Yr Iseldiroedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B tynnu nodyn eginyn
Llinell 173: Llinell 173:
=== Dinasoedd ===
=== Dinasoedd ===


[[Delwedd:Koningsplein.jpg|bawd|220px|Y Koningsplein, Amsterdam]]
[[Delwedd:GVB 11G 911 and 916 (Amsterdam trams) at Koningsplein on route 5, February 2008.jpg|bawd|220px|Y Koningsplein, Amsterdam]]
[[Delwedd:The hague hofvijver.jpg|bawd|de|220px|Hofvijver a Senedd yr Iseldiroedd, Den Haag]]
[[Delwedd:The hague hofvijver.jpg|bawd|de|220px|Hofvijver a Senedd yr Iseldiroedd, Den Haag]]



Fersiwn yn ôl 22:49, 7 Gorffennaf 2013

Nederland
Yr Iseldiroedd
Baner yr Iseldiroedd Arfbais yr Iseldiroedd
Baner Arfbais
Arwyddair: Je maintiendrai
Byddaf yn cynnal
Anthem: Wilhelmus
Lleoliad yr Iseldiroedd
Lleoliad yr Iseldiroedd
Prifddinas Amsterdam1
Dinas fwyaf Amsterdam
Iaith / Ieithoedd swyddogol Iseldireg2
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Brenin
 • Prif Weinidog
Willem-Alexander
Mark Rutte
Annibyniaeth
 • Datganiad
 • Cydnabuwyd
Rhyfel Wythdeg Mlynedd
26 Gorffennaf 1581
30 Ionawr 1648 (gan Sbaen)
Esgyniad i'r UE25 Mawrth, 1957
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
41,526 km² (134fed)
18.41
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
16,336,346 (58fed)
16,105,285
395/km² (23fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$503.394 biliwn (23fed)
$30,876 (15fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.943 (12fed) – uchel
Arian cyfred Ewro3 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .nl4
Côd ffôn +31
1 Safle y llywodraeth: Den Haag

2 Hefyd Ffrisieg yn Ffrisia
3 Cyn i 1999: Guilder Iseldiraidd

4 Hefyd .eu

Gwlad a theyrnas ar lan Môr y Gogledd yng ngorllewin Ewrop sy'n ffinio â'r Almaen i'r dwyrain a Gwlad Belg i'r de yw'r Iseldiroedd (Iseldireg: "Cymorth – Sain" Nederland ). Amsterdam yw'r brifddinas a'r Iseldireg yw prif iaith y wlad a'i hiaith swyddogol.

Hanes yr Iseldiroedd

Cyfaneddwyd tiriogaeth presennol yr Iseldiroedd yn Hen Oes y Cerrig. Mae'r oes hanesyddol yn dechrau yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rhufeinig, gan gynhwyswyd y rhannau o'r wlad i'r de o afon Rhein yn nhalaith Rufeinig Gallia Belgica, ac yn ddiweddarach Germania Inferior. Cyfaneddid y wlad ar y pryd gan amryw o lwythi Germanaidd, a chyfaneddid y de gan y Gâliaid, a gyfunodd gyda newydd-ddyfodiaid yn perthyn i lwythau Germanaidd yn ystod Cyfnod yr Ymfudo. Ymfudodd Ffranciaid Salia i Âl o'r ardal yma, gan sefydlu llinach pwerus y Merovingiaid erbyn y 5ed ganrif.

Taleithiau'r Iseldiroedd

Rhennir yr Iseldiroedd yn ddeuddeg o daleithiau fel a ganlyn (gyda'i prifddinasoedd):

Baner Talaith Poblogaeth Dwysedd pobl./km² Prifddinas
Groningen 575.234 246 Groningen
Friesland 642.998 192 Leeuwarden
Drenthe 483.173 183 Assen
Overijssel 1.109.250 333 Zwolle
Flevoland 365.301 257 Lelystad
Gelderland 1.970.865 396 Arnhem
Utrecht 1.171.356 845 Utrecht
Noord-Holland 2.595.294 972 Haarlem
Zuid-Holland 3.452.323 1225 Den Haag
Zeeland 380.186 212 Middelburg
Noord-Brabant 2.415.945 491 's-Hertogenbosch
Limburg 1.135.962 528 Maastricht

Rhennir pob talaith y gymunedau neu gemeenten; mae 443 ohonynt i gyd.

Daearyddiaeth yr Iseldiroedd

Nodweddion pwysicaf daearyddiaeth yr Iseldiroedd yw fod y tir yn isel a dwysder y boblogaeth yn uchel. Mae tua 40% o'r wlad, yn cynnwys rhan helaeth o ardaloedd poblog y gorllewin, yn is na lefel y môr. Ffurfir de-orllewin y wlad gan ddelta anferth sydd wedi ei greu gan dair afon fawr, Afon Rhein, Afon Waal ac Afon Schelde. Yn fuan wedi croesi'r ffîn rhwng yr Almaen a'r Iseldiroedd, mae Afon Rhein yn ymrannu yn dair cangen fawr. Llifa dwy o'r rhain, Afon Waal a'r Nederrijn, tua'r gorllewin, tra mae'r drydedd, Afon IJssel yn llifo tua'r gogledd i ymuno a'r IJsselmeer.

Y man uchaf yn yr Iseldiroedd yw bryn y Vaalserberg, sydd 322.7 medr uwch lefel y môr. Y pwynt isaf yw man yng nghymuned Nieuwerkerk aan den IJssel yn nhalaith Zuid-Holland sydd 6.76 medr islaw lefel y môr.

Demograffeg

Tŵf poblogaeth yr Iseldiroedd hyd 2005.

Gyda poblogaeth o 16,491,461 ac arwynebedd y wlad yn 41,526 km², mae dwysedd poblogaeth yr Iseldiroedd yn uchel. Saif yn 23ain ymysg gwledydd y byd o ran dwysedd poblogaeth, a dim ond Bangladesh a De Corea sy'n wledydd mwy ac a dwysder poblogaeth uwch.

Un o nodweddion poblogaeth yr Iseldiroedd yw mai hwy, ar gyfartaledd, yw'r bobl dalaf yn y byd, gyda chyfartaledd uchder o 1.83 m (6 troedfedd) i ddynion a 1.70 m (5 troedfedd 7 modfedd) i ferched.

Mae'r gyfradd genedigaethau yn 1.75 plentyn i bob merch. Cymharol araf yw tŵf y boblogaeth, gyda 10.9 genedigaeth y fil o boblogaeth a 8.68 marwolaeth y fil o boblogaeth. Fel yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, mae'r boblogaeth yn heneiddio; ond i raddau llai na'r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop.

Ceir cryn dipyn o fewnfudo i'r Iseldiroedd, a hefyd gryn dipyn o allfudo. O'r trigolion heb fod yn Iseldirwyr ethnig, y grwpiau mwyaf yw Indonesiaid (2.4%), Almaenwyr (2.4%), Twrciaid (2.2%) a Swrinamiaid (2.0%).

Dinasoedd

Y Koningsplein, Amsterdam
Hofvijver a Senedd yr Iseldiroedd, Den Haag

Dinasoedd mwyaf poblog yr Iseldiroedd yw:

1 Amsterdam (Noord-Holland) 744,740
2 Rotterdam (Zuid-Holland) 581,615
3 Den Haag ('s-Gravenhage) (Zuid-Holland) 474,245
4 Utrecht (Utrecht) 290,529
5 Eindhoven (Noord Brabant) 209,601
6 Tilburg (Noord Brabant) 200,975
7 Almere (Flevoland) 181,990
8 Groningen (Groningen) 180,824
9 Breda (Noord Brabant) 170,451
10 Nijmegen (Gelderland) 160,732
11 Apeldoorn (Gelderland) 155,328
12 Enschede (Overijssel) 154,311
13 Haarlem (Noord-Holland) 147,179
14 Arnhem (Gelderland) 142,638
15 Zaanstad (Noord-Holland) 141,829
16 Amersfoort (Utrecht) 139,914 inh.
17 Haarlemmermeer (Noord-Holland) 139,396
18 's-Hertogenbosch (Noord Brabant) 135,787
19 Zoetermeer (Zuid-Holland) 118,534
20 Dordrecht (Zuid-Holland) 118,443

Mae nifer o'r dinasoedd yng ngorllewin a gogledd canolbarth y wlad yn ffurfio cytref fawr a elwir y Randstad ('Dinas yr Ymyl' yr yr Iseldireg). Mae'n cynnwys pedair dinas fwya'r Iseldiroedd, Amsterdam, Rotterdam, Den Haag ac Utrecht a'r ardaloedd a'r mân drefi o'u cwmpas, fel Almere, Delft, Dordrecht, Gouda, Haarlem, Hilversum, Leiden a Zoetermeer. Mae dinasoedd y Randstad yn llunio hanner gylch neu gilgant, ac mae'r enw yn tarddu o'r siap hwnnw.

Crefydd

Kinderdijk. Golygfa debygol a thraddodiadol o'r Iseldiroedd gyda'r melinau i bympio'r dŵr o'r tiroedd isel.

Diwylliant yr Iseldiroedd

Daeth yr Iseldiroedd yn enwog trwy'r byd am ei harlunwyr. Yn y 17eg ganrif, yng nghyfnod Gweriniaeth yr Iseldiroedd, roedd arlunwyr megis Rembrandt van Rijn, Johannes Vermeer, Jan Steen, Jacob van Ruysdael ac eraill. Dilynwyd hwy yn y 19eg a'r 20fed ganrif gan Vincent van Gogh a Piet Mondriaan.

Ymhlith athronwyr enwog yr Iseldiroedd mae Erasmus o Rotterdam a Spinoza, ac yn yr Iseldiroedd y gwnaeth René Descartes ei waith pwysicaf. Mae gwyddonwyr o'r Iseldiroedd yn cynnwys Christiaan Huygens (1629-1695), darganfyddwr Titan, un o leuadau Sadwrn, a dyfeisiwr y cloc pendil, ac Antonie van Leeuwenhoek, y cyntaf i ddisgrifio organebau un gell gyda meicroscop.

Ymhlith awduron pwysicaf yr Iseldiroedd mae Joost van den Vondel a P.C. Hooft o'r 17eg ganrif, Multatuli yn y 19eg ganrif ac yn yr 20fed ganrif awduron fel Harry Mulisch, Jan Wolkers, Simon Vestdijk, Cees Nooteboom, Gerard (van het) Reve a Willem Frederik Hermans. Cyfieithwyd dyddiadur Anne Frank i lawer o ieithoedd.

Gweler hefyd

Lleoliad yr Iseldiroedd yn Ewrop
Chwiliwch am Yr Iseldiroedd
yn Wiciadur.