Rygbi'r undeb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dynogymru (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.
Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.


Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad]] ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban|Yr Alban]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Eidal|Yr Eidal]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc|Ffrainc]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Iwerddon|Iwerddon]] a [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr|Lloegr]]) a'r Pencampwriaeth Rygbi ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin|Yr Ariannin]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Awstralia|Awstralia]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] a [[Crysau Duon|Seland Newydd]]) yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys yr Aviva Premiership yn Lloegr, y Top 14 yn [[Ffrainc]], y Currie Cup yn [[De Affrica|Ne Affrica]], a'r ITM Cup yn [[Seland Newydd]]. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y RaboDirect Pro 12, y cystadleuaeth rhwng tîmoedd yn Yr Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon; y Super Rugby, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r [[Cwpan Heineken]], sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.
Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad]] ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban|Yr Alban]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Eidal|Yr Eidal]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc|Ffrainc]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Iwerddon|Iwerddon]] a [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Lloegr|Lloegr]]) a'r Pencampwriaeth Rygbi ([[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin|Yr Ariannin]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Awstralia|Awstralia]], [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] a [[Crysau Duon|Seland Newydd]]) yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys yr Aviva Premiership yn Lloegr, y Top 14 yn [[Ffrainc]], y Currie Cup yn [[De Affrica|Ne Affrica]], a'r ITM Cup yn [[Seland Newydd]]. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y [[RaboDirect Pro 12]], y cystadleuaeth rhwng tîmoedd yn Yr Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon; y Super Rugby, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r [[Cwpan Heineken]], sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.


Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.
Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.

Fersiwn yn ôl 12:57, 29 Awst 2013

Un or chwaraeon cyswllt llawn ydy rygbi'r undeb. Math o bêl-droed neu gnapan ydyw a ddechreuodd yn Lloegr ar ddechrau'r 19eg ganrif [1] Un o reolau rygbi yw bod hawl rhedeg gyda'r bêl yn eich dwylo. Chwaraeir y gêm gan ddefnyddio pêl hirgrwn, ar ddarn laswellt gan amlaf sydd yn 100m o hyd a 70m o led. Ar bob pen, ceir dwy gôl siap y lythyren H.

Dywedir yn aml mai William Webb Ellis a grëodd y gêm o redeg tra'n dal y bêl ym 1823 yn Ysgol Rugby pan dywedir iddo ddal y bêl tra'n chwarae pêl-droed gan redeg at gôl y gwrthwynebwyr. Er mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi'r hanes hwn, anfarwolwyd stori Ellis yn yr ysgol pan ddatguddiwyd cofed iddo ym 1895. Ym 1848, ysgrifennwyd y rheolau cyntaf gan ddisgyblion - dyma oedd un o'r digwyddiadau cydnabyddedig yn natblygiad cynnar rygbi; mae datblygiadau eraill yn cynnwys penderfyniad Clwb Blackheath i adael Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ym 1863, a'r rhanniad rhwng rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair ym 1895. Y corff sy'n rheoli rygbi'r undeb yng Nghymru yw Undeb Rygbi Cymru.

Rheolir rygbi'r undeb gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ers iddo gael ei greu ym 1886 ac ar hyn o bryd mae ganddo 115 o undebau cenedlaethol. Ym 1995, cafodd y BRRh wared ar gyfyngiadau ar daliadau i chwaraewyr, gan wneud y gêm yn broffesiynol yn gyhoeddus ar y lefel uchaf am y tro cyntaf.

Cynhelir Cwpan Rygbi'r Byd bob pedair blynedd, gydag enillydd y twrnament yn ennill Cwpan Web Ellis. Cynhaliwyd y twrnament cyntaf ym 1987. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad (Yr Alban, Cymru, Yr Eidal, Ffrainc, Iwerddon a Lloegr) a'r Pencampwriaeth Rygbi (Yr Ariannin, Awstralia, De Affrica a Seland Newydd) yn gystadlaethau rhynglwadol a gynhelir yn flynyddol. Mae cystadlaethau gwladol eraill yn cynnwys yr Aviva Premiership yn Lloegr, y Top 14 yn Ffrainc, y Currie Cup yn Ne Affrica, a'r ITM Cup yn Seland Newydd. Mae cystadlaethau trawsgenedl eraill yn cynnwys y RaboDirect Pro 12, y cystadleuaeth rhwng tîmoedd yn Yr Alban, Cymru, Yr Eidal ac Iwerddon; y Super Rugby, sy'n cynnwys tîmoedd De Affrica, Awstralia a Seland Newydd; a'r Cwpan Heineken, sy'n cynnwys y tîmoedd Ewropeaidd mwyaf.

Fel rheol, chwaraeir gêm o rygbi gyda dau dîm o 15, ond gellir hefyd cael dau dîm o 7.

Safleoedd ar y maes

Blaenwyr

Prif gyfrifoldeb y blaenwyr yw ennill a chadw y meddiant. Mae'r blaenwyr fel arfer yn fwy ac yn gryfach, ac yn cymryd rhan yn y sgrym a'r llinell.

Rheng flaen

1 Prop pen rhydd
2 Bachwr
3 Prop pen tyn

Ail reng

4 Clo
5 Clo

Rheng ôl

6 Blaenasgellwr ochr dywyll
7 Blaenasgellwr ochr agored
8 Wythwr

Cefnwyr

9 Mewnwr
10 Maswr
11 Asgellwr chwith
12 Canolwr mewnol
13 Canolwr allanol
14 Asgellwr de
15 Cefnwr

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Origins of Rugby - Codification -"The innovation of running with the ball was introduced some time between 1820 and 1830."