William Thomas (Islwyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q8019287 (translate me)
Llinell 59: Llinell 59:


{{DEFAULTSORT:Thomas, William}}
{{DEFAULTSORT:Thomas, William}}
[[Categori:Genedigaethau 1832]]
[[Categori:Marwolaethau 1878]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Genedigaethau 1832]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig y 19eg ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1878]]
[[Categori:Pobl o Gaerffili]]
[[Categori:Pobl o Gaerffili]]

Fersiwn yn ôl 18:40, 20 Medi 2013

William Thomas
Galwedigaethbardd
Am ddefnydd arall o'r enw Islwyn gweler yma.

Bardd o Gymro oedd William Thomas (3 Ebrill, 1832 - 20 Tachwedd, 1878) a anwyd ger yr Ynys-ddu yng Ngwent (Bwrsdeisdref Sirol Caerffili).

Ei Oes

Roedd Islwyn yn fab i Morgan a Margaret Thomas, yr ieuengaf o naw plentyn. Cafodd ei eni mewn tŷ ger pentref bychan Yr Ynys Ddu, yn Nyffryn Sirhywi, hanner ffordd rhwng Tredegar a Chasnewydd, wrth droed Mynydd Islwyn, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Roedd ei rieni'n weddol gefnog a chafodd addysg yn ysgolion Tredegar, Casnewydd, Y Bont Faen ac Abertawe. Bwriedid iddo fod yn dirfesurydd. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe cyfarfu â merch ieuanc o'r enw Anne Bowen. Roeddent yn bwriadu priodi ond bu farw Anne ar 24 Hydref 1853 yn ddisymwth iawn, yn ugain oed; mae ôl y brofedigaeth honno a'r hiraeth a ddeilliodd ohoni i'w weld ar lawer o waith Islwyn.

Cafodd y bardd droedigaeth grefyddol a dechreuodd farddoni mewn difrif. Yn 1854 dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid; fe'i ordeiniwyd yn 1859. Priododd Martha Davies o Abertawe yn 1864. Bu farw ar 20 Tachwedd, 1878, yn 46 oed. Nid anghofiodd ei gariad gyntaf gydol ei oes. Yn ôl un tyst, ei eiriau olaf oedd, "Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. 'Rwyf yn mynd at Anne 'nawr".

Mae amgueddfa goffa i Islwyn yng Nghapel y Babell, ger Ynys-ddu, yng ngofal Cymdeithas Goffa Islwyn.

Ei gymeriad

Dyma'r portread o Islwyn a rydd ei gyfaill oes Daniel Davies ohono:

Bychan ydoedd o gorffolaeth, ac ysgafn, tua phump troedfedd a chwech modfedd o daldra; yr oedd o bryd tywyll, a'i ymddangosiad yn llednais a gwylaidd; yr oedd y pen yn fawr... Yr oedd y wyneb yn hir, ac yn hardd, a'r trwyn yn lluniaidd, heb fod yn fawr, a'r gwefusau hytrach yn drwchus, a thoriad y genau'n brydferth; yr oedd y talcen yn fawr iawn... yr oedd y llygaid, y rhai oeddynt yn llechu o dan aeliau trymion, yn llawn, yn fawrion, a disglaer, a'u trem ymhell.[1]

Ei waith

Cartref Islwyn (y tŷ olaf ar y dde) wrth droed Mynydd Islwyn

Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth yn gynnar. Ei brif athrawon barddol oedd Gwilym Ilid, ei weinidog a'i frawd yng nghyfraith Daniel Jenkyns ac Aneurin Fardd. Cystadleuai yn yr eisteddfodau lleol a'r Eisteddfod Genedlaethol ac enillodd y goron am ei awdl ar "Carnhuanawc" yn Eisteddfod Y Fenni yn 1853. Enillodd amryw gadeiriau; yn Y Rhyl am awdl "Y Nos" yn 1870, yng Nhgaergybi am awdl "Moses" yn 1872, yng Nhgaerffili am awdl "Cartref" yn 1874 ac yn Nhreherbert am awdl "Y Nefoedd" yn 1877.

Cyfrannai'n gyson i'r cylchgronau, e.e. Y Traethodydd, Y Drysorfa, Y Dysgedydd a'r Cylchgrawn. Yn 1854 cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Barddoniaeth. Bu'n olygydd ar Y Cylchgrawn, Yr Ymgeisydd, Y Glorian a'r Gwladgarwr ac ar golofnau barddoniaeth Y Faner a'r Cardiff Times.

Nodweddir gwaith Islwyn ar ei orau gan gyfriniaeth feiddgar a delweddau ysbrydoledig. Cofir y bardd yn bennaf am ei awdl hir, uchelgeisiol a dylanwadol "Y Storm", sy'n fyfyrdod ar Natur, y Greadigaeth a ffawd dyn. Lluniwyd y gerdd yn syth ar ôl marwolaeth Anne Bowen. Dyma'r llinellau agoriadol:

Pa bryd, O Natur deg, y'th ddysgwyd di
Fyth bythoedd i wedd-newid, ac i roi
I'r tawel a'r ystormus ar dy wedd
Gellweirio fyth, a bythol watwar dyn,
Rhy watwaredig eisoes, nes ei gael
Yn uchel ar y mynydd neu y môr...[2]

Llyfryddiaeth ddethol

Cerddi
  • Barddoniaeth (1854)
  • Caniadau (1867)
  • Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897)
  • Detholiad o waith Islwyn, gol. J. T. Jones (1932)
  • Y Storm, gol. Meurig Walters (1980)
Astudiaethau

Cyfeiriadau

  1. o'r rhagymadrodd i Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897).
  2. Y Storm, gol. Meurig Walters (1980).