Tref bost: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 7 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1968403 (translate me)
BDim crynodeb golygu
Llinell 68: Llinell 68:
{{System post y DU}}
{{System post y DU}}


[[Categori:System bost y Deyrnas Undig]]
{{Use dmy dates|date=December 2010}}

{{DEFAULTSORT:Tref bost}}

Fersiwn yn ôl 00:56, 29 Ebrill 2013

Tref bost yw rhan angenrheidiol o bob cyfeiriad post yn y Deyrnas Unedig, ac yn ffurfio uned sylfaenol y system dosbarthu post.[1] Gan gynnwys y dref post cywir yn y cyfeiriad, yr ydych yn cynyddu'r siawns o lythyr neu barsel yn cael ei gyflawni ar amser. Mae trefi post fel arfer yn seiliedig ar leoliad swyddfeydd dosbarthu. Ar hyn o bryd, eu prif swyddogaeth yw gwahaniaethu rhwng enwau ardal neu stryd mewn cyfeiriadau sydd ddim yn cynnwys côd post.

Cyfundrefn

Mae tua 1,500 tref post sy'n cael eu trefnu at gyfleustra y Post Brenhinol. Mae pob tref bost fel arfer yn cyfateb i un neu fwy o ardaloedd post a gall pob tref bost gwmpasu ardal sy'n cynnwys nifer o drefi unigol a phentrefi. Anaml iawn y mae'r trefi post yn cyfateb i ffiniau gwleidyddol ac yn aml fe welir grwpio lleoedd sy'n gwbl ar wahân at bob diben arall.

Mewn rhai mannau, gall trefi post gyfateb i ardal post unigol gyda phob tref post yn cynnwys un neu fwy o sectorau côd post. Ceir enghreifftiau lle nad yw trefi post a chodau post yn cyd-daro. Er enghraifft, mae'r sector côd post EH14 5 yn cynnwys tair tref bost: Juniper Green, Currie a Balerno, tra mae Balerno hefyd o fewn sectorau eraill, megis EH14 7.

Defnydd

Mae'r Post Brenhinol yn nodi bod rhaid i'r dref bost gael ei gynnwys ar bob eitem a dylai gael eu ysgrifennu mewn llythrennau bras.[2]

1 Heol Valans
LLUNDAIN
E2 1AA

Mae'r system yn golygu y bydd gan rai gyfeiriadau defi post sy'n cyfateb i le gerllaw, neu yn cwmpasu ardal fawr iawn. Mae'r defnydd o godau post yn golygu nad yw bellach yn angenrheidiol i gynnwys y sir bost flaenorol mewn cyfeiriad post. Dyw rhai trefi post, a elwir yn trefi post arbennig, byth angen cynnwys sir post, naill ai oherwydd bod y dref yn fawr neu oherwydd ei fod yn rhoi ei henw i'r sir.

Lleoliad

Mewn rhai mannau, mae gwybodaeth ychwanegol megis enw pentref neu faestref yn cael ei ychwanegu uwchben y dref bost i roi lleoliad mwy penodol.

Pan fo hyn yn rhan angenrheidiol o'r cyfeiriad post swyddogol, mae'r Post Brenhinol yn enwi hyn yn yr "ardal leol dibynnol". Mewn nifer cyfyngedig o leoedd mae'r llinell "ail ardal leol dibynnold" hefyd yn ofynnol, cyn llinell yr ardal leol dibynnol.

Weithiau, nid yw gwybodaeth leoliad (ac eithro'r dref bost) yn rhan o'r cyfeiriad post swyddogol. Yn benodol, o fewn tref post Llundain, mae pob enw ardal côd post yn cyfateb i ardal côd post wedi'w rhifo, a nid oes angen i'w defnyddion yn y cyfeiriad post os oes côd post. Er enghraifft, "Bethnal Green" yw enw'r ardal cod post "E2" ac mae'n ddewisol yn y cyfeiriad canlynol:

1 Heol Valans
Bethnal Green
LLUNDAIN
E2 1AA

Os nad oes cod post dilys, neu os yw'r peiriant didoli yn gwrthod y llythyr, gall y defnydd o leoliad dewisol neu wybodaeth sir gynorthwyo didoli â llaw. Mae manylion lleoliad yn helpu cysylltu cyfeiriadu post i enwau lleoliadauess. Yn absenoldeb côd post llawn dilys, gall y defnydd o enwau lleoliad osgoi amwysedd lle mae mwy nag un stryd gyda'r un enw a gwmpesir gan yr un ardal côd post neu lle mae'r enw tref yn bodoli mewn siroedd gwahanol.

Drwy a Ger

Yn draddodiadol, lle bo lleoliad pentref yn cael ei wasanaethu gan dref bost sy'n hollol wahanol i'w leoliad, cafodd y gair "Drwy" neu "Ger" ei ychwanegu cyn y dref bost. Er enghraifft:

1 Stryd Fawr
Sewardstone
Ger Llundain
E4 1AA

Fodd bynnag, nid yw'r Post Brenhinol yn annog hyn[1] oherwydd mae'r dechnoleg a'r tablau cyfeirio maen nhw'n defnyddio yn chwilio am dref post os oes côd post anghywir, ar goll neu annarllenadwy. Yn ogystal, yn y Saesneg, gall "Near" a "Nr." gael ei gymysgu â "North".

Enwau bost tref amwys

Mae'r enwau trefi post yn unigryw o fewn pob hen sir post a phob ardal côd post. Ond ar draws y DU, mae gan rhai trefi post yr un enwau neu enwau tebyg. Ar gyfer ddibenion didoli post, gall trefi post mmewn cyfeiriadau heb gôd post gael ei ddidoli ymlaen llaw, dim ond os yw'r 10 llythyren gyntaf o enw'r dref bost yn cyfateb yn ddiamwys i un dref bost yn unig. Yn ogystal, mae'r trefi post canlynol yn cynnwys ardaloedd mawr iawn neu wedi rhannu llwybrau didoli, fel bod enw'r dref yn annigonol ar gyfer penderfynu ar yr ardal gyflenwi berthnasol heb gyfeirio at y côd post neu gwybodaeth leol ychwanegol:

  • BARNSLEY (S)
  • BELFAST (BT)
  • BIRMINGHAM (B)
  • CAERDYDD (CF)
  • CHESTERFIELD (S)
  • GLASGOW (G)
  • LEEDS (LS)
  • LLUNDAIN (E, EC, N, NW, SE, SW, W, WC)
  • MANCEINION (M)
  • MANSFIELD (NG)
  • NOTTINGHAM (NG)
  • REDDITCH (B)
  • SALFORD (M)
  • SHEFFIELD (S)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Post Brenhinol, Canllaw Rheoli Cyfeiriadau, (2004) (Saesneg)
  2. Post Brenhinol Cyngor Post - Help a chyngor ar gyfer anfon eitemau (Saesneg)

Dolenni Allanol