Bleddyn Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso, categoriau |
B →Cerddi |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Cerddi== |
==Cerddi== |
||
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith [[awdl]] a saith cadwyn [[englyn]]ion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd [[marwnad|farwnadau]] i Ddafydd Benfras, [[Goronwy ab Ednyfed]] ([[distain]] Gwynedd) a'i fab [[Hywel ap Goronwy]]. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i [[Rhys ap Maredudd |
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith [[awdl]] a saith cadwyn [[englyn]]ion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd [[marwnad|farwnadau]] i Ddafydd Benfras, [[Goronwy ab Ednyfed]] ([[distain]] Gwynedd) a'i fab [[Hywel ap Goronwy]]. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i [[Rhys ap Maredudd|Rys ap Maredudd ap Rhys]] o Ddeheubarth.<ref>Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.</ref> |
||
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]] ac [[Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn|Owain Goch]]. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua [[1283]].<ref>Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.</ref> |
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]] ac [[Owain Goch ap Gruffudd ap Llywelyn|Owain Goch]]. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua [[1283]].<ref>Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd'.</ref> |
Fersiwn yn ôl 16:35, 23 Medi 2013
Bardd Cymreig oedd Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sydd wedi eu cofnodi yn Llawysgrif Hendregadredd, fel gweddill y testunau.[1]
Bywgraffiad
Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai Dafydd Benfras oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn bencerdd i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys Gwynedd.[2]
Cerddi
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith awdl a saith cadwyn englynion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd farwnadau i Ddafydd Benfras, Goronwy ab Ednyfed (distain Gwynedd) a'i fab Hywel ap Goronwy. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i Rys ap Maredudd ap Rhys o Ddeheubarth.[3]
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr Dafydd ac Owain Goch. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua 1283.[4]
Ceir yn ogystal marwysgafn gan y bardd ar ei wely angau.[5]
Llyfryddiaeth
- Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol