Microsoft Windows: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 116 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1406 (translate me)
dileu Nodyn
Llinell 7: Llinell 7:
|developer = [[Microsoft]]
|developer = [[Microsoft]]
|source_model = [[Ffynhonnell caeedig]] / [[Ffynhonnell ranedig]]
|source_model = [[Ffynhonnell caeedig]] / [[Ffynhonnell ranedig]]
|released = {{Start date and age|1985|11|20}} (fel [[Windows 1.0]])
|released = 20 Tach. 1985 (fel [[Windows 1.0]])
|family = [[Windows 9x]], [[Windows CE]] a [[Windows NT]]
|family = [[Windows 9x]], [[Windows CE]] a [[Windows NT]]
|source_model = [[Meddalwedd ffynhonnell gaeedig|Ffynhonnell gaeedig]] / [[Ffynhonnell ranedig]]
|source_model = [[Meddalwedd ffynhonnell gaeedig|Ffynhonnell gaeedig]] / [[Ffynhonnell ranedig]]

Fersiwn yn ôl 07:29, 11 Ebrill 2013

Microsoft Windows
Logo Windows
Bwrdd gwaith Windows 7
Rhyddhad diweddaraf Windows, Windows 7, yn dangos y bwrdd gwaith a'r ddechreulen
Cwmni / datblygwr Microsoft
Rhaglennir gyda C, C++ ac iaith cydosodiad[1]
Teulu SW Windows 9x, Windows CE a Windows NT
Cyflwr gweithio Rhyddhawyd yn gyhoeddus
Model ffynhonnell Ffynhonnell gaeedig / Ffynhonnell ranedig
Rhyddhad gwreiddiol 20 Tach. 1985 (fel Windows 1.0)
Targed marchnata Cyfrifiadura personol
Iaith/ieithoedd y mae hi ar gael ynddi/ynddynt Amlieithog (rhestr o becynnau iaith Windows 7)
Dull diweddaru Windows Update, Windows Anytime Upgrade
Platfformau wedi eu cynnal ARM, IA-32, x86-64 ac Itanium
Math o gnewyllyn Hybrid (teulu Windows NT), DOS (Windows 16-did a chyfres Windows 9x/ME)
Rhyngwyneb defnyddiwr diofyn Graffigol (Cragen Windows)
Trwydded Meddalwedd masnachol perchnogol
Gwefan swyddogol windows.microsoft.com

Cyfres meddalwedd o systemau gweithredol, cyfrifiadurol yw Microsoft Windows, a grëwyd ac a werthir gan Microsoft. Cafodd y system weithredol Windows ei greu ar 20 Tachwedd 1985, fel atodiad (add-on) i MS-DOS.

Erbyn 1984 roedd Microsoft Windows wedi dominyddu 90% o farchnad fyd-eang cyfrifiaduron personnol, gan oddiweddu gwerthiant MAC OS a oedd wedi'i sefydlu flwyddyn ynghynt (1984).

Fersiynau Cynnar

Fersiwn cyntaf Microsoft Windows, sef Windows 1.0, a ryddhawyd ym 1985

Gyda'r fersiynau cynnar iawn, dim ond y rhaglenni sylfaenol fel y cyfrifiannell, calendr, cloc, a'r panel arolygu oedd ar gael. Gelwir y fersiwn hon yn Windows 1.0. Yn ystod mis Hydref 1987, rhyddhaodd Microsoft Windows 2.0, ac wedyn Windows 2.1 tipyn ar ôl hynny.

Windows 3.0 a 3.1

Yn ystod yr 1990au, rhyddhawyd Windows 3.0 a Windows 3.1. Cafodd y fersiynau yma ddyluniad newydd, a rhagor o gof rhith.

Windows 95, 98, a ME

Cafodd Windows 95 ei ryddhau yn ystod mis Awst 1995 gyda rhyngwyneb defnyddiwr graffigol newydd, cymorth ar gyfer enwau ffeiliau hyd at 255 cymeriad, a'r gallu i redeg rhaglenni 32-did. Yn ystod mis Mehefin 1998, rhyddhawyd Windows 98, ac wedyn ail fersiwn o'r enw Windows 98 Second Edition yn ystod mis Mai 1999. Rhyddhawyd Windows 2000 ym mis Chwefror 2000, ac wedyn Windows ME (sef Millenium Edition) ym mis Medi 2000.

Fersiynau Diweddar

Tua diwedd 2006, cafodd Windows Vista ei ryddhau, ac wedyn Windows 7 yn ystod mis Hydref 2009. Mae Windows 8 dal i gael ei ddatblygu.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol