Ansar al-Sharia (Tiwnisia): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q13257444
Llinell 16: Llinell 16:
[[Categori:Mudiadau Islamaidd]]
[[Categori:Mudiadau Islamaidd]]
[[Categori:Mudiadau terfysgol]]
[[Categori:Mudiadau terfysgol]]

[[en:Ansar al-Sharia (Tunisia)]]
[[fr:Ansar al-Charia (Tunisie)]]

Fersiwn yn ôl 12:34, 7 Medi 2013

Am fudiadau eraill o'r un enw, gweler Ansar al-Sharia (gwahaniaethu).

Mae Ansar al-Sharia (Arabeg : أنصار الشريعة sef 'Amddiffynwyr y Gyfraith Islamaidd'; Ffrangeg: Ansar al-Charia) yn fudiad islamaidd salaffaidd sy'n weithgar yn Tiwnisia ac sy'n hawlio tua 100,000 o gefnogwyr.[1]

Mae'r mudiad yn weithgar ar sawl ffrynt. Ar un lefel, mae aelodau Ansar al-Sharia yn cymryd rhan ym mywyd gwleidyddol Tiwnisia gyda phrotestiadau yn erbyn seciwlariaeth a dylanwadau tramor "anfoesol" e.e. ffilmiau fel Persepolis. Maent hefyd yn darparu elusen i Fwslemiaid tlawd. Ond mae'r mudiad yn cynnwys elfennau jihadaidd hefyd sy'n credu mewn defnyddio trais i sefydlu Islamiaeth yn y wlad ac mewn gwledydd eraill ac a gyhuddir o weithrediadau terfysgol.

Cysylltir jihadwyr Ansar al-Sharia gyda grwp o wrthryfelwyr Islamaidd sydd wedi sefydlu eu hunain ym mynyddoedd Jebel Chambi, ger Kasserine yng ngorllewin y wlad, ger y ffin ag Algeria. Lladdwyd wyth milwr Tiwnisiaidd gan y gwrthryfelwyr ar 29 Gorffennaf 2013.[2] Ddechrau mis Awst 2013 dechreuodd byddin Tiwnisia ymosod ar eu llochesau gan ddefnyddio gynnau ac ymosodiadau o'r awyr gan awyrennau Llu Awyr Tiwnisia. Yn ôl terfysgwr a ddalwyd, mae'r jihadwyr yn cynnwys Algeriaid, Mawretaniaid a Nigeriaid ond mae'r mwyafrif yn Tiwnisiaid.[3]

Cyfeiriadau

Dolen allanol