Llenyddiaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6647749 (translate me) |
Cloddiwr (sgwrs | cyfraniadau) B →Hanes |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
==Hanes== |
==Hanes== |
||
Sefydlwyd yr '''Academi Gymreig''', neu'r '''Academi''' fel y'i |
Sefydlwyd yr '''Academi Gymreig''', neu'r '''Academi''' fel y'i galwyd yn gyffredinol, ym [[1959]] gan [[Bobi Jones]] a [[Waldo Williams]]. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg er sicrhau y byddai awduron Cymreig a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y [[Saesneg]] yn gallu bod yn aelodau. Ym [[1968]], crëwyd adran benodol i'r Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth [[Cyngor Celfyddydau Cymru]] ar y pryd, sef [[Meic Stephens]], ar y cyd gydag aelodau o’r ''[[Guild of Welsh Writers]]''. |
||
Yr Academi a gyhoeddodd ''[[Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig|Gwyddoniadur Cymru]]'' yn 2008, ac fe'i |
Yr Academi a gyhoeddodd ''[[Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig|Gwyddoniadur Cymru]]'' yn 2008, ac fe'i cyhoeddir yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda chefnogaeth ariannol y [[Loteri]]. Roeddent eisoes wedi cyhoeddi ''[[Geiriadur yr Academi]]'' ym [[1995]]. |
||
Ymunodd yr Academi â [[Tŷ Newydd (Canolfan)|Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd]] i greu sefydliad cenedlaethol newydd a elwir Llenyddiaeth Cymru yn [[2011]].<ref>{{dyf gwe| url=http://www.llenyddiaethcymru.org/yr-academi-gymreig/| teitl=Yr Academi Gymreig| cyhoeddwr=Llenyddiaeth Cymru| dyddiad=2011| dyddiadcyrchiad=19 Awst 2011}}</ref> |
Ymunodd yr Academi â [[Tŷ Newydd (Canolfan)|Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd]] i greu sefydliad cenedlaethol newydd a elwir Llenyddiaeth Cymru yn [[2011]].<ref>{{dyf gwe| url=http://www.llenyddiaethcymru.org/yr-academi-gymreig/| teitl=Yr Academi Gymreig| cyhoeddwr=Llenyddiaeth Cymru| dyddiad=2011| dyddiadcyrchiad=19 Awst 2011}}</ref> |
Fersiwn yn ôl 22:34, 22 Ebrill 2013
- Am erthygl ar lenyddiaeth Gymraeg gweler: Llenyddiaeth Gymraeg; am lenyddiaeth Saesneg Cymru gweler yma.
Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru yw Llenyddiaeth Cymru (Saesneg: Literature Wales) ac ariannir hi yn bennaf o ffynonellau cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gynnal, ymhlith pethau eraill, cyrsiau, cynadleddau, darlleniadau, cystadleuthau a gweinyddu anrhydeddau (megis Llyfr y Flwyddyn). Nhw sydd hefyd yn gyfrifol am Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Y Prif Weithredwr ers Tachwedd 2011 yw Lleucu Siencyn[1]
Hanes
Sefydlwyd yr Academi Gymreig, neu'r Academi fel y'i galwyd yn gyffredinol, ym 1959 gan Bobi Jones a Waldo Williams. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg er sicrhau y byddai awduron Cymreig a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Saesneg yn gallu bod yn aelodau. Ym 1968, crëwyd adran benodol i'r Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, sef Meic Stephens, ar y cyd gydag aelodau o’r Guild of Welsh Writers.
Yr Academi a gyhoeddodd Gwyddoniadur Cymru yn 2008, ac fe'i cyhoeddir yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda chefnogaeth ariannol y Loteri. Roeddent eisoes wedi cyhoeddi Geiriadur yr Academi ym 1995.
Ymunodd yr Academi â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i greu sefydliad cenedlaethol newydd a elwir Llenyddiaeth Cymru yn 2011.[2]
Gwobr Llyfr y Flwyddyn
Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r llyfrau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Mae'r gwobrwyon yn cael eu rhoi i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Yn 2012, fe wobrwyir cyfrolau Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2011 o fewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Teitl y wobr farddoniaeth Saesneg, yw Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias.
Gweithgareddau
Mae eu gweithgareddau'n cynnwys;
- Gwobr yr Academi Gymreig
- Gwobr John Tripp
- Geiriadur yr Academi (Saesneg : The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru
- Cyfres yr Academi Prif lyfrau Ewrop Cyfieithiadau i'r Gymraeg
- Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig
- Gweinyddir Gwobr Llyfr y Flwyddyn
- Gweinyddir anrhydedd Bardd Plant Cymru ar y cyd ag S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Urdd Gobaith Cymru a Bwrdd yr Iaith
- Rhestr Awduron Cymru
- Ysgoloriaethau
- Bwrsiariaeth
Cyhoeddiadau
Mae'r Academi Gymreig yn cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol Taliesin (cylchgrawn) yn ogystal a gweithiau llenyddol gwreiddiol. Defnyddiodd yr Academi Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a Geiriadur yr Academi. Trwy gyfrwng Gwasg Prifysgol Rhydychen cyhoeddwyd The Oxford Companion to the Literature of Wales. Mae fersiwn diwygiedig o’r gwaith pwysig hwn ar gael bellach gan Wasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg yn 1997 a'r fersiwn newydd Saesneg yn 1998.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ gwefan Saesneg y BBC; adalwyd Tachwedd 2012.
- ↑ Yr Academi Gymreig. Llenyddiaeth Cymru (2011). Adalwyd ar 19 Awst 2011.
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd Tachwedd 2012