Ngũgĩ wa Thiong'o: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 29 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q302910 (translate me)
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q302910
Llinell 19: Llinell 19:
[[Categori:Genedigaethau 1938]]
[[Categori:Genedigaethau 1938]]
[[Categori:Nofelwyr Ceniaidd]]
[[Categori:Nofelwyr Ceniaidd]]

[[nl:Ngũgĩ wa Thiong'o]]

Fersiwn yn ôl 19:42, 20 Awst 2013

Ngũgĩ wa Thiong'o yn Festivaletteratura Mantova, yr Eidal, yn 2012.

Nofelydd a dramodydd Ceniaidd yw Ngũgĩ wa Thiong'o (ganwyd 5 Ionawr 1938).[1] Mae hefyd yn ysgrifennu ar bynciau iaith a threfedigaethrwydd.

Ganwyd James Thiong'o Ngugi yn Limuru, Ardal Kiambu, Kenya.[2] Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Weep Not, Child, yn Saesneg pan oedd yn mynychu Prifysgol Leeds yn Lloegr. Cyhoeddwyd ym 1964.

Cyd-ysgrifennodd y ddrama I Will Marry When I Want gyda Ngugi Wa Mirii, gan feirniadu'r anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng nghymdeithas Kenya. Cafodd Ngũgĩ ei arestio wedi perfformiad o'r ddrama ym 1977 a'i gadw heb gyhuddiad yng Ngharchar Kamiti. Pan yn y carchar, penderfynodd Ngũgĩ i ysgrifennu yn ei famiaith Gikuyu yn lle'r Saesneg. Treuliodd ei amser yn y carchar yn ysgrifennu'r nofel Caitani Mutharabaini ar bapur tŷ bach. Cafodd ei enwi'n garcharor gwleidyddol gan Amnest Rhyngwladol a'i ryddhau yn Rhagfyr 1978 yn sgil ymgyrch ryngwladol.[3]

Ers hynny mae Ngũgĩ wedi galw ar lenorion Affricanaidd eraill i ysgrifennu yn eu hieithoedd brodorol ac nid ieithoedd Ewropeaidd.[4]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Ngugi Wa Thiong’o. Gwobr Booker. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.
  2. (Saesneg) Ngugi wa Thiong’o. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Rhagfyr 2013.
  3. (Saesneg) Ngugi Wa Thiong’o: A Profile of a Literary and Social Activist. ngugiwathiongo.com. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.
  4. (Saesneg) Mwangi, Evan (13 Mehefin 2009). Queries over Ngugi’s appeal to save African languages, culture. Daily Nation. Adalwyd ar 31 Ionawr 2013.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: