Michigan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 138 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1166 (translate me)
B nodyn eginyn (UDA -> Michigan)
Llinell 115: Llinell 115:


Lleolir hanner o gymunedau mwyaf cefnog y dalaith yn [[Swydd Oakland, Michigan|Swydd Oakland]], ychydig i'r gogledd o Detroit. Lleolir cymuned cefnog arall ychydig i'r dwyrain o'r ddinas, yn [[Grosse Pointe, Michigan|Grosse Pointe]]. Dim ond tri o'r rhain sydd wedi'u lleoli y tu allan i Detroit Fetropolitanaidd. Mae dinas Detroit ei hun, gydag incwm y pen o $14,717, yn 517fed ar y rhestr o leoliadau ym Michigan o ran pres y pen. [[Benton Harbor, Michigan|Benton Harbor]] yw'r ddinas dlotaf ym Michigan, gyda incwm y pen o $8,965, tra bod [[Barton Hills, Michigan|Barton Hills]] y mwyaf cyfoethog gyda phres y pen o $110,683.
Lleolir hanner o gymunedau mwyaf cefnog y dalaith yn [[Swydd Oakland, Michigan|Swydd Oakland]], ychydig i'r gogledd o Detroit. Lleolir cymuned cefnog arall ychydig i'r dwyrain o'r ddinas, yn [[Grosse Pointe, Michigan|Grosse Pointe]]. Dim ond tri o'r rhain sydd wedi'u lleoli y tu allan i Detroit Fetropolitanaidd. Mae dinas Detroit ei hun, gydag incwm y pen o $14,717, yn 517fed ar y rhestr o leoliadau ym Michigan o ran pres y pen. [[Benton Harbor, Michigan|Benton Harbor]] yw'r ddinas dlotaf ym Michigan, gyda incwm y pen o $8,965, tra bod [[Barton Hills, Michigan|Barton Hills]] y mwyaf cyfoethog gyda phres y pen o $110,683.



{{eginyn Unol Daleithiau}}


{{Taleithiau'r Unol Daleithiau}}
{{Taleithiau'r Unol Daleithiau}}


[[Categori:Michigan|Michigan]]
[[Categori:Michigan| ]]
{{eginyn Michigan}}

Fersiwn yn ôl 01:12, 11 Gorffennaf 2013

Talaith Michigan
Baner Michigan Sêl Talaith Michigan
Baner Michigan Sêl Michigan
Llysenw/Llysenwau: Talaith y Llynnoedd Mawr
Map o'r Unol Daleithiau gyda Michigan wedi ei amlygu
Map o'r Unol Daleithiau gyda Michigan wedi ei amlygu
Prifddinas Lansing
Dinas fwyaf Detroit
Arwynebedd  Safle 11eg yn yr Unol Daleithiau
 - Cyfanswm 253,793 km²
 - Lled 621 km
 - Hyd 734 km
 - % dŵr 41.5
 - Lledred 41° 41' G i 48° 18' G
 - Hydred 82° 7' Gorll i 90° 25' Gorll
Poblogaeth  Safle 8fed
 - Cyfanswm (2010) 9,883,640
 - Dwysedd 67.55/km² (16eg)
Uchder  
 - Man uchaf Mynydd Arvon
603 m
 - Cymedr uchder 275 m
 - Man isaf 174 m
Derbyn i'r Undeb  26 Ionawr 1837 (26ain)
Llywodraethwr Jennifer Granholm
Seneddwyr Carl Levin
Debbie Stabenow
Cylch amser Dwyrain: UTC-5/-4
Canol: UTC-6/-5
Byrfoddau MI Mich. US-MI
Gwefan (yn Saesneg) www.michigan.gov

Mae Michigan yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, a amgylchynir o'r gorllewin i'r dwyrain gan rai o'r Llynnoedd Mawr; Llyn Superior, Llyn Huron, Llyn Michigan, Llyn Erie a Llyn St. Clair. Fe'i hymrennir gan Culfor Mackinac yn ddwy ardal ar wahân: y Gorynys Isaf yn y de (iseldiroedd) a'r Gorynys Uchaf yn y gogledd (islediroedd yn y dwyrain ac ucheldiroedd yn y gorllewin). Mae trwch y boblogaeth yn byw yn y Gorynys Isaf. Y Ffrancod oedd yr Ewropeaidd cyntaf i archwilio'r ardal, yn yr 17eg ganrif, ac arhosodd dan reolaeth Ffrainc hyd 1763 pan y'i cipiwyd gan Brydain Fawr a'i hychwanegu i diriogaeth Canada. Daeth i feddiant yr Unol Daleithiau yn 1783 a daeth yn dalaith yn 1837. Lansing yw'r brifddinas. Tarddia enw'r dalaith o'r addasiad Ffrengig o'r term Ojibwe, "mishigma", sydd golygu "dwr mawr" neu "llyn mawr".

Michigan yw'r wythfed talaith mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Mae ganddi'r arfordir dwr ffres hiraf o unrhyw îs-adran wleidyddol yn y byd, am ei bod yn ffinio â phedwar o'r Llynnoedd Mawr yn ogystal â Llyn St Clair. Yn 2005, roedd Michigan yn rhif 3 o ran y nifer o gychod adloniannol a oedd wedi'u cofrestru yno, ar ôl Califfornia a Fflorida. Mae gan Michigan 64,980 o lynnoedd mewndirol. Pan fo person yn y dalaith, nid ydynt yn fwy na chwech milltir (10km) o ffynhonnell o ddwr naturiol, neu'n fwy na 87.2 milltir (137km) o arfordir y Llynnoedd Mawr.

Michigan yw'r unig dalaith sy'n cynnwys dau benrhyn yn unig. Weithiau, cyfeirir at y Penrhyn Isaf fel "y faneg" oherwydd ei siap. Mae'r Penrhyn Uchaf wedi cael ei wahanu o'r Penrhyn Isaf gan Gulfor Mackinac, sianel pum milltir (8 km) sy'n cyfuno Llyn Huron i Lyn Michigan. Mae'r Penrhyn Uchaf yn bwysig i'r dalaith am resymau economaidd oherwydd y twristiaid a'r adnoddau naturiol sydd yno.

Dinasoedd a bwrdeisdrefi pwysig

Nenlinell Detroit ar hyd Afon Detroit.
Nenlinell Y Grand Rapids yng nghanol yr Afon Grand.
Machlud haul yn Lansing
Nenlinell Ann Arbor fel y'i gwelir o Stadiwm Michigan

Yn ôl amcangyfrifon cyfrifiad 2007, bwrdeisdrefi mwyaf Michigan yw:

Safle Dinas Poblogaeth Delwedd
1 Detroit 916,952
Map yn dangos bwrdeisdrefi mwyaf Michigan.
2 Grand Rapids 193,627
3 Warren 134,223
4 Sterling Heights 127,349
5 Ann Arbor 115,092
6 Lansing 114,947
7 Flint 114,662
8 Maesdref Clinton 96,253
9 Livonia 93,931
10 Dearborn 89,252

Mae'r dinasoedd pwysig eraill yn cynnwys:

Lleolir hanner o gymunedau mwyaf cefnog y dalaith yn Swydd Oakland, ychydig i'r gogledd o Detroit. Lleolir cymuned cefnog arall ychydig i'r dwyrain o'r ddinas, yn Grosse Pointe. Dim ond tri o'r rhain sydd wedi'u lleoli y tu allan i Detroit Fetropolitanaidd. Mae dinas Detroit ei hun, gydag incwm y pen o $14,717, yn 517fed ar y rhestr o leoliadau ym Michigan o ran pres y pen. Benton Harbor yw'r ddinas dlotaf ym Michigan, gyda incwm y pen o $8,965, tra bod Barton Hills y mwyaf cyfoethog gyda phres y pen o $110,683.

Eginyn erthygl sydd uchod am Michigan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.