John Lloyd-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q13129341 |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
[[Categori:Academyddion Cymreig]] |
[[Categori:Academyddion Cymreig]] |
||
[[Categori:Geiriadurwyr Cymraeg]] |
[[Categori:Geiriadurwyr Cymraeg]] |
||
[[Categori:Pobl o Ddolwyddelan]] |
|||
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg]] |
[[Categori:Ysgolheigion Cymraeg]] |
Fersiwn yn ôl 17:43, 15 Mai 2013
Ysgolhaig a bardd oedd John Lloyd-Jones (1885 - 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru.
Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Sir Gaernarfon (Sir Conwy heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle bu'n un o ddisgyblion John Morris-Jones, a Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, lle denodd llu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys T. J. Morgan, Bobi Jones a J. E. Caerwyn-Williams.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922 am ei awdl 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928) a Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi Cymraeg Canol a Hen Gymraeg a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan.