Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion iaith
Llinell 76: Llinell 76:
[[Categori:Marwolaethau 1967|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Marwolaethau 1967|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 20fed ganrif|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Llenorion plant Cymraeg|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Llenorion plant Cymraeg|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Nofelwyr Cymraeg|Davies, Edward Tegla]]
[[Categori:Nofelwyr Cymraeg|Davies, Edward Tegla]]

Fersiwn yn ôl 16:54, 26 Medi 2013

Edward Tegla Davies
Geni Edward Tegla Davies
1880
Llandegla-yn-Iâl, Sir Ddinbych, Cymru
Marw 9 Hydref, 1967
Galwedigaeth Nofelydd, bardd
Addysg Ysgol Dr Williams, Dolgellau.
Math o lên Nofelau i blant, straeon byrion, ysgrifau
Gwaith nodedig Gŵr Pen y Bryn, Y Llwybr Arian

Llenor yn yr iaith Gymraeg, a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (1880 - 9 Hydref, 1967) oedd Edward Tegla Davies. Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.

Bywyd

Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger Rhuthun yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlchgwyn, ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel gweinidog Wesla am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, a'r Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.

Gwaith Llenyddol

Ysgrifennai ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.

Llyfrau i blant yn bennaf

Llyfrau eraill

Llyfryddiaeth

  • Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
  • Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
  • Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
  • Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
  • Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372
  • R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".

Dolennau allanol


Edward Tegla Davies Tegla
Ar Ddisberod | Y Doctor Bach | Y Foel Faen | Gŵr Pen y Bryn | Gyda'r Blynyddoedd | Gyda'r Glannau | Hen Ffrindiau | Yr Hen Gwpan Cymun | Hunangofiant Tomi | Y Llwybr Arian | Nedw | Rhyfedd o Fyd | Rhys Llwyd Y Lleuad | Stori Sam | Tir Y Dyneddon