Gerallt Gymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Manorbier Castle 3.jpg|250px|bawd|Castell Maenorbŷr, lle ganwyd Gerallt Gymro]]
[[Delwedd:Gerallt Gymro 00dg.JPG|250px|bawd|de|Gerallt Gymro]]
Roedd '''Gerallt Gymro''' (neu '''Giraldus Cambrensis''' yn [[Lladin]]) (c.[[1146]]- c.[[1223]]) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol. Ei enw bedydd oedd '''Gerald de Barri'''. Roedd yn ysgolhaig gwych a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd. Roedd o dras gymysg, hanner Cymreig, hanner [[Normaniaid|Normanaidd]] ac mae hyn yn elfen amlwg yn ei agwedd a'i yrfa. Fe'i gwerthfawrogir yn bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y [[12fed ganrif]].
Roedd '''Gerallt Gymro''' (neu '''Giraldus Cambrensis''' yn [[Lladin]]) (c.[[1146]]- c.[[1223]]) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol Cymreig. Ei enw bedydd oedd '''Gerald de Barri''' ([[Ffrangeg Normanaidd]]). Roedd yn ysgolhaig gwych a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd. Roedd o dras gymysg, hanner Cymreig, hanner [[Normaniaid|Normanaidd]] ac mae hyn yn elfen amlwg yn ei agwedd a'i yrfa. Fe'i gwerthfawrogir yn bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y [[12fed ganrif]].


==Teulu a blynyddoedd cynnar==
==Teulu a blynyddoedd cynnar==
[[Delwedd:Gerallt Gymro 00dg.JPG|250px|bawd|chwith|'''Gerallt Gymro''']]
[[Delwedd:Manorbier Castle 3.jpg|250px|bawd|Castell Maenorbŷr, lle ganwyd Gerallt Gymro]]

Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr hyddysg yn yr iaith [[Lladin|Ladin]]. Fe'i ganwyd yn [[1146]] yng nghastell [[Maenor Bŷr]], [[Sir Benfro]] yn fab i [[Angharad ferch Nest|Angharad]], merch [[Nest merch Rhys ap Tewdwr|Nest]] (fl.[[1100]]-[[1120]]), merch [[Rhys ap Tewdwr]]) a [[William de Barri]], arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Ynys y Barri]].
Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr hyddysg yn yr iaith [[Lladin|Ladin]]. Fe'i ganwyd yn [[1146]] yng nghastell [[Maenor Bŷr]], [[Sir Benfro]] yn fab i [[Angharad ferch Nest|Angharad]], merch [[Nest merch Rhys ap Tewdwr|Nest]] (fl.[[1100]]-[[1120]]), merch [[Rhys ap Tewdwr]]) a [[William de Barri]], arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] [[Ynys y Barri]].



Fersiwn yn ôl 16:03, 2 Hydref 2013

Gerallt Gymro

Roedd Gerallt Gymro (neu Giraldus Cambrensis yn Lladin) (c.1146- c.1223) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol Cymreig. Ei enw bedydd oedd Gerald de Barri (Ffrangeg Normanaidd). Roedd yn ysgolhaig gwych a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd. Roedd o dras gymysg, hanner Cymreig, hanner Normanaidd ac mae hyn yn elfen amlwg yn ei agwedd a'i yrfa. Fe'i gwerthfawrogir yn bennaf heddiw am ei ddau lyfr arbennig am Gymru sy'n rhoi golwg unigryw ar fywyd y wlad ar ddiwedd y 12fed ganrif.

Teulu a blynyddoedd cynnar

Castell Maenorbŷr, lle ganwyd Gerallt Gymro

Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr hyddysg yn yr iaith Ladin. Fe'i ganwyd yn 1146 yng nghastell Maenor Bŷr, Sir Benfro yn fab i Angharad, merch Nest (fl.1100-1120), merch Rhys ap Tewdwr) a William de Barri, arglwydd Normanaidd Ynys y Barri.

Treuliodd gyfnod fel archddiacon Brycheiniog yn Aberhonddu. Roedd ei ewythr Dafydd, yn esgob Tyddewi, a phan fu farw yn 1176 dewisodd y Cymry Gerallt i'w olynu, ond gwrthododd Archesgob Caergaint ei dderbyn gan benodi Sais yn ei le. Dyna un rheswm pam yr oedd Gerallt yn gobeithio y byddai'r Cymry yn gallu herio awdurdod Caergaint.

Y Daith Trwy Gymru

Yn 1188 roedd Baldwin, Archesgob Caergaint, am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r Drydedd Groesgad ac i ymweld ag eglwysi cadeiriol Cymru i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru).

Dechreuodd y daith yn Henffordd; aethant wedyn drwy Ddyffryn Wysg i'r Fenni, ac yna trwy Frynbuga i Gaerlleon. Aethant yn eu blaenau i eglwys gadeiriol Llandaf, Abaty Margam, Cydweli a Caerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf ac wedyn eglwys gadeiriol Tyddewi. Teithio tua'r gogledd wedyn, i Ystrad Fflur a mynachlog Llanbadarn Fawr a chyrraedd y drydedd eglwys gadeiriol ym Mangor a'r bedwaredd yn Llanelwy. Ar ddiwedd y daith dychwelodd yr Baldwin i Loegr.

Ar y daith roedd tua thair mil o wŷr wedi addo ymuno yn y Groesgad, ond yn y diwedd ychydig iawn a aeth.

Ysgolheictod

Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr yn ei oes. Astudiodd yn ysgol eglwys Sant Pedr yng Nghaerloyw, ym Mharis ac yn Lincoln. Yn ogystal â Hanes y Daith trwy Gymru, ysgrifennodd sawl llyfr arall, i gyd mewn Lladin, gan gynnwys disgrifiad o Iwerddon (Topographia Hibernica) yn 1188, y Disgrifiad o Gymru (Descriptio Kambriae) rhwng 1193 a 1215, a'r Speculum Duorum, gwaith athronyddol, yn 1216. Ysgrifennodd hefyd Expugnatio Hibernica ("Concwest Iwerddon") a nifer o ysgrifau.

Llyfryddiaeth

  • Topographia Hibernica (Daearyddiaeth Iwerddon) (1188)
  • Expugnatio Hibernica (Goresgyniad Iwerddon)
  • Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru) (1191)
  • Descriptio Cambriae (Y Disgrifiad o Gymru) (1194)
  • De instructione principis (Ynglŷn â hyfforddi tywysogion)
  • De rebus a se gestis
  • De iure et statu Menevensis ecclesiae
  • Gemma ecclesiastica
  • Speculum duorum
  • Speculum ecclesiae
  • Symbolum electorum
  • Invectiones
  • Retractationes
  • Vita sancti Hugonis Lindensis (Bywyd Huw o Lincoln)
  • Vita Galfridi archiepiscopi Eboracensis (Bywyd Sieffre esgob Efrog)
  • Vita sancti Ethelberti (Buchedd Sant Ethelbert)
  • Vita sancti Remigii
  • Vita sancti Davidii (Buchedd Dewi Sant)

Gwaith Gerallt mewn cyfieithiad

  • Lewis Thorpe (cyf.), The journey through Wales and The description of Wales (Llundain, 1978)
  • John J. O'Meara (cyf.), The history and topography of ireland (Llundain, 1982)
  • Thomas Jones (cyf.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938). "Hanes y Daith trwy Gymru" a'r "Disgrifiad o Gymru".

Llyfrau amdano

  • Robert Bartlett, Gerald of Wales (1982)
  • Thomas Jones, Gerallt Gymro (Caerdydd, 1947)
  • Michael Richter, Giraldus Cambriensis and the Growth of the Welsh Nation (1972)

Gweler hefyd