Siân James (cantores): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 33: Llinell 33:


Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn [[Sir Drefaldwyn]].<ref name="BBCproffil" />
Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn [[Sir Drefaldwyn]].<ref name="BBCproffil" />

Cyhoeddwyd hunangofiant Siân yn 2011 yng nghyfres, ''Cyfres y Cewri'', gan Wasg Gwynedd.





Fersiwn yn ôl 12:58, 7 Medi 2013

Siân James

Cantores a cherddor o Gymru ydy Siân James (ganwyd 1962 yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn).

Cymerodd ran mewn Eisteddfodau o oedran cynnar, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach, y telyn. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion lle dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun, cyn mynd ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Enillodd hefyd gymhwyster dysgu.[1]

Bu'n aelod o'r grŵp Bwchadanas cyn dechrau creu cerddoriaeth yn unigol.[2] Rhyddhaodd bedwar albym ar label Sain cyn cael ei chomisiynu gan BBC 2 i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cyfres Birdman a oedd yn dilyn gwaith swyddog RSPB, Iolo Williams. Roedd y BBC mor hoff o'r caneuon, penderfynwyd eu rhyddhau fel crynoddisg. Erbyn hyn mae James yn rhyddhau recordiau ar ei label ei hun, Recordiau Bos, ac yn recordio o'i stiwdio bach yn ei chartref yn Llanerfyl.

Sian James a Gwyn Jones yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.

Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd Tich Gwilym.

Bu James hefyd yn actio yn ffilm S4C, Tylluan Wen, ac mewn chyfresi megis Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef Siân, darlledwyd pump rhaglen.[2] Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis The Saw Doctors a Capercaillie.[1]

Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn Sir Drefaldwyn.[1]

Cyhoeddwyd hunangofiant Siân yn 2011 yng nghyfres, Cyfres y Cewri, gan Wasg Gwynedd.






Disgograffi

Clawr yr Albwm Di-Gwsg

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Proffil ar wefan BBC Cymru
  2. 2.0 2.1 Bywgraffiad ar wefan Sain