Peniarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
[[Categori:Meirionnydd]] |
[[Categori:Meirionnydd]] |
||
[[Categori:Llawysgrifau Peniarth]] |
[[Categori:Llawysgrifau Peniarth]] |
||
[[br:Peniarth]] |
Fersiwn yn ôl 08:50, 15 Ebrill 2013
Plasdy ym mhlwyf Llanegryn, Meirionnydd, de Gwynedd, a fu'n gartref teuluol y Wynniaid (Wynne yn ddiweddarach) yw Peniarth.
Mae'n lle pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am fod y casgliad o lawysgrifau canoloesol a gasglwyd gan Syr Robert Vaughan (1592 - 1667) o Hengwrt, Meirionnydd, wedi cael cartref yno yn y 19eg ganrif. Gwerthwyd y casgliad hwnnw gan William Wynne VII i Syr John Williams yn 1898. Dyma'r casgliad unigol pwysicaf o hen lawysgrifau Cymraeg a adnabyddir heddiw fel Llawysgrifau Peniarth ac a ddiogelir i'r genedl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Erbyn heddiw mae'r hen blasdy yn fferm gyda thir sylweddol yn perthyn iddi yn Nyffryn Dysynni.