Rhygyfarch ap Sulien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso, categoriau |
|||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
{{DEFAULTSORT:Rhigyfarch ap Sulien}} |
{{DEFAULTSORT:Rhigyfarch ap Sulien}} |
||
[[Categori:Beirdd Cymreig]] |
[[Categori:Beirdd Cymreig yn yr iaith Ladin]] |
||
[[Categori:Beirdd Lladin]] |
|||
[[Categori:Cymry'r 11eg ganrif]] |
[[Categori:Cymry'r 11eg ganrif]] |
||
[[Categori:Esgobion Tyddewi]] |
[[Categori:Esgobion Tyddewi]] |
Fersiwn yn ôl 23:00, 30 Medi 2013
Roedd Rhygyfarch ap Sulien (1056? - 1099) (weithiau Ricemarchus; weithiau Rhigyfarch mewn ffynonellau Saesneg) yn ysgolhaig ac yn Esgob Tyddewi.
Bywgraffiad
Mab oedd i Sulien, yntau yn ysgolhaig nodedig, yn Esgob Tyddewi, ond yn bennaf yn gysylltiedig â chlas Llanbadarn Fawr. Roedd yn frawd i Ieuan ap Sulien.[1]
Ysgrifennodd Rhygyfarch y llawysgrif Ladin Sallwyr Rhygyfarch, sy'n cynnwys cyfieithiad o'r Sallwyr Hebraeg a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Lluniwyd y llawysgrif yn Llanbadarn Fawr tua'r flwyddyn 1079; gwnaethpwyd y llythrennnau lliw gan ei frawd Ieuan. Cedwir y llawysgrif yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn.[2]
Cyfansoddodd gerdd arall yn galaru oherwydd anrheithiau'r Normaniaid yng Ngheredigion. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidis (Buchedd Dewi), a gyfansoddwyd tua'r flwyddyn 1094 i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Dilynodd ei dad fel Esgob Tyddewi yn 1088.[3]
Llyfryddiaeth
- D. Simon Evans, Buched Dewi (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.