Notting Hill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
stryd a heol |
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
* [[Notting Hill (ffilm)]]: sy'n serennu [[Rhys Ifans]] |
* [[Notting Hill (ffilm)]]: sy'n serennu [[Rhys Ifans]] |
||
[[en:Notting Hill]] |
Fersiwn yn ôl 03:25, 16 Ebrill 2013
Notting Hill | |
Notting Hill |
|
Notting Hill yn: Y Deyrnas Unedig | |
Cyfeirnod grid yr AO | TQ245805 |
---|---|
Llundain Fawr | |
Rhanbarth | |
Gwlad | Lloegr |
Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
Tref bost | LONDON / LLUNDAIN |
Rhanbarth cod post | W11 & W10 |
Cod deialu | 020 |
Heddlu | |
Tân | |
Ambiwlans | |
Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Llundain |
Senedd y DU | Kensington |
Senedd Llundain | |
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • |
Mae Notting Hill yn rhan o Lundain, Lloegr, ac yn agos i gornel gogledd-orllewinol Gerddi Kensington. Mae'n fyd-enwog am ei Garnifal, ac am fod yn gartref i'r farchnad stryd ar Heol Portobello.[1]
Roedd yn ardal dlawd a difreintiedig, hyd at y 1980au, ond bellach mae'n cael ei gyfrif yn ardal gefnog a ffasiynol,[2] sy'n enwog am ei dai terras enfawr, Fictorianaidd, a'i siopau a'i dai-bwyta drudfawr - yn enwedig oddeutu Westbourne Grove a Clarendon Cross. Defnyddiodd erthygl yn y Daily Telegraph yn 2004 yr ymadrodd y Notting Hill Set[3] i gyfeirio at grwp o wleidyddion Ceidwadol megis David Cameron a George Osborne a drigoodd yma'r adeg honno.
Mae rhan orllewinol Notting Hill yn cynnwys ardal lle arferid gwneud brics a theils yn nechrau'r 19eg ganrif, gan ddefnyddio clai'r ardal. Mae'r unig bopty sydd wedi goroesi i'w weld yn Walmer Road.[4][5] Symudodd meichiaid yma gyda'u moch, wedi iddynt gael eu gorfodi allan o ardal Marble Arch. Roedd hyn yn rhan o gynllun i "lanhau" rhannau o Lundain a alwyd yn "Potteries and Piggeries".
Carnifal Notting Hill
Cynhelir y Carnifal yn Awst, dros gyfnod o ddeuddydd: ar y Sul a'r Llun (Gŵyl y Banc) dilynol. Mae'n ddigwyddiad blynyddol, ers 1965, [6] a chaiff ei drefnu gan y boblogaeth Garibiaidd, llawer ohonynt wedi byw yma ers y 1950au. Yn ei anterth, ymwelodd 1.5 miliwn o bobl, sy'n ei wneud yn un o wyliau mwyaf Ewrop.
Cafwyd cryn sylw yn y wasg i derfysg pan ymladdwyd rhai brwydrau stryd gyda'r heddlu yn 1976,[7] wedi i'r heddlu arestio person am ddwyn. Anafwyd dros gant o'r heddlu yn y terfysgoedd a ddilynodd hynny.[8]
Cyfeiriadau
- ↑ "Portobello Road". London Online. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
- ↑ "West London". London Hotels .com. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
- ↑ Watt, Nicholas (28 Gorffennaf 2004). "Tory Bright Young Things". The Guardian (London). http://www.guardian.co.uk/politics/2004/jul/28/conservatives.uk1. Adalwyd 18 Chwefror 2010.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/london/yourlondon/london_history/pottery_lane.shtml
- ↑ [http://www.london-footprints.co.uk/wknottinghillroute.htm Notting Hill: Olion Llundain.
- ↑ 1Xtra – Black History. "1965". BBC. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
- ↑ Griffiths, Emma (25 Awst 2006). "Remembering the Notting Hill riot". BBC NEWS. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
- ↑ "Notting Hill Carnival ends in riot". BBC News. 30 Awst 1976. Cyrchwyd 7 Mehefin 2009.
Gweler hefyd
- Notting Hill (ffilm): sy'n serennu Rhys Ifans