Svalbard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
[[Delwedd:LocationSvalbard.png|bawd|chwith|240px|Lleoliad Svalbard]]
[[Delwedd:LocationSvalbard.png|bawd|chwith|240px|Lleoliad Svalbard]]


==Gweler hefyd==
[[Categori:Ynysoedd Norwy]]
*[[Svalbard a Jan Mayen]]
[[Categori:Cefnfor yr Arctig]]

[[Categori:Svalbard| ]]
{{eginyn Norwy}}

Fersiwn yn ôl 22:35, 11 Mehefin 2013

Ynysoedd Svalbard

Ynysoedd yn yr Arctig yn perthyn i Norwy yw ynysoedd Svalbard. Cyfeirir atynt yn aml, yn anghywir, fel Spitsbergen ar ôl yr ynys fwyaf. Yr ynysoedd hyn yw'r rhan fwyaf gogleddol o Norwy. Dim ond ar dair o'r ynsoedd, Spitsbergen, Bjørnøya a Hopen, y mae poblogaeth barhaol. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 2,756. Longyearbyen yw'r pentref mwyaf a "phrifddinas" yr ynysoedd.

Yr ynysoedd mwyaf yw Spitsbergen (39.000 km²), Nordaustlandet (14.600 km²) ac Edgeøya (5.000 km²); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Barentsøya, Lågøya, Hopen, Danskøya, Kvitøya a Wilhelmøya. Y copa uchaf yw Newtontoppen (1,717 medr). Gorchuddir 60% o Svalbard gan rew. Ceir nifer fawr o adar yma, ac mae Svalbard yn arbennig o bwysig oherwydd y niferoedd o'r Ŵydd Wyran (Branta leucopsis) a'r Ŵydd Droedbinc sy'n nythu yma.

Lleoliad Svalbard

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Norwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.