Mantell dramor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 31 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q158603 (translate me)
Animalia, replaced: AnimaliaAnimalia using AWB
Llinell 5: Llinell 5:
| image2 = Butterfly August 2008-3.jpg
| image2 = Butterfly August 2008-3.jpg
| image2_caption = Tan yr adain
| image2_caption = Tan yr adain
| regnum = [[Animal]]ia
| regnum = [[Animalia]]
| phylum = [[Arthropod]]a
| phylum = [[Arthropod]]a
| classis = [[Insecta]]
| classis = [[Insecta]]
Llinell 27: Llinell 27:


==Tiriogaeth==
==Tiriogaeth==
Mae'r ''V. cardui'' yn un o'r gloynnod byw mwyaf poblog. Ceir hyd iddo ym mhob cyfandir ar wahân i [[Antarctica]] a [[De America]].
Mae'r ''V. cardui'' yn un o'r gloynnod byw mwyaf poblog. Ceir hyd iddo ym mhob cyfandir ar wahân i [[Antarctica]] a [[De America]].


==Bwyd==
==Bwyd==

Fersiwn yn ôl 04:54, 2 Awst 2013

Mae'r ID a roddwyd yn anhysbys i'r system. Defnyddiwch ID dilys i'r endid data. Glöyn byw lliwgar sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell dramor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll tramor; yr enw Saesneg yw Painted Lady, a'r enw gwyddonol yw Vanessa cardui.[1][2] Y gair amdano yng ngogledd America ydy Painted Lady. Un o'i nodweddion hynotaf yw ei bod yn hedfa ar ffurf sgriw. Mae'n ymweld â gwledydd Prydain ym Mai a Mehefin.

Caiff ei fagu'n aml iawn mewn ysgolion er mwyn dangos cylch bywyd y glöyn byw. Mae'n edrych yn debyg i ddau rywogaeth arall: Vanessa virginiensis a Vanessa annabella. Y gair arall am fantell ydy "clogyn".

Pan fo'r tymheredd oddeutu 90 F mae'r cylch bywyd yn cymryd tua 16 diwrnod. Pan fo'n 65 F yna fe all gymeryd misoedd i'r wyau ddeor. Pan fo'r tymheredd yn gyson e.e. ystafell mewn ysgol, mae'n cymryd 3 - 5 diwrnod i ddeor. Maint grisial o siwgwr ydy'r ŵy, lliw gwyrdd. Gyda chwydd wydr gellir gweld y ceuad ar yr ŵy - ble mae'r siani flewog am ymddangos. Ar ôl 7 - 11 diwrnod mae'n troi'n chwiler a 7 - 11 diwrnod arall cyn ymddengys y glöyn byw.

2 fodfedd ydy lled yr adenydd, ar ei eithaf.

Tiriogaeth

Mae'r V. cardui yn un o'r gloynnod byw mwyaf poblog. Ceir hyd iddo ym mhob cyfandir ar wahân i Antarctica a De America.

Bwyd

Ymhlith bwyd y siani flewog mae teulu'r Asteraceae gan gynnwys: Cirsium, Carduus,Centaurea, Arctium, Helianthus, ac Artemisia.[3] Mae naturiaethwyr wedi cofnodi dros 300 o fwydydd gwahanol. Yn yr ystafell ddosbarth, y bwyd gorau i'w ddefnyddio ydy paced o hadau blodau haul - y math sy'n cael ei ddefnyddio fel bwyd adar. Dylid rhoi'r rhain i'w socian mewn dŵr am 8 awr cyn eu gosod ar wyneb o bridd. Y dail sy'n cael ei fwyta ac nid yr hedyn caled.

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell dramor yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Vanessa cardui, Butterflies of Canada