Dihareb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 87 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q35102 (translate me)
→‎Dolenni allanol: ffynonellau a manion using AWB
Llinell 15: Llinell 15:


{{eginyn llenyddiaeth}}
{{eginyn llenyddiaeth}}




{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}

Fersiwn yn ôl 02:51, 18 Ebrill 2013

Dywediad byr, poblogaidd yw dihareb, sy'n mynegi gwiredd yn seiliedig ar brofiad o fywyd cyffredin. Nid yw dihareb yn ddyfyniad o eiriau un person, yn hytrach, mae'n tarddio o draddodiad llafar fel rheol, ac yn crynhoi doethineb canrifoedd. Mae gan bob iaith a diwylliant ei diarebion unigryw ei hun er y ceir rhai diarebion sy'n 'rhyngwladol' ac a geir mewn sawl iaith a diwylliant. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb.

Yn aml, mae dihareb yn cynnwys trosiad, er enghraifft, 'Nid aur yw popeth melyn' a 'Gorau cannwyll pwyll i ddyn'. Ond ceir diarebion heb drosiadau hefyd, e.e. 'Trech Duw na phob darogan'.

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

  • J. Hughes (gol.), Diarebion y Cymry (Conwy, 1891).

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am dihareb
yn Wiciadur.