Llwybr Arfordirol Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Ffynonellau: Cywiro Ffynonellau, replaced: ==ffynhonnellau== → ==Ffynonellau== using AWB |
cat |
||
Llinell 53: | Llinell 53: | ||
[[Categori:Arfordir Cymru]] |
[[Categori:Arfordir Cymru]] |
||
[[Categori:Llwybr Arfordir Cymru]] |
|||
[[Categori:Cludiant ym Môn]] |
[[Categori:Cludiant ym Môn]] |
||
[[Categori:Llwybrau Cymru|Ynys Môn]] |
[[Categori:Llwybrau Cymru|Ynys Môn]] |
Fersiwn yn ôl 10:40, 1 Gorffennaf 2013
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn llwybr hir o 200 km/125 milltir o gwmpas arfordir Ynys Môn, y rhan fwyf ohono o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Crewyd y llwybr fel rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau trwy ganiatâd. Mae’n ffurfio cylch o gwmpas yr ynys heblaw am fylchau yn Llanfachraeth ac ystâd Plas Newydd.
Mae arwyddion amlwg ar hyd y llwybr cyfan.
Crewyd y llwybr mewn partneriaeth rhwng Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn. Agorwyd y llwybr yn ffurfiol gan Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, ar 9 Mehefin 2006.
Llefydd ar hyd y llwybr
O gychwyn yng Nghaergybi a cherdded yn glocwedd, mae’r llwybr yn mynd heibio i:
- Caergybi
- Ynys Lawd
- Porth Dafarch
- Trearddur
- Ffynnon Santes Gwenfaen
- Rhosneigr
- Barclodiad y Gawres
- Eglwys Llangwyfan
- Aberffraw
- Eglwys Llangadwaladr, lle claddwyd Cadfan ap Iago
- Ynys Llanddwyn
- Llanidan
- Pont Britannia
- Pwll Ceris
- Ynys Dysilio
- Pont Y Borth, a adeiladwyd gan Thomas Telford
- Porthaethwy
- Biwmares
- Penmon ac Ynys Seiriol
- Traeth Coch
- Benllech
- Moelfre
- Porth Amlwch
- Eglwys Llanbadrig
- Cemaes
- Wylfa
- Cemlyn
- Llanrhwydrys
- Porth Swtan
- Parc Gwledig Penrhos
- Caergybi
Ffynonellau
- Carl Rogers (2005), Llawlyfr Swyddogol Llwybr Arfordirol Ynys Môn. Mara Books. ISBN 1-902512-13-8
Dolenni allanol
- Safle We Swyddogol
- Crwydro Arfordir Môn Blog Cymraeg am griw o ffrindiau yn cerdded holl Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn ystod 2012
- Gwyl Gerdded Môn