Gwynfardd Brycheiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3331174 (translate me)
tacluso, categoriau
Llinell 1: Llinell 1:
'''Gwynfardd Brycheiniog''' (fl. [[1170au]]) yw'r cynharaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-ddwyrain. Canodd i'r [[Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] ac mae'n debygol ei fod wedi cymryd rhan yn [[Eisteddfod Aberteifi, 1176]].
'''Gwynfardd Brycheiniog''' (fl. [[1170au]]) yw'r cynharaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-ddwyrain. Canodd i'r [[Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] ac mae'n debygol ei fod wedi cymryd rhan yn [[Eisteddfod Aberteifi, 1176]].<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>


==Y bardd==
==Bywgraffiad==
Ychydig a wyddys amdano ac eithrio ei enw a'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys fod ei enw yn efelychiad o enw bardd cynharach o'r De, sef [[Gwynfardd Dyfed]]. Roedd y Gwynfardd hwnnw yn dad i [[Cuhelyn Fardd|Guhelyn Fardd]], un o gyndeidiau [[Dafydd ap Gwilym]]. Awgrym arall ynglŷn â'r enw yw ei fod yn cyfeirio at degwch (un ystyr ''gwyn'') [[awen]] y bardd neu at y ffaith ei fod yn perthyn i urdd eglwysig (ystyr arall ''gwyn''/''gwen'' fel ansoddair [[Cymraeg Canol]] yw 'bendigaid'). Mae'r epithet Brycheiniog yn dangos ei fod yn hannu o'r ardal honno; ategir hyn gan y wybodaeth fanwl am eglwysi Brycheiniog a welir yn ei awdl i Ddewi Sant. Mae cyfeiriadau eraill yn yr awdl honno yn dangos ei fod wedi ymweld â [[Tyddewi]] a hefyd â [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], efallai.
Ychydig a wyddys amdano ac eithrio ei enw a'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys fod ei enw yn efelychiad o enw bardd cynharach o'r De, sef [[Gwynfardd Dyfed]]. Roedd y Gwynfardd hwnnw yn dad i [[Cuhelyn Fardd|Guhelyn Fardd]], un o gyndeidiau [[Dafydd ap Gwilym]]. Awgrym arall ynglŷn â'r enw yw ei fod yn cyfeirio at degwch (un ystyr ''gwyn'') [[awen]] y bardd neu at y ffaith ei fod yn perthyn i urdd eglwysig (ystyr arall ''gwyn''/''gwen'' fel ansoddair [[Cymraeg Canol]] yw 'bendigaid'). Mae'r epithet Brycheiniog yn dangos ei fod yn hannu o'r ardal honno; ategir hyn gan y wybodaeth fanwl am eglwysi Brycheiniog a welir yn ei awdl i Ddewi Sant. Mae cyfeiriadau eraill yn yr awdl honno yn dangos ei fod wedi ymweld â [[Tyddewi]] a hefyd â [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], efallai.<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>


==Ei waith==
==Cerddi==
Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Y mae'r [[awdl]] i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i [[Dewi Sant|Ddewi Sant]] yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y [[Gogynfeirdd]] a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y [[sant]] yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o [[Buchedd Dewi|fuchedd y sant]], fel [[Senedd Llanddewibrefi]], a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys [[Llanddewibrefi]]. Mae'r gerdd hir 296 llinell yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y [[clas]]au a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru.
Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Y mae'r [[awdl]] i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i [[Dewi Sant|Ddewi Sant]] yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y [[Gogynfeirdd]] a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y [[sant]] yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o [[Buchedd Dewi|fuchedd y sant]], fel [[Senedd Llanddewibrefi]], a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys [[Llanddewibrefi]]. Mae'r gerdd hir 296 llinell yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y [[clas]]au a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru.<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>


Ceir testunau'r cerddi hyn yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] mewn llaw a briodolir i gopïydd o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]). Digwydd yr awdl i Ddewi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.
Ceir testunau'r cerddi hyn yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] mewn llaw a briodolir i gopïydd o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]). Digwydd yr awdl i Ddewi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.<ref>''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Caerdydd, 1994).</ref>


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
*'Gwaith Gwynfardd Brycheiniog', yn K.A. Bramley, et al. (gol.), ''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol II.
*'Gwaith Gwynfardd Brycheiniog', yn K.A. Bramley, et al. (gol.), ''Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol II.

==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


{{Beirdd y Tywysogion}}
{{Beirdd y Tywysogion}}


{{DEFAULTSORT:Gwynfardd Brycheiniog}}
[[Categori:Beirdd y Tywysogion]]
[[Categori:Beirdd y Tywysogion]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 12fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Pobl o Frycheiniog]]
[[Categori:Teyrnas Brycheiniog]]
[[Categori:Teyrnas Brycheiniog]]

Fersiwn yn ôl 17:42, 23 Medi 2013

Gwynfardd Brycheiniog (fl. 1170au) yw'r cynharaf o Feirdd y Tywysogion o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-ddwyrain. Canodd i'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth ac mae'n debygol ei fod wedi cymryd rhan yn Eisteddfod Aberteifi, 1176.[1]

Bywgraffiad

Ychydig a wyddys amdano ac eithrio ei enw a'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys fod ei enw yn efelychiad o enw bardd cynharach o'r De, sef Gwynfardd Dyfed. Roedd y Gwynfardd hwnnw yn dad i Guhelyn Fardd, un o gyndeidiau Dafydd ap Gwilym. Awgrym arall ynglŷn â'r enw yw ei fod yn cyfeirio at degwch (un ystyr gwyn) awen y bardd neu at y ffaith ei fod yn perthyn i urdd eglwysig (ystyr arall gwyn/gwen fel ansoddair Cymraeg Canol yw 'bendigaid'). Mae'r epithet Brycheiniog yn dangos ei fod yn hannu o'r ardal honno; ategir hyn gan y wybodaeth fanwl am eglwysi Brycheiniog a welir yn ei awdl i Ddewi Sant. Mae cyfeiriadau eraill yn yr awdl honno yn dangos ei fod wedi ymweld â Tyddewi a hefyd â Gwynedd, efallai.[2]

Cerddi

Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Y mae'r awdl i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i Ddewi Sant yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y Gogynfeirdd a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y sant yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o fuchedd y sant, fel Senedd Llanddewibrefi, a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys Llanddewibrefi. Mae'r gerdd hir 296 llinell yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y clasau a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru.[3]

Ceir testunau'r cerddi hyn yn Llawysgrif Hendregadredd mewn llaw a briodolir i gopïydd o Abaty Ystrad Fflur (tua 1300). Digwydd yr awdl i Ddewi yn Llyfr Coch Hergest yn ogystal.[4]

Llyfryddiaeth

  • 'Gwaith Gwynfardd Brycheiniog', yn K.A. Bramley, et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol II.

Cyfeiriadau

  1. Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).
  2. Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).
  3. Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).
  4. Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch