John Bryn Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6223704 (translate me)
B cat Barnwyr Cymreig
Llinell 11: Llinell 11:


{{DEFAULTSORT:Roberts, John Bryn}}
{{DEFAULTSORT:Roberts, John Bryn}}
[[Categori:Barnwyr Cymreig]]
[[Categori:Genedigaethau 1843]]
[[Categori:Genedigaethau 1843]]
[[Categori:Marwolaethau 1931]]
[[Categori:Marwolaethau 1931]]

Fersiwn yn ôl 02:36, 23 Awst 2013

Cyfreithiwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd John Bryn Roberts (8 Ionawr 184314 Ebrill 1931).

Roedd yn fab i Daniel Roberts, Llanddeiniolen ac Anne Jones, Plas Gwanas, Sir Feirionnydd. Er mai tenant ar staf y Faenol oedd ei dad ar y pryd, roedd y teulu yn weddol gefnog, ac yn ddiweddarach prynodd ei dad ei fferm ei hun yn Nhrefarthen ar Ynys Môn.

Addysgwyd ef gatref, yna yn Ysgol Ramadeg Cheltenham. Daeth yn gyfreithiwr, ac yn 1906 yn farnwr ym Morgannwg. Yn 1918, trosglwyddwyd ef i Gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer, lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1921. Yn etholiad cyffredinol 1885, enillodd sedd Eifion fel ymgeisydd Rhyddfrydol, gan guro'r Ceidwadwr H.J. Ellis Nanney. Daliodd y sedd hyd 1906, pan ymddiswyddodd oherwydd ei benodiad fel barnwr.

Ystyrid ef yn elyniaethus i Lloyd George a mudiad Cymru Fydd, er ei fod fel Lloyd George yn gwrthwynebu Rhyfel y Boer.

Llyfryddiaeth

  • Jack Eaton Judge John Bryn Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru, 1989)