trodd i [[ |
2: Trodd i [[Gaiana]] yn 1966.

3: Trodd i [[Belize]] yn 1973.

3: Trodd i [[Belize]] yn 1973.

4: Trodd i [[Sri Lanka]] yn 1972.

4: Trodd i [[Sri Lanka]] yn 1972.

Fersiwn yn ôl 04:06, 9 Hydref 2013
Cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf yn 1930 yn Hamilton, Canada. Eu henw swyddogol ar y pryd oedd Gemau Ymerodraeth Prydain. Newidwyd yr enw yn 1954 i Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad, ac eto yn 1970, newidwyd i Gemau Cymanwlad Prydain cyn dod at yr enw presennol, Gemau'r Gymanwlad, yn 1974.
Yn ogystal a nifer o chwaraeon Olympaidd, mae'r gemau'n cynnwys rhai chwaraeon a chwaraeir, yn bennaf, yng Ngwledydd y Gymanwlad, er enghraifft, bowlio lawnt a rygbi saith a phêl rwyd.
Mae 53 aelod o Wledydd y Gymanwlad ar y funud, ac mae 71 tîm yn cymryd rhan yn y gemau. Mae'r pedwar gwlad a greir Y Deyrnas Unedig — Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon—yn anfon timau ar wahân i'r Gemau. Mae timau unigol hefyd yn cael eu gyrru o ardaloedd sy'n dibynnu ar Goron Lloegr — Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw— a srhai o cyn-diroedd Prydain dros y môr. Mae cyn-diroedd pell megis Awstralia ac Ynys Norfolk hefyd yn anfon eu timau eu hunain, yn ogystal ag Ynysoedd Cook a Niue: dwy talaith di-sofren sydd mewn cymdeithas rydd â Seland Newydd.
Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o Gemau'r Gymanwlad: Awstralia, Canada, Lloegr, Seland Newydd, Yr Alban a Chymru.
Gwreiddiau
Cynigwyd y syniad o'r cystadlaethau hyn gan Ymerodraeth Prydain yn gyntaf gan y Parchedig Astley Cooper yn 1891 pan ysgrifennodd erthygl yn The Times yn cynnig "Pan-Britannic-Pan-Anglican Contest and Festival every four years as a means of increasing the goodwill and good understanding of the British Empire".
Yn 1911, cynhaliwyd Gŵyl yr Ymerodraeth yn Llundain i ddathlu coroni Brenin Siôr V. Fel rhan o'r ŵyl, cynhaliwyd Pencampwriaeth Rhyng-Ymerodraethol, a chystadleuodd timau o Awstralia, Canada, De Affrica a'r Deyrnas Unedig mewn chwaraeon megis bocsio, wrestlo, nofio ac athletau.
Yn 1928, gofynnwyd i Melville Marks (Bobby) Robinson drefnu'r Gemau Ymerodraeth Prydain cyntaf. Cynhaliwyd y rhain yn Hamilton, Ontario, Canada ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Traddodiadau seremoni agoriadol
- O 1930 i 1950, arweinwyd yr orymdaith o'r cenhedloedd gan un athlewtwr yn cario Baner yr Undeb, yn symboleiddio rôl Prydain yn yr Ymerodraeth Brydeinig.
- Ers 1958, mae relay o athletwyr yn cario baton o Balas Buckingham i'r Seremoni Agoriadol. Yn y baton, mae neges gan y Frenhines yn cyfarch yr athletwyr. Yr athletwr olaf i gario'r baton, fel arfer, fydd athletwr enwog o'r wlad sy'n cynnal y Gemau.
- Mae pob cenedl arall yn gorymdeithio i mewn yn nhrefn yr wyddor Saesneg, heblaw'r cyntaf, sef y wlad a gynhaliodd y Gemau diwethaf, gyda'r wlad sy'n cynnal y Gemau yn dod i mewn olaf. Yn 2006, gorymdeithiodd y gwledydd i mewn mewn trefn yn ôl lleoliad daearyddol.
- Mae tair baner yn hedfan yn y stadiwm yn ystod y seremoniau gwobrwyo: Y wlad a gynhaliodd y gemau diwethaf, y wlad sy'n cynnal, a'r wlad sy'n cynnal y Gemau nesaf.
- Mae byddin Lloegr yn ymwneud â'r seremoniau tipyn mwy nag ydynt yn y Gemau Olympaidd. Mae hyn i anrhydeddu traddodiad Milwrol Prydeinig yr hen Ymerodraeth; er bod llawer yn anghytuno â hyn.
Boicotiau
Yn debyg i'r Gemau Olympaidd, mae Gemau'r Gymanwlad hefyd wedi cael eu boicotio yn wleidyddol. Boicotwyd y Gemau yn 1978 gan Nigeria mewn protest yn erbyn cysylltiadau Seland Newydd gydag De Affrica ac apartheid. Boicotiodd 32 genhedloedd Affrica, Asia, a'r Caribi Gemau 1986, oherwydd agwedd llywodraeth Margaret Thatcher tuag at gysylltiadau chwaraeon De Affrica. Bygythwyd gemau 1974, 1982, ac 1990 hefyd gan foicotiau oherwydd De Affrica.
Rhifynnau
Gemau Ymerodraeth Prydain
- Gemau Ymerodraeth Prydain 1930- Hamilton, Ontario, Canada
- Gemau Ymerodraeth Prydain 1934 - Llundain, Lloegr
- Gemau Ymerodraeth Prydain 1938 - Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia
- Gemau Ymerodraeth Prydain 1950 - Auckland, Seland Newydd
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
- Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954- Vancouver, British Columbia, Canada
- Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1958 - Caerdydd, Cymru
- Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1962 - Perth, Gorllewin Awstralia, Awstralia
- Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1966 - Kingston, Jamaica
Gemau Cymanwlad Prydain
- Gemau Cymanwlad Prydain 1970 - Caeredin, Yr Alban
- Gemau Cymanwlad Prydain 1974 - Christchurch, Seland Newydd
Gemau'r Gymanwlad
- Gemau'r Gymanwlad 1978 - Edmonton, Alberta, Canada
- Gemau'r Gymanwlad 1982 - Brisbane, Queensland, Awstralia
- Gemau'r Gymanwlad 1986 - Caeredin, Yr Alban
- Gemau'r Gymanwlad 1990 - Auckland, Seland Newydd
- Gemau'r Gymanwlad 1994 - Victoria, British Columbia, Canada
- Gemau'r Gymanwlad 1998 - Kuala Lumpur, Malaysia
Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad
- Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad 2002 - Manceinion, Lloegr
- Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad 2006 - Melbourne, Victoria, Awstralia
- Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad 2010 - Delhi, India
- Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad 2014 Glasgow, Yr Alban
Dinasoedd Cais potensial Gemau'r Gymanwlad 2018
- Hobart, Tasmania, Australia
- Christchurch, Seland Newydd [1]
- Durban, De Affrica [2]
- Hamilton, Ontario, Canada
- Karachi, Pakistan
- Lusaka, Zambia
- Sheffield, Lloegr
- Toronto, Ontario, Canada
- Wellington, Seland Newydd
Rhestr y cenhedloedd/dibynadwyoedd i gystadlu
Cenhedloedd/dibynadwyoedd sydd wedi cystadlu

Nodiadau:
1: Aden yn De Arabia a gadawodd y gymanwlad yn 1968.
2: Trodd i Gaiana yn 1966.
3: Trodd i Belize yn 1973.
4: Trodd i Sri Lanka yn 1972.
5: Trodd i Ghana yn 1957.
6: Gadawodd y gymanwlad pan roddwyn nôl i Tseina yn 1997.
7: Cynyrchiolwydd Iwerddon fel Iwerddon Rydd a Gogledd Iwerddon yn 1934. Gadawodd Iwerddon Rydd y gymanwlad yn 1937 odan yr enw Gweriniaeth Iwerddon.
8: Ymunodd Malaya, North Borneo, Sarawak a Singapore i greu ffederasiwn Malaysia yn 1963. Gadawodd Singapore y ffederasiwn yn 1965.
9: Ymunodd â Chanada yn 1949.
10: Creodd De Rhodesia a Gogledd Rhodesia ffederasiwn gyda Nyasaland yn 1953 fel Rhodesia a Nyasaland, parhaodd hyn tan 1963.
11: Rhanwyd i greu De Rhodesia a Gogledd Rhodesia yn 1953.
12: Cystadlwyd o 1958–1962 fel rhan o Rhodesia a Nyasaland.
13: Creodd Zanzibar a Tanganyika ffederasiwn i greu Tanzania yn 1964.
14: Gadawodd y gymanwlad yn 2003.
Cenhedloedd sydd heb gystadlu
Nid oes llawer o wledydd sydd heb gystadlu yn y Gemau, tystiolaeth yn ei hun sy'n brawf o boblogrwydd y Gemau yng ngwledydd y Gymanwlad. O'r gwledydd hynny, mae Tokelau yn debygol o gymryd rhan yn Gemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi. Mae Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad, Cernyw a Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus hefyd wedi gwneu cais i'r CGF i gymryd rhan. Mae cenhedloedd eraill sy'n ddilys i gymryd rhan yn cynnwys Ynys y Nadolig a Ynysoedd Cocos (Keeling). Gallwn ddychmygu y gallai Rwanda a Yemen gymryd rhan mewn gemau yn y dyfodol.
Rhestr Chwaraeon yn Ngemau'r Gymanwlad
Mae'r rheolau presennol yn gosod lleiafrif o ddeg, a dim mwy na phymtheg o chwaraeon i gael eu cynnwys yn amserlen Gemau'r Gymanwlad. Mae rhestr o chwaraeon craidd, sydd rhaid eu cynnwys, a rhestr pellach o chwaraeon atodol y gellir dewis ohonni. Gall y wlad sy'n caynnal y gemau, ofyn i Gynulliad Cyffredinol y CGF am ragor o chwaraeon tîm i gael eu cynnwys, fel y gwnaeth Pwyllgor Trefnu Melbourne gyda Phêl Fasged ar gyfer Gemau 2006.
Mae'r rhestr chwaraeon craidd, ar hyn o bryd, yn cynnwys athletau, dyfrolau (nofio, deifio and nofio wedi'i syncroneiddio), bowlio lawnt, pêl-rwyd (merched) a rygbi saith bob ochor (dynion). Caiff y rhain aros yn chwaraeon craidd hyd o leiaf Gemau 2014.
Mae'r rhestr o chwaraeon atodol hefyn yn cynnwys saethyddiaeth, badminton, biliards, snwcer, bocsio, canwio, seiclo, ffensio, gymnasteg, jiwdo, rhwyfo, saethu, sboncen, tenis bwrdd, tenis, bowlio deg, triathlon, codi pwysau, wrestlo a mordwyo. Cynhwysir rhai o'r rhain yn aml, ond nid yw eraill megis biliards a mordwyo, wedi eu derbyn yn llawn eto.
Yn 2002, cyflwynodd y CGF Tlws David Dixon ar gyfer chwaraewr rhagorol y Gemau.
Mae'n angenrheidiol hefyd, cynnwys chwaraeon ar gyfer Athletwyr Elet gydag Anabledd (Elite Athletes with a Disability (EAD)). Cyflwynwyd y rheol yma yng Ngemau 2002.
Ar 18 Tachwedd, 2006, ategwyd tenis a at restr y chwaraeon ar gyfer Gemau 2010 yn Delhi, yn dod a chyfanswm y chwaraeon i 17. Cafodd Biliards a snwcer eu hystyried, ond ni dderbynwyd mohonynt.
Chwaraeon a gynhwysir yn y Gemau ar yr hyn o bryd
Dengys y blynyddoedd mewn bracedi, y blynyddoedd pan gafodd y chwaraeon eu cynnwys yn y gemau am y tro cyntaf.
- Dyfrolau (1930—)
- Athletau (men: 1930—, women: 1934—)
- Badminton (1966—)
- Pêl fasged (2006—)
- Paffio (1930—)
- Seiclo (1934—)
- Gymnasteg (1978, 1990—)
- Gymnasteg rhythmig (1994–1998, 2006—)
- Hoci Cae (1998—)
- Bowlio lawnt (1930–1962, 1972—)
- Pêl-rwyd (1998—)
- Rygbi saith bob ochor (1998—)
- Saethu (1966, 1974—)
- Sboncen (1998—)
- Tenis bwrdd (2002—)
- Triathlon (2002—)
- Codi pwysau (1950—)
Chwaraeon ar gyfer chwaraewyr gydag Anabledd
Chwaraeon ar Adwy
- Saethyddiaeth (1982)
- Criced (1998)
- Ffensio (1950–1970)
- Ymgodymu amatur
- Jiwdo (1990, 2002)
- Rhwyfo (1930, 1938–1962, 1986)
- Bowlio deg (1998)
Chwaraeon na chawsant mo'u cynnwys erioed
Dolenni allanol
- Gwefan Swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- Blog Gemau'r Gymanwlad
- Baneri ac arwyddluniau Gemau'r Gymanwlad - esblygiad arwyddluniau'r Gemau
- The Empire Strikes Back - Rhaglen Radio Awstralia, (gydag adysgrif) am hanes a dyfodol y "gemau cyfeillgar".
- Almanac Canlyniadau Trac a Chae
Gwefanau swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- Gwefan Swyddogol Delhi 2010
- Gwefan Swyddogol India & Gemau'r Gymanwlad 2010: Gwybodaeth benodedig
- Gwefan Swyddogol Melbourne 2006
- Gwefan Swyddogol Manceinion 2002
- Gewfan Swyddogol Kuala Lumpur 1998
Gwefanau swyddogol gwledydd sydd wedi gwneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
Gwledydd
- (Saesneg) Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad, Awstralia
- (Saesneg) Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Ynys Manaw
- (Saesneg) Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Lloegr