Al Anbar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: id:Governorat Al Anbar |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 38: | Llinell 38: | ||
[[ku:Elenbar (parêzgeh)]] |
[[ku:Elenbar (parêzgeh)]] |
||
[[pl:Al-Anbar]] |
[[pl:Al-Anbar]] |
||
[[fi:Al-Anbar]] |
|||
[[sv:Al Anbar]] |
[[sv:Al Anbar]] |
||
[[tg:Вилояти Анбор]] |
[[tg:Вилояти Анбор]] |
Fersiwn yn ôl 14:50, 29 Mai 2007
Talaith Al Anbar (Arabeg محافظة الأنبار) yw'r fwyaf yn Irac. Fe'i lleolir yng ngorllewin y wlad, rhwng dyffryn ffrwythlon Afon Euphrates yn y dwyrain a'r ffin â Saudi Arabia, Gwlad Iorddonen a Syria yn y gorllewin. Ei phrifddinas yw Ar Ramadi.
Mae rhan fawr o'r dalaith yn ddiffeithdir neu'n dir amethyddol ymylol. Mae mwyafrif helaeth y trigolion yn Fwslemiaid Sunni. Mae enw y dalaith yn air Perseg (انبار ’Anbār) ac yn golygu "emporiwm"; atgof o'r amser pan fu'r ardal yr entrepot pwysicaf ar ffiniau gorllewinol ymerodraeth y Sassaniaid. Cysylltir y diwinydd Sunni enwog, Abu Hanifa al-Anbari, sefydlyd Hanaffiaeth, ysgol athronyddol fwyaf y Sunniaid, â'r rhanbarth.
Cyn 1976 Ramadi oedd enw'r dalaith a chyn 1962 Dulaim oedd ei henw. Mae tua 1,200,000 o bobl yn byw yn y dalaith heddiw.
Mae dinas Fallujah yn Anbar a dyma ganolfan y gwrthwynebiad Ba'athaidd a Sunni i'r goresgyniad o Irac gan yr Unol Daleithiau.