Ceolwulf o Wessex: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 13 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q514878 (translate me)
Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Llinell 1: Llinell 1:
Daeth '''Ceolwulf''', o linach brenhinol [[Wessex]], yn [[Brenin Wessex|Frenin Wessex]] yn [[597]] ar farwolaeth ei frawd [[Ceol o Wessex|Ceol]]. Ar y pryd yr oedd mab Ceol, [[Cynegils]], yn rhy ifanc i deyrnasu.

Teyrnasodd Ceolwulf am bedwar ar ddeg o flynyddoedd. Ni cheir dim am hanes [[Wessex]] yn ystod ei deyrnasiad yn y croniclau Seisnig.
Teyrnasodd Ceolwulf am bedwar ar ddeg o flynyddoedd. Ni cheir dim am hanes [[Wessex]] yn ystod ei deyrnasiad yn y croniclau Seisnig.

Fersiwn yn ôl 16:43, 13 Gorffennaf 2013

Daeth Ceolwulf, o linach brenhinol Wessex, yn Frenin Wessex yn 597 ar farwolaeth ei frawd Ceol. Ar y pryd yr oedd mab Ceol, Cynegils, yn rhy ifanc i deyrnasu.

Teyrnasodd Ceolwulf am bedwar ar ddeg o flynyddoedd. Ni cheir dim am hanes Wessex yn ystod ei deyrnasiad yn y croniclau Seisnig.

Fodd bynnag, yn ôl hanesyn a geir yn Llyfr Llandaf (12fed ganrif), arweiniodd Ceolwulf fyddin o Sacsoniaid i ymosod ar Went. Dywedir i hynny ddigwydd ar ddiwedd oes Tewdrig, brenin Gwent (tua 580-630), ar ôl iddo ymddeol yn ei henaint a throsglwyddo'r orsedd i'w fab Meurig. Croesodd y Sacsoniaid Afon Hafren dan arweiniad Ceolwulf tua'r flwyddyn 630, gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi. Daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "paganiaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrwydr Pont y Saeson, ger Tyndyrn, ond clwyfwyd Tewdrig yn angeuol. Ond gan fod Ceolwulf wedi peidio teyrnasu yn 611, mae'r dyddiad yn rhy hwyr o ugain mlynedd.[1]

Bu farw Ceolwulf heb blant cofnodedig; trosglwyddwyd yr orsedd i Cynegils.

Cyfeiriadau

  1. Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979).