Rhys Meirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delweddau
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Rhys Meirion Albwm cyntaf.PNG|bawd|Albwm cyntaf Rhys yn 2001]]
[[Delwedd:Rhys Meirion Albwm cyntaf.PNG|bawd|Albwm cyntaf Rhys yn 2001]]
Tenor o [[Rhuthun|Ruthun]], [[Sir Ddinbych]] ond sy'n enedigol o ardal [[Porthmadog]] yw '''Rhys Meirion'''. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro ar [[Ysgol Pentrecelyn]], ger [[Rhuthun]].
Tenor o [[Rhuthun|Ruthun]], [[Sir Ddinbych]] ond sy'n enedigol o ardal [[Porthmadog]] yw '''Rhys Meirion'''. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro ar [[Ysgol Pentrecelyn]], ger [[Rhuthun]]. Yn ôl '''Y Times''', "Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role." (Reference: http://www.rhysmeirion.co.uk/?page_id=8).


==Gyrfa==
==Gyrfa==

Fersiwn yn ôl 14:18, 9 Medi 2013

Albwm cyntaf Rhys yn 2001

Tenor o Ruthun, Sir Ddinbych ond sy'n enedigol o ardal Porthmadog yw Rhys Meirion. Cyn troi'n ganwr proffesiynol bu'n brifathro ar Ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun. Yn ôl Y Times, "Rhys has an engaging, clear tone singing the words, and brought a sweet vulnerability to the role." (Reference: http://www.rhysmeirion.co.uk/?page_id=8).

Gyrfa

Bu'n unawdydd gyda'r Raglen Cantorion Ifanc Jerwood Opera Cenedlaethol Lloegr a Chwmni Opera Cymru; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain).

Rhys; Rhuthun, Mai 2011.

Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn Neuadd Frenhinol Albert gyda Bryn Terfel, ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o 9fed Symffoni Beethoven dan arweiniad Richard Hickox, Cyngerdd Dathlu Desert Island Disks yn y Royal Festival Hall Llundain a Requiem Verdi eto yn Neuadd Frenhinol Albert.

Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm Benedictus - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.[1]

Rhannau

Mae ei rolau'n cynnwys Rodolfo yn La Boheme, Pinkerton yn Madam Butterfly, Alfredo yn La Traviata, Nemorino yn L’Elisir d’Amore, Nadir yn Y Pysgotwyr Perlau, Marcello yn La Boheme gan Leoncavallo, y Dug yn Rigoletto, Tebaldo yn Capuletti e Montecchi, Tamino yn Y Ffliwt Hud, y rôl deitl yn Ernani, Morwr yn Tristan und Isolde, Rinuccio yn Gianni Schicchi, Canwr Eidalaidd yn Der Rosenkavalier, Froh yn Das Rheingold, Zinovy yn Lady Macbeth of Mtzensk a nifer eraill.[2]

Cyfeiriadau

Dolen allanol