Gemau'r Gymanwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
file moved on Commons
Llinell 250: Llinell 250:


== Dolenni allanol ==
== Dolenni allanol ==
* [http://www.thecgf.com/] Gwefan Swyddogol Gemau'r Gymanwlad
* [http://www.thecgf.com/ Gwefan Swyddogol Gemau'r Gymanwlad]
* [http://www.breakingnewsblog.com/commonwealth-games/] Blog Gemau'r Gymanwlad
* [http://www.breakingnewsblog.com/commonwealth-games/ Blog Gemau'r Gymanwlad]
* [http://www.commonwealthgamesflags.com/] Baneri ac arwyddluniau Gemau'r Gymanwlad - esblygiad arwyddluniau'r Gemau
* [http://www.commonwealthgamesflags.com/ Baneri ac arwyddluniau Gemau'r Gymanwlad - esblygiad arwyddluniau'r Gemau]
* [http://www.abc.net.au/rn/talks/8.30/sportsf/stories/s614556.htm] ''The Empire Strikes Back'' - Rhaglen Radio Awstralia, (gydag adysgrif) am hanes a dyfodol y "gemau cyfeillgar".
* [http://www.abc.net.au/rn/talks/8.30/sportsf/stories/s614556.htm ''The Empire Strikes Back''] - Rhaglen Radio Awstralia, (gydag adysgrif) am hanes a dyfodol y "gemau cyfeillgar".
* [http://www.athletics.hitsites.de] Almanac Canlyniadau Trac a Chae
* [http://www.athletics.hitsites.de Almanac Canlyniadau Trac a Chae]


=== Gwefanau Swyddogol Gemau'r Gymanwlad ===
=== Gwefanau swyddogol Gemau'r Gymanwlad ===
* [http://www.cwgdelhi2010.com/] Gewfan Swyddogol Delhi 2010
* [http://www.cwgdelhi2010.com/ Gwefan Swyddogol Delhi 2010]
* [http://www.commonwealth2010.in/] Gewfan Swyddogol India & Gemau'r Gymanwlad 2010: Gwybodaeth Penodedig
* [http://www.commonwealth2010.in/ Gwefan Swyddogol India & Gemau'r Gymanwlad 2010]: Gwybodaeth benodedig
* [http://www.melbourne2006.com.au/] Gewfan Swyddogol Melbourne 2006
* [http://www.melbourne2006.com.au/ Gwefan Swyddogol Melbourne 2006]
* [http://213.131.178.162/home/] Gewfan Swyddogol Manceinion 2002
* [http://213.131.178.162/home/ Gwefan Swyddogol Manceinion 2002]
* [http://213.131.178.160/kl98/default.html/] Gewfan Swyddogol Kuala Lumpur 1998
* [http://213.131.178.160/kl98/default.html/ Gewfan Swyddogol Kuala Lumpur 1998]


=== Gwefanau Swyddogol Gwledydd sydd wedi gwneud Cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad ===
=== Gwefanau swyddogol gwledydd sydd wedi gwneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad ===
* [http://www.abuja2014.org/] Gewfan Swyddogol Cais Abuja 2014
* [http://www.abuja2014.org/ Gwefan Swyddogol Cais Abuja 2014]
* [http://www.glasgow2014.com/] Gewfan Swyddogol Cais Glasgow 2014
* [http://www.glasgow2014.com/ Gwefan Swyddogol Cais Glasgow 2014]


=== Gwledydd ===
=== Gwledydd ===
* {{eicon en}} [http://www.commonwealthgames.org.au] Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad, Awstralia
* {{eicon en}} [http://www.commonwealthgames.org.au Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad, Awstralia]
* {{eicon en}} [http://www.cga.iofm.net/] Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Ynys Manaw]
* {{eicon en}} [http://www.cga.iofm.net/ Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Ynys Manaw]
* {{eicon en}} [http://www.cgce.co.uk] Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Lloegr]
* {{eicon en}} [http://www.cgce.co.uk/ Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad Lloegr]


[[Categori:Chwaraeon]]
[[Categori:Cystadlaethau chwaraeon]]
[[Categori:Cystadlaethau chwaraeon]]
[[Categori:Gemau'r Gymanwlad]]
[[Categori:Gemau'r Gymanwlad| ]]
[[Categori:Hanes]]

Fersiwn yn ôl 16:19, 14 Medi 2013

Cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf yn 1930 yn Hamilton, Canada. Eu henw swyddogol ar y pryd oedd Gemau Ymerodraeth Prydain. Newidwyd yr enw yn 1954 i Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad, ac eto yn 1970, newidwyd i Gemau Cymanwlad Prydain cyn dod at yr enw presennol, Gemau'r Gymanwlad, yn 1974.

Yn ogystal a nifer o chwaraeon Olympaidd, mae'r gemau'n cynnwys rhai chwaraeon a chwaraeir, yn bennaf, yng Ngwledydd y Gymanwlad, er enghraifft, bowlio lawnt a rygbi saith a phêl rwyd.

Mae 53 aelod o Wledydd y Gymanwlad ar y funud, ac mae 71 tîm yn cymryd rhan yn y gemau. Mae'r pedwar gwlad a greir Y Deyrnas UnedigLloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon—yn anfon timau ar wahân i'r Gemau. Mae timau unigol hefyd yn cael eu gyrru o ardaloedd sy'n dibynnu ar Goron Lloegr — Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw— a srhai o cyn-diroedd Prydain dros y môr. Mae cyn-diroedd pell megis Awstralia ac Ynys Norfolk hefyd yn anfon eu timau eu hunain, yn ogystal ag Ynysoedd Cook a Niue: dwy talaith di-sofren sydd mewn cymdeithas rydd â Seland Newydd.

Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o Gemau'r Gymanwlad: Awstralia, Canada, Lloegr, Seland Newydd, Yr Alban a Chymru.

Gwreiddiau

Cynigwyd y syniad o'r cystadlaethau hyn gan Ymerodraeth Prydain yn gyntaf gan y Parchedig Astley Cooper yn 1891 pan ysgrifennodd erthygl yn The Times yn cynnig "Pan-Britannic-Pan-Anglican Contest and Festival every four years as a means of increasing the goodwill and good understanding of the British Empire".

Yn 1911, cynhaliwyd Gŵyl yr Ymerodraeth yn Llundain i ddathlu coroni Brenin Siôr V. Fel rhan o'r ŵyl, cynhaliwyd Pencampwriaeth Rhyng-Ymerodraethol, a chystadleuodd timau o Awstralia, Canada, De Affrica a'r Deyrnas Unedig mewn chwaraeon megis bocsio, wrestlo, nofio ac athletau.

Yn 1928, gofynnwyd i Melville Marks (Bobby) Robinson drefnu'r Gemau Ymerodraeth Prydain cyntaf. Cynhaliwyd y rhain yn Hamilton, Ontario, Canada ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Traddodiadau seremoni agoriadol

  • O 1930 i 1950, arweinwyd yr orymdaith o'r cenhedloedd gan un athlewtwr yn cario Baner yr Undeb, yn symboleiddio rôl Prydain yn yr Ymerodraeth Brydeinig.
  • Ers 1958, mae relay o athletwyr yn cario baton o Balas Buckingham i'r Seremoni Agoriadol. Yn y baton, mae neges gan y Frenhines yn cyfarch yr athletwyr. Yr athletwr olaf i gario'r baton, fel arfer, fydd athletwr enwog o'r wlad sy'n cynnal y Gemau.
  • Mae pob cenedl arall yn gorymdeithio i mewn yn nhrefn yr wyddor Saesneg, heblaw'r cyntaf, sef y wlad a gynhaliodd y Gemau diwethaf, gyda'r wlad sy'n cynnal y Gemau yn dod i mewn olaf. Yn 2006, gorymdeithiodd y gwledydd i mewn mewn trefn yn ôl lleoliad daearyddol.
  • Mae tair baner yn hedfan yn y stadiwm yn ystod y seremoniau gwobrwyo: Y wlad a gynhaliodd y gemau diwethaf, y wlad sy'n cynnal, a'r wlad sy'n cynnal y Gemau nesaf.
  • Mae byddin Lloegr yn ymwneud â'r seremoniau tipyn mwy nag ydynt yn y Gemau Olympaidd. Mae hyn i anrhydeddu traddodiad Milwrol Prydeinig yr hen Ymerodraeth; er bod llawer yn anghytuno â hyn.

Boicotiau

Yn debyg i'r Gemau Olympaidd, mae Gemau'r Gymanwlad hefyd wedi cael eu boicotio yn wleidyddol. Boicotwyd y Gemau yn 1978 gan Nigeria mewn protest yn erbyn cysylltiadau Seland Newydd gydag De Affrica ac apartheid. Boicotiodd 32 genhedloedd Affrica, Asia, a'r Caribi Gemau 1986, oherwydd agwedd llywodraeth Margaret Thatcher tuag at gysylltiadau chwaraeon De Affrica. Bygythwyd gemau 1974, 1982, ac 1990 hefyd gan foicotiau oherwydd De Affrica.

Rhifynnau

Gemau Ymerodraeth Prydain

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad

Gemau Cymanwlad Prydain

Gemau'r Gymanwlad

Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad

Dinasoedd Cais potensial Gemau'r Gymanwlad 2018

Rhestr y cenhedloedd/dibynadwyoedd i gystadlu

Cenhedloedd/dibynadwyoedd sydd wedi cystadlu

  • Aden1 1962
  • Yr Arfordir Aur5 1954
  • Baner Yr Alban Yr Alban 1930—
  • Baner Anguilla Anguilla 1982, 1998—
  • Baner Antigua a Barbuda Antigua a Barbuda 1966–1970, 1978, 1994—
  • Baner Awstralia Awstralia 1930—
  • Baner Y Bahamas Y Bahamas 1954–1970, 1978–1982, 1990—
  • Baner Bangladesh Bangladesh 1978, 1990—
  • Baner Barbados Barbados 1954–1966, 1970–1982, 1990—
  • Baner Belîs Belize 1978, 1994—
  • Baner Bermiwda Bermuda 1930–1938, 1954–1982, 1990—
  • Baner Botswana Botswana 1974, 1982—
  • Guiana Prydeinig2 1930–1938, 1954–1962
  • Honduras Prydeinig3 1962–1966
  • Ynysoedd Prydeinig Virgin 1990—
  • Brunei Darussalam 1958, 1990—
  • Baner Camerŵn Camerŵn 1998—
  • Baner Canada Canada 1930—
  • Ynysoedd Cayman 1978—
  • Ceylon4 1938–1950, 1958–1970
  • Baner Cymru Cymru 1930—
  • Baner Cyprus Cyprus 1978–1982, 1990—
  • Baner De Affrica De Affrica 1930–1958, 1994—
  • De Arabia1 1966
  • De Rhodesia10 1954
  • Baner Dominica Dominica 1958–1962, 1970, 1994—
  • Baner Ffiji Fiji 1938, 1954–1986, 1998—
  • Baner Y Gambia Y Gambia 1970–1982, 1990—
  • Baner Ghana Ghana 1958–1982, 1990—
  • Baner Gibraltar Gibraltar 1958—
  • Baner Grenada Grenada 1970–1974, 1994—
  • Guernsey 1970—
  • Gogledd Borneo8 1958–1962
  • Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon7 1934–1938, 1954—
  • Gogledd Rhoedisia10 1954
  • Guyana 1966–1970, 1978–1982, 1990—
  • Baner Eswatini Gwlad Swazi 1970—
  • Hong Kong6 1934, 1954–1962, 1970–1994
  • Baner India India 1934–1938, 1954–1958, 1966–1982, 1990—
  • Iwerddon7 1930
  • Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon Rydd7 1934
  • Baner Jamaica Jamaica 1934, 1954–1982, 1990—
  • Jersey 1958—
  • Baner Cenia Kenya 1954–1982, 1990—
  • Baner Ciribati Kiribati 1998—
  • Baner Lesotho Lesotho 1974—
  • Baner Lloegr Lloegr 1930—
  • Baner Malawi Malawi12 1970—
  • Malaya8 1950, 1958–1962
  • Baner Maleisia Malaysia 1966–1982, 1990—
  • Baner Maldives Maldives 1986—
  • Baner Malta Malta 1958–1962, 1970, 1982—
  • Baner Mawrisiws Mauritius 1958, 1966–1982, 1990—
  • Montserrat 1994—
  • Baner Mosambic Mozambique 1998—
  • Baner Namibia Namibia 1994—
  • Baner Nawrw Nauru 1990—
  • Newfoundland9 1930–1934
  • Baner Seland Newydd Seland Newydd 1930—
  • Baner Nigeria Nigeria 1950–1958, 1966–1974, 1982, 1990–1994, 2002—
  • Baner Niue Niue 2002—
  • Baner Pacistan Pakistan 1954–1970, 1990—
  • Baner Papua Guinea Newydd Papua Guinea Newydd 1962–1982, 1990—
  • Rhodesia11 1934–1950
  • Rhodesia a Nyasaland10 1958–1962
  • Sant Helena 1982, 1998—
  • Baner Sant Kitts a Nefis Sant Kitts a Nevis (Sant Christopher-Nevis-Anguilla 1978), 1990—
  • Baner Sant Lwsia Sant Lucia 1962, 1970, 1978, 1994—
  • Baner Sant Vincent a'r Grenadines Sant Vincent a'r Grenadines 1958, 1966–1978, 1994—
  • Baner Samoa Samoa a Dwyrain Samoa 1974—
  • Baner Seychelles Seychelles 1990—
  • Baner Sierra Leone Sierra Leone 1966–1970, 1978, 1990—
  • Baner Singapôr Singapore8 1958—
  • Baner Sri Lanca Sri Lanka 1974–1982, 1990—
  • Tanganyika13 1962
  • Baner Tansanïa Tanzania 1966–1982, 1990—
  • Baner Tonga Tonga 1974, 1982, 1990—
  • Baner Trinidad a Tobago Trinidad a Tobago 1934–1982, 1990—
  • Ynysoedd Turks a Caicos 1978, 1998—
  • Baner Twfalw Twfalw Tuvalu 1998—
  • Baner Wganda Uganda 1954–1982, 1990—
  • Baner Fanwatw Vanuatu 1982—
  • Baner Ynys Manaw Ynys Manaw 1958—
  • Baner Ynysoedd Cook Ynysoedd Cook 1974–1978, 1986—
  • Baner Ynysoedd y Falkland Ynysoedd y Falklands 1982—
  • Ynys Norfolk 1986—
  • Baner Ynysoedd Solomon Ynysoedd Solomon 1982, 1990—
  • Baner Sambia Zambia12 1970–1982, 1990—
  • Baner Simbabwe Zimbabwe12,14 1982, 1990–2002

Nodiadau:

1: Aden yn De Arabia a gadawodd y gymanwlad yn 1968.
2: Trodd i Guyana yn 1966.
3: Trodd i Belize yn 1973.
4: Trodd i Sri Lanka yn 1972.
5: Trodd i Ghana yn 1957.
6: Gadawodd y gymanwlad pan roddwyn nôl i Tseina yn 1997.
7: Cynyrchiolwydd Iwerddon fel Iwerddon Rydd a Gogledd Iwerddon yn 1934. Gadawodd Iwerddon Rydd y gymanwlad yn 1937 odan yr enw Gweriniaeth Iwerddon.
8: Ymunodd Malaya, North Borneo, Sarawak a Singapore i greu ffederasiwn Malaysia yn 1963. Gadawodd Singapore y ffederasiwn yn 1965.
9: Ymunodd â Chanada yn 1949.
10: Creodd De Rhodesia a Gogledd Rhodesia ffederasiwn gyda Nyasaland yn 1953 fel Rhodesia a Nyasaland, parhaodd hyn tan 1963.
11: Rhanwyd i greu De Rhodesia a Gogledd Rhodesia yn 1953.
12: Cystadlwyd o 1958–1962 fel rhan o Rhodesia a Nyasaland.
13: Creodd Zanzibar a Tanganyika ffederasiwn i greu Tanzania yn 1964.
14: Gadawodd y gymanwlad yn 2003.

Cenhedloedd sydd heb gystadlu

Nid oes llawer o wledydd sydd heb gystadlu yn y Gemau, tystiolaeth yn ei hun sy'n brawf o boblogrwydd y Gemau yng ngwledydd y Gymanwlad. O'r gwledydd hynny, mae Tokelau yn debygol o gymryd rhan yn Gemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi. Mae Baner Cernyw Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad, Cernyw a Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus hefyd wedi gwneu cais i'r CGF i gymryd rhan. Mae cenhedloedd eraill sy'n ddilys i gymryd rhan yn cynnwys Ynys y Nadolig a Ynysoedd Cocos (Keeling). Gallwn ddychmygu y gallai Baner Rwanda Rwanda a Baner Iemen Yemen gymryd rhan mewn gemau yn y dyfodol.

Rhestr Chwaraeon yn Ngemau'r Gymanwlad

Mae'r rheolau presennol yn gosod lleiafrif o ddeg, a dim mwy na phymtheg o chwaraeon i gael eu cynnwys yn amserlen Gemau'r Gymanwlad. Mae rhestr o chwaraeon craidd, sydd rhaid eu cynnwys, a rhestr pellach o chwaraeon atodol y gellir dewis ohonni. Gall y wlad sy'n caynnal y gemau, ofyn i Gynulliad Cyffredinol y CGF am ragor o chwaraeon tîm i gael eu cynnwys, fel y gwnaeth Pwyllgor Trefnu Melbourne gyda Phêl Fasged ar gyfer Gemau 2006.

Mae'r rhestr chwaraeon craidd, ar hyn o bryd, yn cynnwys athletau, dyfrolau (nofio, deifio and nofio wedi'i syncroneiddio), bowlio lawnt, pêl-rwyd (merched) a rygbi saith bob ochor (dynion). Caiff y rhain aros yn chwaraeon craidd hyd o leiaf Gemau 2014.

Mae'r rhestr o chwaraeon atodol hefyn yn cynnwys saethyddiaeth, badminton, biliards, snwcer, bocsio, canwio, seiclo, ffensio, gymnasteg, jiwdo, rhwyfo, saethu, sboncen, tenis bwrdd, tenis, bowlio deg, triathlon, codi pwysau, wrestlo a mordwyo. Cynhwysir rhai o'r rhain yn aml, ond nid yw eraill megis biliards a mordwyo, wedi eu derbyn yn llawn eto.

Yn 2002, cyflwynodd y CGF Tlws David Dixon ar gyfer chwaraewr rhagorol y Gemau.

Mae'n angenrheidiol hefyd, cynnwys chwaraeon ar gyfer Athletwyr Elet gydag Anabledd (Elite Athletes with a Disability (EAD)). Cyflwynwyd y rheol yma yng Ngemau 2002.

Ar 18 Tachwedd, 2006, ategwyd tenis a at restr y chwaraeon ar gyfer Gemau 2010 yn Delhi, yn dod a chyfanswm y chwaraeon i 17. Cafodd Biliards a snwcer eu hystyried, ond ni dderbynwyd mohonynt.

Chwaraeon a gynhwysir yn y Gemau ar yr hyn o bryd

Dengys y blynyddoedd mewn bracedi, y blynyddoedd pan gafodd y chwaraeon eu cynnwys yn y gemau am y tro cyntaf.

Chwaraeon ar gyfer chwaraewyr gydag Anabledd

Chwaraeon ar Adwy

Chwaraeon na chawsant mo'u cynnwys erioed

Dolenni allanol

Gwefanau swyddogol Gemau'r Gymanwlad

Gwefanau swyddogol gwledydd sydd wedi gwneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad

Gwledydd