Bashkortostan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
{{eginyn Rwsia}} |
{{eginyn Rwsia}} |
||
[[en:Bashkortostan]] |
Fersiwn yn ôl 12:56, 7 Medi 2013
Gweriniaeth yn Rwsia yw Bashkortostan, neu Gweriniaeth Bashkortostan (Rwseg: Респу́блика Башкортоста́н, Respublika Bashkortostan; IPA: [rʲɪsˈpublʲɪkə bəʂkərtɐˈstan]; Bashcireg: Башҡортостан Республикаһы, Başqortostan Respublikahı), a adwaenir hefyd fel Bashkiria (Rwseg: Башки́рия, Bashkiriya; IPA: [bɐʂˈkʲirʲɪjə]). Fe'i lleolir rhwng Afon Volga a Mynyddoedd yr Wral yn ne'r Rwsia Ewropeaidd. Ei phrifddinas yw Ufa. Poblogaeth: 4,072,292 (Cyfrifiad 2010).
Mae cysylltiadau cryf rhwng y weriniaeth a'i chymydog Tatarstan. Bashkortostan yw'r weriniaeth fwyaf yn Russia o ran ei phoblogaeth. Mae gan y weriniaeth ei llywodraeth ei hunan gyda arlywydd etholedig; yr arlywydd ers Awst 2010 yw Rustem Khamitov. Mae Bashkortostan yn rhan o Ddosbarth Ffederal Volga.
Mae Bashkortostan yn rhannu ffin gyda Crai Perm (gog.), Oblast Sverdlovsk (gog-ddwy.), Oblast Chelyabinsk (dwy.), Oblast Orenburg (de), Gweriniaeth Tatarstan (gor.), a Gweriniaeth Udmurt (gog-gor.).
Dolenni allanol
- (Rwseg) Gwefan swyddogol y weriniaeth
- (Saesneg) bashkortostan ar wefan UNESCO