Gerallt Gymro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
lololooll lolo |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Hello Billy |
Hello Billy |
||
Curtis is stupid |
|||
==Y Daith Trwy Gymru== |
==Y Daith Trwy Gymru== |
||
Yn [[1188]] roedd [[Baldwin, Archesgob Caergaint]], am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r [[Y Drydedd Groesgad|Drydedd Groesgad]] ac i ymweld ag [[Eglwys gadeiriol|eglwysi cadeiriol Cymru]] i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr ''Itinerarium Cambriae'' ([[Hanes y Daith Trwy Gymru]]). |
Yn [[1188]] roedd [[Baldwin, Archesgob Caergaint]], am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r [[Y Drydedd Groesgad|Drydedd Groesgad]] ac i ymweld ag [[Eglwys gadeiriol|eglwysi cadeiriol Cymru]] i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr ''Itinerarium Cambriae'' ([[Hanes y Daith Trwy Gymru]]). |
Fersiwn yn ôl 10:28, 24 Mehefin 2013
Hello Billy Curtis is stupid
Y Daith Trwy Gymru
Yn 1188 roedd Baldwin, Archesgob Caergaint, am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r Drydedd Groesgad ac i ymweld ag eglwysi cadeiriol Cymru i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru).
Dechreuodd y daith yn Henffordd; aethant wedyn drwy Ddyffryn Wysg i'r Fenni, ac yna trwy Frynbuga i Gaerlleon. Aethant yn eu blaenau i eglwys gadeiriol Llandaf, Abaty Margam, Cydweli a Caerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf ac wedyn eglwys gadeiriol Tyddewi. Teithio tua'r gogledd wedyn, i Ystrad Fflur a mynachlog Llanbadarn Fawr a chyrraedd y drydedd eglwys gadeiriol ym Mangor a'r bedwaredd yn Llanelwy. Ar ddiwedd y daith dychwelodd yr Baldwin i Loegr.
Ar y daith roedd tua thair mil o wŷr wedi addo ymuno yn y Groesgad, ond yn y diwedd ychydig iawn a aeth.
Ysgolheictod
Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr yn ei oes. Astudiodd yn ysgol eglwys Sant Pedr yng Nghaerloyw, ym Mharis ac yn Lincoln. Yn ogystal â Hanes y Daith trwy Gymru, ysgrifennodd sawl llyfr arall, i gyd mewn Lladin, gan gynnwys disgrifiad o Iwerddon (Topographia Hibernica) yn 1188, y Disgrifiad o Gymru (Descriptio Kambriae) rhwng 1193 a 1215, a'r Speculum Duorum, gwaith athronyddol, yn 1216. Ysgrifennodd hefyd Expugnatio Hibernica ("Concwest Iwerddon") a nifer o ysgrifau.
Llyfryddiaeth
- Topographia Hibernica (Daearyddiaeth Iwerddon) (1188)
- Expugnatio Hibernica (Goresgyniad Iwerddon)
- Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru) (1191)
- Descriptio Cambriae (Y Disgrifiad o Gymru) (1194)
- De instructione principis (Ynglŷn â hyfforddi tywysogion)
- De rebus a se gestis
- De iure et statu Menevensis ecclesiae
- Gemma ecclesiastica
- Speculum duorum
- Speculum ecclesiae
- Symbolum electorum
- Invectiones
- Retractationes
- Vita sancti Hugonis Lindensis (Bywyd Huw o Lincoln)
- Vita Galfridi archiepiscopi Eboracensis (Bywyd Sieffre esgob Efrog)
- Vita sancti Ethelberti (Buchedd Sant Ethelbert)
- Vita sancti Remigii
- Vita sancti Davidii (Buchedd Dewi Sant)
Gwaith Gerallt mewn cyfieithiad
- Lewis Thorpe (cyf.), The journey through Wales and The description of Wales (Llundain, 1978)
- John J. O'Meara (cyf.), The history and topography of ireland (Llundain, 1982)
- Thomas Jones (cyf.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938). "Hanes y Daith trwy Gymru" a'r "Disgrifiad o Gymru".
Llyfrau amdano
- Robert Bartlett, Gerald of Wales (1982)
- Thomas Jones, Gerallt Gymro (Caerdydd, 1947)
- Michael Richter, Giraldus Cambriensis and the Growth of the Welsh Nation (1972)