Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso, categoriau |
→Bywgraffiad: marw |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Gweithiai'n ddyfal gyda [[William Salesbury]] i berswadio senedd [[San Steffan]] i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r [[Beibl]] a'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]] i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno yn [[1563]] ymunodd â Salesbury yn ei blas yn [[Abergwili]] i gyfieithu'r [[Testament Newydd]] gyda fo. Richard Davies yw awdur yr ''[[Epistol at y Cembru]]'' ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd [[1567]]; cafodd ddylanwad mawr ar [[hanesyddiaeth]] [[Cymru]]. |

Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. |
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd. |
||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 05:22, 27 Medi 2013
- Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).
Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 - 7 Tachwedd 1581), a aned yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa egwlwysig bu'n esgob Llanelwy a Tyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).
Bywgraffiad
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari, brenhines yr Alban, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n esgob Llanelwy ac yna yn 1561 yn esgob Tyddewi.
Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno yn 1563 ymunodd â Salesbury yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd gyda fo. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.
Llyfryddiaeth
- D.R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)