Olew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
B File:Motor oil.jpg → File:Mobil 1 motor oil.jpg File renamed |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Mobil 1 motor oil.jpg|150px|bawd|Olew modur]] |
||
Hylif na ellir ei gymysgu â [[dŵr]] yw '''olew'''. Mae [[pris olew]] [[petroliwm]] yn effeithio ar [[economi]] gwledydd y byd. |
Hylif na ellir ei gymysgu â [[dŵr]] yw '''olew'''. Mae [[pris olew]] [[petroliwm]] yn effeithio ar [[economi]] gwledydd y byd. |
||
Fersiwn yn ôl 18:36, 1 Hydref 2013
Hylif na ellir ei gymysgu â dŵr yw olew. Mae pris olew petroliwm yn effeithio ar economi gwledydd y byd.
Ceir gwahanol fathau o olew, gan gynnwys:
- Olew ffosil sydd yn adnodd naturol ac a ddefnyddir fel ffynhonnell ynni neu wres, megis petroliwm, disel a paraffin. Fe'i ceir mewn creigiau.
- Olew organig sy'n cynnwys hanfod blodau neu blanhigion eraill megis blodau haul; mae'r gwyddonydd yn defnyddio'r term lipids am y rhain.
Ceir llawer o ddefnyddiau i olew, gan gynnwys:
- Olew cosmetig i wella ansawdd y croen
- Olew ar gyfer iro, a roddir i beiriant neu injan er mwyn iddi hi droi yn iawn, heb ffrithiant
- Paratoi bwyd, er enghraifft olew'r olewyddan (Saesneg: olive oil)
- Tanwydd ar gyfer cynesu adeiladau neu yrru cerbyd
- Paent-olew; defnyddir paent olew ers 15ed Ganrif
- Seremoniau crefyddol (i eneinio'r corff hefyd)
Y Gynghrair Arabaidd yw prif gynhyrchydd olew'r byd, gyda Saudi Arabia yn ail, a Rwsia'n drydydd.
Cymru
Er ymchwilio eitha sylweddol yn y 1990au, yn enwedig ym Mae Ceredigion, ni chanfyddwyd cyflenwadau masnachol. Agorwyd y burfa olew cyntaf yng Nghymru yn Llandarcy yn 1919 a hon oedd y fwyaf o'i bath drwy Brydain. Cludwyd yr olew yno ar loriau, o ddociau Abertawe. Bomiwyd Abertawe'n ddidrugaredd gan yr Almaen er mwyn torri'r cyflenwad olew hwn. erbyn hyn o ddociau Aberdaugleddau y daw'r cyflenwad o olew crai, yna'i gludo drwy bibell 97km o hyd i Landarcy.