Parafeddyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: ffynonellau a manion using AWB
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B 1 cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q13521367
Llinell 29: Llinell 29:
[[cs:Zdravotnický záchranář]]
[[cs:Zdravotnický záchranář]]
[[da:Paramediciner]]
[[da:Paramediciner]]
[[de:Rettungssanitäter]]
[[en:Paramedic]]
[[en:Paramedic]]
[[es:Paramédico]]
[[es:Paramédico]]

Fersiwn yn ôl 04:39, 22 Mehefin 2013

Seren Bywyd, symbol byd-eang Gwasanaeth Iechyd Argyfwng.

Gweithiwr meddygol proffesiynol yw parafeddyg, fel arfer bydd yn aelod o'r Gwasanaeth Iechyd Argyfwng, sy'n cyflenwi gwasanaeth argyfwng safon uwch cyn-ysbyty, gofal meddygol a trawma. Mae parafeddyg yn cyflenwi triniaeth ac ymyriad argyfwng ar-safle, sefydlu cleifion er mwyn achub bywyd ac, pan fydd yn briodol, i gludo cleifion i ysbyty ar gyfer triniaeth pellach.[1]

Mae'r defnydd o'r term parafeddyg yn amrywio yn ôl gweinyddiaeth, mewn rhai gwledydd gall gyfeirio at unrhyw aelod o griw ambiwlans. Mewn gwledydd megis Canada a De Affrica, defnyddir y term parafeddyg fel teitl swydd holl bersonél y Gwasnaeth Iechyd Argyfwng, ac maent wedyn yn cael eu dynodi yn ôl eu swydd, hyn ydy cynradd neu sylfaenol (e.e. Parafeddyg Gofal Sylfaenol) canolradd neu uwch (e.e. Parafeddyg Gofal Uwch). Gall yr ymdriniaeth hon fod yn gwbl addas ar gyfer rhai gweinyddiaethau, lle mae staff yn derbyn mwy na dwywaith cymaint o hyfforddiant yn y dosbarth na Technegydd Iechyd Argyfwng, a mwy na parafeddygon sy'n cael galw eu hunain yn barafeddygon mewn gwledydd eraill.

Mewn gwledydd megis yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig, mae'r defnydd o'r gair parafeddyg yn cael ei gyfyngu gan y gyfraith, ac mae'n raid i'r un sy'n honni'r teitl orfod bod wedi pasio set o arholiadau a gosodiadau clinigol, a dal cofrestraeth dilys, tystystgrif, neu drwydded gyda'r corff llywodraethu perthnasol.[2]

Daw'r gair paramedic o ddau air 'para' sy'n golygu 'ategol' (hynny yw yn ategol i'r ddarpariaeth arferol: meddygon a nyrsus mewn ysbyty), a meddyg.

Hanes parafeddygaeth

Mae cysylltiad wedi bod rhwng parafeddygaeth a gwrthdaro milwrol dros y blynyddoedd. Mae'r cofnod cyntaf o broses ffurfiol o ddelio gyda phobl sydd wedi eu hanafu yn dyddio'n ôl i Lengoedd Ymerodraeth Rhufain, lle roedd gan y Canwriaid hŷn, nad oedd yn gallu ymladd bellach, gyfrifoldeb i drefnu symyd y rhai oedd wedi eu anafu o faes y gad a gofalu amdanynt. Er nad oedd yr unigolion rhain yn feddygon, mae'n debyg eu bônt ymhlith y llawfeddygon cynharaf, gan bwytho anafiadau, a chyflawni trychiadau, ond roedd hyn yn ôl yr angen ac nid oeddent yn derbyn hyfforddiant ffurffiol, hyd y gwyddom. Parhaodd y drefn hon drwy gydol y Croesgadau, gyda Marchogion Hospitallers yn Urdd Sant Ioan o Jeriwsalem, sydd yn adnabyddus hyd heddiw fel Ambiwlans Sant Ioan neu yn (Saesneg fel St. John Ambulance), gan barhau i lewnwi rôl tebyg mewn digwyddiadau cyhoeddus.

Crewyd y cerbyd cyntaf a ddylunwyd yn benodol fel ambiwlans yn ystod Rhyfel Napoleon, a galwyd hi yn ambulance volante yn Ffrangeg. Crewyd hon gan Brif Lawfeddyg Napoleon sef y Barwn Dominique Jean Larrey. Bwriad y ddyfais a arferid ei thynnu gan geffyl, oedd i gludo cleifion at y llawfeddygon, a oedd yn aros y tu cefn i faes y gad, yn gyflym. Os oeddent yn goroesi'r daith gyda'u hanafiadau, byddent yn derbyn y lefel o sgiliau llawdrniaeth a oedd yn bodoli yn y 19eg ganrif cynnar, felly roedd eu hunllef ar ddechrau! Nid oedd y cerbydau'n gyffredin, ac ni roddwyd blaenoriath i driniaeth y rhai a oedd wedi eu hanafu; nid oedd yn anghyffredin i gerbydau fel y rhain gael y swydd o gludo arfau rhyfel hefyd i flaen y gad, cyn cludo'r cleifion yn ôl. Ni newidodd ddyluniad syml y cerbydau hyn dros y ganrif wedyn.

Er fod cymunedau wedi cael eu trefnu i ddelio gyda rhai a oedd yn sâl neu'n marw cyn belled yn ôl a'r plâ yn Llundain (1598, 1665), dim ond trefniadau dros dro oedd rhain. Ond daeth y trefnadau hyn yn fwy ffurfiol a pharhaol dros amser. Yn ystod Rhyfel Cartref America, dyfeisiodd Jonathan Letterman system o orsafoedd cymorth cyntaf ar flaen y gad, ar lefel catrawd, lle sefydlwyd egwyddorion brysbennu am y tro cyntaf. Roedd byddin yr Unol Daleithiau wedi troi oddi wrth yr hen arfer o rhoi triniaeth aneffeithlon i gleifion, yn rhannol oherwydd mabwysiadu technoleg newydd megis y reiffl a systemau pelen Minié. Gwasanaethodd Letterman, a oedd yn uwchgapten, fel cyfarwyddwr meddygol Byddin Potomac. Sefydlodd ysbyty maes symudol. Cysylltwyd â phob pencadlys gan gorfflu ambiwlans effeithlon, a sefydlwyd gan Letterman ym mis Awst 1862, o dan rheolaeth staff meddygol yn hytrach na'r Adran Swyddog Cyflenwi. Trefnodd Letterman hefyd system effeithlon ar gyfer dosbarthu cyflenwadau meddygol. Mabwysiadwyd ei system ef gan fyddinoedd eraill yr Undeb, ac ym mhen hir a hwyr sefydlwyd yn swyddogol fel dull gweithredu meddygol holl fyddinoedd yr Unol Daleithiau mewn Deddf Cyngres ym Mawrth 1864. Yn dilyn Rhyfel Cartref America, dechreuodd hen lawiau ddefnyddio beth oeddent wedi ei ddysgu ar y maes, gan greu timau auchub bywyd a chorffluoedd ambiwlans.

Yng Ngwledydd Prydain, gweithredwyd yr ambiwlans ar gyfer sifiliaid gan yr ysbyty lleol neu'r heddlu, tra mewn rhai ardaloedd o Ganada, roedd yn gyffredin i'r trefnwr angladdau lleol (a oedd yn berchen ar yr unig gludiant yn y dref, lle gall y claf orwedd i lawr ynddi) weithredu'r gwasanaeth ambiwland yn ogystal a'r siop ddodrefn leol (gan adeiladu a gwerthu ceirch fel eilbeth). Mewn canolfanau mwy o faint, mewn amryw o wledydd, rodd y cyfrifoldeb yn disgyn ay yr Adran Iechyd, yr heddlu neu'r gwasnaeth tân lleol. Unwaith eto, dilynodd y system ar gyfer sifiliaid arweiniaeth y system filwrol; er y bu llond llaw o ambiwlansiau modur yn bodoli cyn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918), ar faes y gad y profwyd y cysyniad hwn o ambiwlansiau modur, ac yn dilyn y rhyfel, daethant yn boblogaidd.

Cyfeiriadau

Chwiliwch am parafeddyg
yn Wiciadur.