Ffonograff: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q116434
manion a dileu safbwynt
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:EdisonPhonograph.jpg|bawd|Ffonograff Crwn Edison c. 1899.]]
[[Delwedd:EdisonPhonograph.jpg|bawd|Ffonograff Crwn Edison c. 1899.]]
Teclun i recordio sain ydy'r '''Ffonograff''', (o'r [[Iaith Roeg|Groeg]]: γράμμα, gramma, "llythyr" and φωνή, phōnē, "llais"), a ddyfeisiwyd yn 1877 gan [[Thomas Edison]]<ref>{{cite news|title=The Incredible Talking Machine|publisher=Time Inc.|url=http://www.time.com/time/specials/packages/article/0,28804,1999143_1999210_1999211,00.html | date=4 Mai 2012}}</ref>. Llwyddodd yn ei labordy yn [[New Jersey]] i atgynhyrchu'r llais dynol. Y geiriau cyntaf a recordiwyd erioed oedd ''Mary had a little lamb''.
Teclyn i recordio sain ydy'r '''Ffonograff''', (o'r [[Iaith Roeg|Groeg]]: γράμμα, gramma, "llythyr" and φωνή, phōnē, "llais"), a ddyfeisiwyd yn 1877 gan [[Thomas Edison]]<ref>{{cite news|title=The Incredible Talking Machine|publisher=Time Inc.|url=http://www.time.com/time/specials/packages/article/0,28804,1999143_1999210_1999211,00.html | date=4 Mai 2012}}</ref>. Llwyddodd yn ei labordy yn [[New Jersey]] i atgynhyrchu'r llais dynol. Y geiriau cyntaf a recordiwyd erioed oedd ''Mary had a little lamb''.


Mae'n anodd dweud pa bryd y daeth y ffonograff (neu'r gramoffon) yn fenter fasnachol lwyddiannus. Yn wreiddiol fe geisiodd cwmni'r [[Cylinder Phonograph]] addasu'r ddyfais ar gyfer swyddfeydd fel y gallesid, trwy'r llais, gofnodi llythyrau a gwybodaethau; ond ni bu'r antur honno'n llwyddiant.
Mae'n anodd dweud pa bryd y daeth y ffonograff (neu'r gramoffon) yn fenter fasnachol lwyddiannus. Yn wreiddiol fe geisiodd cwmni'r [[Cylinder Phonograph]] addasu'r ddyfais ar gyfer swyddfeydd fel y gallesid, trwy'r llais, gofnodi llythyrau a gwybodaethau; ond ni bu'r fentur honno'n llwyddiant.


Dyfeisiwyd y ffonograff rhwng Mai a Gorffennaf 1877 wrth i Edison ymchwilio i "ail chwarae" negeseuon telegraff a'i waith ar eu darlledu drwy'r [[ffôn]].<ref>Patrick Feaster, "Speech Acoustics and the Keyboard Telephone: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ''ARSC Journal'' 38:1 (Gwanwyn 2007), 10-43; Oliver Berliner a Patrick Feaster, "Letters to the Editor: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ''ARSC Journal'' 38:2 (Hydref 2007), 226-228.</ref>
Dyfeisiwyd y ffonograff rhwng Mai a Gorffennaf 1877 wrth i Edison ymchwilio i "ail chwarae" negeseuon telegraff a'i waith trwy eu darlledu drwy'r [[ffôn]].<ref>Patrick Feaster, "Speech Acoustics and the Keyboard Telephone: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ''ARSC Journal'' 38:1 (Gwanwyn 2007), 10-43; Oliver Berliner a Patrick Feaster, "Letters to the Editor: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ''ARSC Journal'' 38:2 (Hydref 2007), 226-228.</ref>


Mewn sioeau a ffeiriau yn [[Unol Daleithiau America|America]] y gwnaed y defnydd cyntaf o'r rhyfeddod newydd. Ond gan mai ar silindrau cŵyr y gwneid yr atgynhyrchu, a'r rheini'n feddal, fe godai cryn broblemau. Ond oddeutu 1895 llwyddodd [[Almaen]]wr o'r enw Berliner i wneud y record fflat gyntaf yn America. Ond yr oedd yn rhaid troi ei ddyfais yntau â llaw nes darganfuwyd ffordd i ddefnyddio sbring i gadw'r record i droi ar gyflymdra cyson.
Mewn sioeau a ffeiriau yn [[Unol Daleithiau America|America]] y gwnaed y defnydd cyntaf o'r rhyfeddod newydd. Ond gan mai ar silindrau cŵyr y gwneid yr atgynhyrchu, a'r rheini'n feddal, fe godai cryn broblemau. Ond tua 1895 llwyddodd [[Almaen]]wr o'r enw Berliner i wneud y record fflat gyntaf yn America. Ond yr oedd yn rhaid troi ei ddyfais yntau â llaw nes darganfuwyd ffordd i ddefnyddio sbring i gadw'r record i droi ar gyflymdra cyson.
[[Delwedd:Edison and phonograph edit1.jpg|bawd|Edison gyda'i ail fersiwn; ffotograff gan Mathew Brady yn [[Washington]], Ebrill 1878]]
[[Delwedd:Edison and phonograph edit1.jpg|bawd|Edison gyda'i ail fersiwn; ffotograff gan Mathew Brady yn [[Washington]], Ebrill 1878]]
Oddeutu 1897 sefydlodd y brodyr Gaisberg y ''Gramophone and Typewriter Company''. Aeth adran y teipiaduron i'r wal, ond blodeuodd yr adran Gramoffon. Ond tegan oedd y ddyfais o hyd nes i F.W. Gaisberg glywed [[Caruso]] yn canu yn [[Yr Eidal]] a phenderfynu rhoi cynnig ar ei recordio. Fel arbrawf talodd gan punt i Caruso am recordio deg cân - ymgymeriad a gwblhawyd mewn un prynhawn; a dyna'r gramoffon wedi cyrraedd.
Tua 1897 sefydlodd y brodyr Gaisberg y ''Gramophone and Typewriter Company''. Aeth adran y teipiaduron i'r wal, ond blodeuodd yr adran Gramoffon. Ond tegan oedd y ddyfais o hyd nes i F.W. Gaisberg glywed [[Caruso]] yn canu yn [[Yr Eidal]] a phenderfynu rhoi cynnig ar ei recordio. Fel arbrawf talodd gan punt i Caruso am recordio deg cân - ymgymeriad a gwblhawyd mewn un prynhawn; a dyna'r gramoffon wedi cyrraedd.


Yn ystod yr ugain mlynedd dilynol cafodd Caruso filiwn o bunnau o'i recordiau - a'r cwmni'n cael dwywaith gymaint a'r gwaith o recordio prif gantorion y byd wedi dechrau o ddifri. "Caruso" medd Gaisberg "a roddodd fri ar y gramoffon". Daeth cyfle [[Adelina Patti]] (soprano), Nellie Melba (soprano), Luisa Tetrazzini (soprano), John McCormack (tenor), Chaliapin (bas) a llu mawr hyd heddiw.
Yn ystod yr ugain mlynedd dilynol cafodd Caruso filiwn o bunnau o'i recordiau - a'r cwmni'n cael dwywaith gymaint a'r gwaith o recordio prif gantorion y byd wedi dechrau o ddifri. "Caruso" medd Gaisberg "a roddodd fri ar y gramoffon". Daeth cyfle [[Adelina Patti]] (soprano), Nellie Melba (soprano), Luisa Tetrazzini (soprano), John McCormack (tenor), Chaliapin (bas) a llu mawr hyd heddiw.
Llinell 21: Llinell 21:
Cafwyd dadl fawr ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn ''Collectors Corner'' yn ''y Gramophone'' bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywyd hi'n canu ar y rhaglen [[Rhwng Gŵyl a Gwaith]] - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed.
Cafwyd dadl fawr ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn ''Collectors Corner'' yn ''y Gramophone'' bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywyd hi'n canu ar y rhaglen [[Rhwng Gŵyl a Gwaith]] - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed.


UN ARALL o gantorion Cymru a wnaeth enw iddi ei hun oedd [[Leila Meganne]] o [[Pwllheli|Bwllheli]] ac yn 1912 pan enillodd yn y Gen­edlaethol fe'i clywyd gan [[Lloyd George]] a'i helpodd i dalu am ei haddysg gerddorol ym [[Paris|Mharis]] dan y canwr enwog Jean de Reszke. Daeth yn wraig i [[T. Osborne Roberts]], [[Ysbyty Ifan]], cyfansoddŵr a cherddor gwych.
Un arall o gantorion Cymru a wnaeth enw iddi ei hun oedd [[Leila Meganne]] o [[Pwllheli|Bwllheli]] ac yn 1912 pan enillodd yn y Gen­edlaethol fe'i clywyd gan [[Lloyd George]] a'i helpodd i dalu am ei haddysg gerddorol ym [[Paris|Mharis]] dan y canwr enwog Jean de Reszke. Daeth yn wraig i [[T. Osborne Roberts]], [[Ysbyty Ifan]], cyfansoddŵr a cherddor cydnabyddedig.


Recordiodd un record yn y Ffrangeg "LES LARMES" a ganodd yn yr ''Opera Comique'' ym Mharis.
Recordiodd un record yn y Ffrangeg "LES LARMES" a ganodd yn yr ''Opera Comique'' ym Mharis.

Fersiwn yn ôl 15:39, 19 Mai 2013

Ffonograff Crwn Edison c. 1899.

Teclyn i recordio sain ydy'r Ffonograff, (o'r Groeg: γράμμα, gramma, "llythyr" and φωνή, phōnē, "llais"), a ddyfeisiwyd yn 1877 gan Thomas Edison[1]. Llwyddodd yn ei labordy yn New Jersey i atgynhyrchu'r llais dynol. Y geiriau cyntaf a recordiwyd erioed oedd Mary had a little lamb.

Mae'n anodd dweud pa bryd y daeth y ffonograff (neu'r gramoffon) yn fenter fasnachol lwyddiannus. Yn wreiddiol fe geisiodd cwmni'r Cylinder Phonograph addasu'r ddyfais ar gyfer swyddfeydd fel y gallesid, trwy'r llais, gofnodi llythyrau a gwybodaethau; ond ni bu'r fentur honno'n llwyddiant.

Dyfeisiwyd y ffonograff rhwng Mai a Gorffennaf 1877 wrth i Edison ymchwilio i "ail chwarae" negeseuon telegraff a'i waith trwy eu darlledu drwy'r ffôn.[2]

Mewn sioeau a ffeiriau yn America y gwnaed y defnydd cyntaf o'r rhyfeddod newydd. Ond gan mai ar silindrau cŵyr y gwneid yr atgynhyrchu, a'r rheini'n feddal, fe godai cryn broblemau. Ond tua 1895 llwyddodd Almaenwr o'r enw Berliner i wneud y record fflat gyntaf yn America. Ond yr oedd yn rhaid troi ei ddyfais yntau â llaw nes darganfuwyd ffordd i ddefnyddio sbring i gadw'r record i droi ar gyflymdra cyson.

Edison gyda'i ail fersiwn; ffotograff gan Mathew Brady yn Washington, Ebrill 1878

Tua 1897 sefydlodd y brodyr Gaisberg y Gramophone and Typewriter Company. Aeth adran y teipiaduron i'r wal, ond blodeuodd yr adran Gramoffon. Ond tegan oedd y ddyfais o hyd nes i F.W. Gaisberg glywed Caruso yn canu yn Yr Eidal a phenderfynu rhoi cynnig ar ei recordio. Fel arbrawf talodd gan punt i Caruso am recordio deg cân - ymgymeriad a gwblhawyd mewn un prynhawn; a dyna'r gramoffon wedi cyrraedd.

Yn ystod yr ugain mlynedd dilynol cafodd Caruso filiwn o bunnau o'i recordiau - a'r cwmni'n cael dwywaith gymaint a'r gwaith o recordio prif gantorion y byd wedi dechrau o ddifri. "Caruso" medd Gaisberg "a roddodd fri ar y gramoffon". Daeth cyfle Adelina Patti (soprano), Nellie Melba (soprano), Luisa Tetrazzini (soprano), John McCormack (tenor), Chaliapin (bas) a llu mawr hyd heddiw.

Recordio caneuon Cymraeg

Pa bryd cychwynnwyd recordio caneuon Cymraeg sy'n ansicr iawn. Yr oedd amryw o Recordiau Cymraeg yn y Catalog ym 1902. Mae rhai cantorion a recordiwyd yn gynnar ond ni wyddys dim amdanynt: dyna Festin Davies - yr ydym yn gwybod iddo fod yn Arweinydd yr Imperial Singers, a bu'r côr meibion yma amryw o weithiau yn America.

Ond un o'r rhai cyntaf i gael ei recordio oedd y bariton David Brazell a hynny ar ddechrau'r ganrif. Dechreuodd recordio i'r Phonograph ar y cyntaf a pharhaodd i recordio hyd tua 1930.

Recordiwyd, hefyd, Dr. Mary Davies lawer blwyddyn yn ôl; roedd hi'n un o'r artistiaid yn Eisteddfod Wrecsam 1888; yr oedd hefyd yn awdurdod ar ganu gwerin. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1906 a chafodd y radd o Ddoethor mewn Cerddoriaeth ym 1916; bu farw ym 1930.

Cafwyd dadl fawr ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn Collectors Corner yn y Gramophone bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywyd hi'n canu ar y rhaglen Rhwng Gŵyl a Gwaith - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed.

Un arall o gantorion Cymru a wnaeth enw iddi ei hun oedd Leila Meganne o Bwllheli ac yn 1912 pan enillodd yn y Gen­edlaethol fe'i clywyd gan Lloyd George a'i helpodd i dalu am ei haddysg gerddorol ym Mharis dan y canwr enwog Jean de Reszke. Daeth yn wraig i T. Osborne Roberts, Ysbyty Ifan, cyfansoddŵr a cherddor cydnabyddedig.

Recordiodd un record yn y Ffrangeg "LES LARMES" a ganodd yn yr Opera Comique ym Mharis.

Un arall a fu'n llwyddiant yn y Gymraeg er wedi ei eni yn America oedd Evan Williams, tenor yn meddu ar lais cyfoethog. Bu'n canu mewn oratorïau ledled Cymru a gwnaeth lawer iawn o recordiau. Yr oedd yn un o artist­iaid y Red Label i H.M.V..

Cyfeiriadau

  1. "The Incredible Talking Machine". Time Inc. 4 Mai 2012.
  2. Patrick Feaster, "Speech Acoustics and the Keyboard Telephone: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ARSC Journal 38:1 (Gwanwyn 2007), 10-43; Oliver Berliner a Patrick Feaster, "Letters to the Editor: Rethinking Edison's Discovery of the Phonograph Principle," ARSC Journal 38:2 (Hydref 2007), 226-228.

Gweler hefyd

Daw trwch yr erthygl uchod o erthygl CAN MLYNEDD O RECORDIO gan Ifor Jones yng nghylchgrawn Y Casglwr, ; mae trwydded Creative Commons Attribution 3.0 License ar holl erthyglau'r cylchgrawn.