Bracla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
categori
Llinell 18: Llinell 18:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
* [http://www.bracklacommunitycouncil.gov.uk Cyngor Cymuned Bragle]
* [http://www.bracklacommunitycouncil.gov.uk Cyngor Cymuned Bragle]

[[Categori:Trefi Pen-y-bont ar Ogwr]]


[[en:Brackla]]
[[en:Brackla]]

Fersiwn yn ôl 19:07, 28 Mai 2007

Pen-y-bont ar Ogwr
Bragle

Mae Bragle, neu Bracla, yn un o faestrefi Pen-y-bont ar Ogwr, i'r dwyrain o'r dref ei hun. Ystad breswyl enfawr ac iddi oddeutu 12,000 o drigolion yw hi sydd ar lethr deheuol Bryn Bragle. Fe'i codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad wreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un fwyaf yw Nant Sana.

Mae'r ystad yn dal i ehangu ar weddill tiroedd Fferm Tremaen (sy'n cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.

Ysgolion

Mae yna bedair ysgol ar yr ystad.

  • Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
  • Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Tremaen
  • Ysgol Gynradd Bragle

Cyfeiriadau