Nant Ffrancon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6964273 (translate me)
Llinell 11: Llinell 11:
<references/>
<references/>


[[Categori:Bethesda]]
[[Categori:Bylchau Cymru]]
[[Categori:Bylchau Cymru]]
[[Categori:Dyffrynnoedd Cymru]]
[[Categori:Dyffrynnoedd Cymru]]

Fersiwn yn ôl 23:06, 6 Mehefin 2013

Dyffryn yn Eryri yw Nant Ffrancon, sy'n ymestyn tua'r gogledd o Lyn Ogwen a Chwm Idwal hyd at gyffiniau pentref Bethesda. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur (Ffranc), ond nid yw pawb yn cytuno â'r esboniad.

Daearyddiaeth

Edrych i fyny Nant Ffrancon.

Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb daearegol mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau Pen yr Ole Wen a Carnedd Dafydd yn y Carneddau, tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y Glyderau megis Y Garn, Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod Oes yr Iâ. Er bod Afon Ogwen yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma.

Ffyrdd

Mae priffordd yr A5 hefyd yn dilyn y dyffryn gan esgyn i Fwlch Nant Ffrancon ger Llyn Ogwen. Oddi yno â yn ei blaen i Gapel Curig. Ceir ffordd gynharach sy'n dilyn ochr orllewinol y Nant. Cafodd yr hen ffordd ar hyd llwybr presennol yr A5 ei ail-wneud yn llwyr gan Thomas Telford rhwng 1810 a 1826. Adeiladwyd yr hen lôn gan yr Arglwydd Penrhyn ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn bennaf er mwyn dod â llechi i lawr o'r mynydd i Borth Penrhyn, ger Bangor. Cyn hynny cafodd yr hen lwybr ei ddisgrifio gan yr hynafiaethydd Thomas Pennant fel "y llwybr mul gwaethaf yng Nghymru"![1]

Cyfeiriadau

  1. Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon (Cyfres Crwydro Cymru, 1959), t. 115-16.