David Davies (Dai'r Cantwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5232848 (translate me) |
|||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[Categori:Genedigaethau 1812]] |
[[Categori:Genedigaethau 1812]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1874]] |
[[Categori:Marwolaethau 1874]] |
||
[[Categori:Pobl o Fro Morgannwg]] |
Fersiwn yn ôl 18:38, 12 Medi 2013
Bu'r baledwr Dai'r Cantwr (c. 1812 - 1874) (neu David Davies i roi iddo'i enw llawn) yn amlwg iawn yn Helyntion Beca; alltudiwyd ef i ugain mlynedd oherwydd ei ran yn yr ymgyrch.[1] Roedd yn ddyn tal â gwallt gwinau a barf browngoch.
Ganwyd ef yn Nhregof (neu Dreguff ar lafar), Llancarfan,[2] a bu'n chwarelwr am rai blynyddoedd ac yn was fferm ac yn weithiwr diwydiannol yn Nhredegar cyn ymsefydlu ym Mhontyberem. Bu hefyd yn pregethu ac mae'n bosibl mai ef a enillodd y Delyn yn Eisteddfod y Fenni ym 1838.
Tra'n ceisio dychryn Rheolwr gwaith glo Pontyberem, gweiddodd, Ni chaiff Sais fod yn rheolwr yng Nghymru, mwyach! Fe'i daliwyd yn nhafarn y Plough and Harrow ym Mhump-hewl a'i gyfaill Sioni Sgubor Fawr yn y Tymbl. Yn y brawdlys yng Nghaerfyrddin ar 22 Rhagfyr dedfrydwyd Sioni i alltudiaeth am oes, a Dai'r Cantwr i ugain mlynedd o alltudiaeth.
Pan gyrhaeddodd Wlad Van Diemen's Land (neu Tasmania heddiw), roedd yn 31 oed a hynny yng gorffennaf 1844.
Y baledwr
Tra yng ngharchar Caerfyrddin, ysgrifennodd:
- Drych i fyd wyf i fod,
- Collais glod allswn gael.
- Tost yw'r nod, ddyrnod hael
- I'w gafael ddaeth a mi.
- Yn fy iengtid drycfyd ddaeth,
- Yn lle rhyddid - caethfyd maith,
- Chwanegwyd er fy ngofid.
- Alltud wyf ar ddechrau nhaith...
Cyfeiriadau
- ↑ 'Helynt y Beca' gan V. Eirwen Davies, tud 42; Gwasg Prifysgol Cymru, 1961.
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein, Y Llyfrgell Gendlaethol.