Gŵydd Canada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: se:Kanádačuonjá
Llinell 48: Llinell 48:
[[pt:Ganso-do-canadá]]
[[pt:Ganso-do-canadá]]
[[ru:Канадская казарка]]
[[ru:Канадская казарка]]
[[se:Kanádačuonjá]]
[[sl:Kanadska gos]]
[[sl:Kanadska gos]]
[[sv:Kanadagås]]
[[sv:Kanadagås]]

Fersiwn yn ôl 07:30, 29 Mai 2007

Mae Gŵydd Canada (Branta canadensis) yn un o'r mwyaf cyffredin o'r gwyddau. Mae'n frodor o Ogledd America, yn nythu yng Nghanada a gogledd yr Unol Daleithiau ac yn symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n nythu ar lawr heb fod ymhell o ddŵr fel rheol.

Gellir adnabod yr ŵydd yma yn hawdd o'r gwddf a pen du, gyda darn gwyn ar y gên, a'r corff yn llwydfrown. Mae'r ddau ryw yn debyg iawn i'w gilydd. Yr unig ŵydd sy'n weddol debyg yw'r Ŵydd Wyran, sy'n llai ac yn dangos wyneb gwyn. Mae 7 o is-rywogaethau o Ŵydd Canada, sy'n amrywio'n fawr o ran maint.

Erbyn hyn mae Gŵydd Canada wedi ei gollwng yn fwriadol mewn nifer o wledydd yn Ewrop. Mae'n aderyn cyffredin ar lynnoedd a chorsydd Cymru, ac mae'n ymddangos bod y boblogaeth yn cynyddu, gyda heidiau o gannoedd i'w gweld mewn ambell fan.

Tiriogaeth dymhorol Branta canadensis, Gŵydd Canada: melyn = haf, glas = gaeaf, gwyrdd = gydol y flwyddyn