Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
o bosib...
Llinell 45: Llinell 45:
<gallery>
<gallery>
Delwedd:Garth Celyn 1.jpg|Garth Celyn o hirbell.
Delwedd:Garth Celyn 1.jpg|Garth Celyn o hirbell.
Delwedd:Garth Celyn RO.gif|Y tŷ a'r tŵr lle carcharwyd Siwan.
Delwedd:Garth Celyn RO.gif|Y tŷ a'r tŵr, o bosib lle carcharwyd Siwan.
Delwedd:Garth celyn twr.jpg|Golwg manwl o'r tŵr.
Delwedd:Garth celyn twr.jpg|Golwg manwl o'r tŵr.
Delwedd:Garth celyn twr 2.jpg|Y tŵr eto.
Delwedd:Garth celyn twr 2.jpg|Y tŵr eto.

Fersiwn yn ôl 16:11, 11 Ebrill 2013

Pen y Bryn
Pen y Bryn, Aber, safle tybiedig Garth Celyn.
Gwybodaeth gyffredinol
MathManor House
LleoliadAbergwyngregyn, Aber, Gwynedd
Dechrau adeiladucyn 1553

Maenordy deulawr gyda rhan ohono'n dyddio'n ôl i gychwyn y 12fed ganrif ydy Pen-y-bryn neu Pen y Bryn (ac yn anghywir: Garth Celyn), tua 200 metr o Abergwyngregyn, Gwynedd a thua 5 milltir i'r dwyrain o Fangor; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref ac Afon Menai. Yr enw cyfoes am y tŷ yw Pen y Bryn. Fe'i gwnaed o garreg leol a tho llechen ar wahanol adegau, ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gan rai gyda Llywelyn Fawr a Siwan. Cyfeirnod OS: SH653726. Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch pan oedd wedi mynd a'i ben iddo; o'r herwydd mae dyddio carbon yn rhoi dyddiadau ar ôl 1553.

Yn hanesyddol, saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros Fwlch y Ddeufaen yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i Lanfaes ar Ynys Môn.

Yn 1988 honodd perchennog y tŷ Kathryn Gibson a Myrddin ap Dafydd mai'r adeilad hwn yw "Garth Celyn", Llys Tywysogion Gwynedd,[1] ond mae ymchwil Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn 2012 yn datgan "nad oes dim tystiolaeth argyhoeddedig i ddweud mai Pen-y-Bryn yw "gwir safle palas Llywelyn".[2] Ategwyd hyn gan Hywel Thomas o Gwmni Adfywio Abergwyngregyn a Dewi Roberts, Cadeirydd y Cyngor lleol Credwn ni a llawer un arall fod y dystiolaeth sydd ar gael yn ffafrio'r safle arall sydd yng nghanol y pentre.

Dyddio Pen y Bryn

Ceir cofnod fod adeilad - rhywle ar dir Pen y Bryn - wedi ei godi rhwng 1303-1306, cofnodir y manylion a bod gwith eitha trwm a oedd yn cynnwys cludo cerrig wedi'u siapio a chalch i wnued mortar. Does dim olion o gerrig mawr ar y safle arall - safle'r Mŵd, a chredir fod y safle yn y fan honno braidd yn fach i lys eitha mawr.[3] Gwyddys hefyd i Rys a Jane Thomas fyw yma yn 1553, gan ei brynnu oddi wrth Coron Lloegr. Mae'r pren yn nho'r prif dŷ wedi'u dyddio i rhwng 1619 a 1624.[4] Gwyddys hefyd fod y tŷ wedi'i adeiladu ar chwe chyfnod a bod hanes hir i'r tŷ cyn iddo gael to newydd tua 1620.[5] Codwyd y tŵr ar ôl gweddill y tŷ a chafwyd gryn ychwanegiadau yn y 18fed ganrif.

Llys Tywysogion Gwynedd yn Aber?

Roedd gan Dywysogion Gwynedd lys yn Abergwyngregyn. Mae ei union leoliad yn bwynt dadleuol; dywedir fod dau safle'n bosibl, naill ai ger Pen y Mŵd, gerllaw ar lan yr afon, a'r llall ar safle Garth Celyn.[6] Ceir adfeilion o'r Oesoedd Canol yng Ngarth Celyn, wedi cael eu dehonglu fel gwaith maen ond sy'n anodd eu ddyddio.[7][8] Wrth y Mŵd mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi dadorchuddio adeilad o Oes y Tywysogion, a'i nodi fel llys brenhinol.[9][10][11] Ers 1988, haerwyd mai safle'r tŷ presenol yw safle llys y Tywysogion,[1]

Cyfnod y Tywysogion

Yn wreiddiol, Aberffraw ym Môn oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref Arllechwedd, oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr, a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd. Er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Aber oedd safle llys Tywysogaeth Cymru annibynnol yn y 13eg ganrif. Yn y llys yn Abergwyngregyn y bu farw Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd Gwilym Brewys yn ystafell wely Siwan yn 1230. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi eu bont wedi eu hysgrifennu yng "Ngarth Kelyn". Ganed Y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort, yn y llys ar 12 Mehefin 1282.

Oriel

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (am ddim) [1], (archif) [2] Ian Skidmore, Daily Post, 19 Tachwedd 2001
  2. Golwg29 Tachwedd 2012; tudalen 4 - 5.
  3. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 110-112. accessed 5th November 2012
  4. Main range tree-ring dated 1619-24. Tree-ring dating commissioned by the North-west Wales Dendrochronological Project in association with RCAHMW, and reported in Vernacular Architecture 41 (2010), tud. 114: ABER, Pen-y-bryn (Garth Celyn) (SH 6582 7273) Torrwyd y coed rhwng 1619–24. Gwefan Coflein
  5. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 6. http://www.castles99.ukprint.com/PenyBryn.pdf accessed 5th November 2012
  6. Tystiolaeth Garth Celyn. Gweneth Lilly, Llanfairfechan. Y Traethodydd, Cyf. CLIII (644-647) 1998 tud 145-147. [3] accessed 21 Tachwedd 2012
  7. "The complex included other structures, including a barn or gatehouse (possibly rebuilt about 1700 on earlier stonework) and the present tower."PEN-Y-BRYN, BARN, ABER; adalwyd ???
  8. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. Tud 113. [4]
  9. THE LLYS AT ABER, HOUSE EXCAVATED AT PEN Y MWD accessed 21st Feb 2011
  10. ABER CASTLE OR PEN-Y-MWD MOUND
  11. John Roberts, archaeologist for the Snowdonia National Park Authority. Final viewing for Abergwyngregyn's Welsh princes site at news.bbc.co.uk