Parc Cenedlaethol Northumberland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
→‎Dolenni allanol: Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB
Llinell 9: Llinell 9:
{{comin|Category:Northumberland National Park|Barc Cenedlaethol Northumberland}}
{{comin|Category:Northumberland National Park|Barc Cenedlaethol Northumberland}}
* {{eicon en}} [http://www.northumberlandnationalpark.org.uk/ Gwefan swyddogol y parc]
* {{eicon en}} [http://www.northumberlandnationalpark.org.uk/ Gwefan swyddogol y parc]

{{eginyn Lloegr}}


[[Categori:Parciau Cenedlaethol Lloegr|Northumberland]]
[[Categori:Parciau Cenedlaethol Lloegr|Northumberland]]
[[Categori:Daearyddiaeth Northumberland]]
[[Categori:Daearyddiaeth Northumberland]]
[[Categori:Northumberland|*]]
[[Categori:Northumberland|*]]


{{eginyn Lloegr}}

Fersiwn yn ôl 10:45, 13 Gorffennaf 2013

Rhan o Fur Hadrian ym Mharc Cenedlaethol Northumberland.

Gorwedd Parc Cenedlaethol Northumberland yn sir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Dyma'r parc cenedlaethol mwyaf gogleddol yn Lloegr. Mae'n cynnwys ardal o dros 1030 km² sy'n ymestyn o'r ffin gyda'r Alban yn y gogledd i'r ardal i'r de o Fur Hadrian. Mae'n un o'r parciau cenedlaethol lleiaf poblogaidd gan ymwelwyr yn Lloegr. Mae'r parc yn gorwedd yn gyfangwbl o fewn ffiniau Northumberland ac yn ffurfio tua chwarter y sir honno. Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno.

Ceir sawl ardal neilltuol yn y parc. Yn y gogledd ceir Bryniau Cheviot, cadwyn o fryniau am y ffin rhwng yr Alban a Lloegr. Yng nghanolbarth y parc ceir ardal o waundir a rhosydd eang, gyda rhannu'n orchuddiedig gan goedwigoedd, e.e. Coedwig Kielder. Mae rhan ddeheuol y parc yn cynnwys rhan ganol Mur Hadrian a'r tir o'i gwmpas.

Mae ardal y parc yn cynnwys sawl safle archaeolegol sy'n adlewyrchu hanes hir y rhan yma o Ororau'r Alban a Lloegr, o henebion cynhanesyddol i safleoedd o gyfnod y Rhufeiniaid a'r Oesoedd Canol pan fu'r ardal yn rhan o deyrnas Northumbria.

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.