Amgueddfa Werin Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B File renamed: File:St Fagans Farmhouse.jpgFile:Hendre'r Ywydd Uchaf farmhouse, St Fagans.jpg File renaming criterion #3: Correct misleading names into accurate ones.St Fagans National History...
→‎Ffynonellau: Cywiro Ffynonellau, replaced: == ffynhonnellau == → ==Ffynonellau== using AWB
Llinell 351: Llinell 351:
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau ''[[Doctor Who]]'' "[[Human Nature (pennod Doctor Who)|Human Nature]]" a "[[The Family of Blood]]" yn Sain Ffagan.
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau ''[[Doctor Who]]'' "[[Human Nature (pennod Doctor Who)|Human Nature]]" a "[[The Family of Blood]]" yn Sain Ffagan.


== ffynhonnellau ==
==Ffynonellau==
{{Comin|Category:St Fagans National History Museum|Amgueddfa Werin Cymru}}
{{Comin|Category:St Fagans National History Museum|Amgueddfa Werin Cymru}}
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

Fersiwn yn ôl 07:00, 3 Ebrill 2013

Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes phensaerniaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.

Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15fed ganrif ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.

Hanes

Syniad y bardd a'r arbenigwr llên gwerin Iorwerth C. Peate oedd sefydlu'r amgueddfa, ar sail Skansen, sef amgueddfa awyr-agored pensaerniaeth brodorol Sweden yn Stockholm. Ond roedd rhan fwyaf o adeiladau Skansen yn rai pren, a byddai amgueddfa tebyg yng Nghymru yn naturiol yn fwy uchelgeisiol ocherwydd fod adeiladau brodorol Cymru wedi eu adeiladu o gerrig yn bennaf. Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu'r amgueddfa ym 1946 yn dilyn y rhodd o'r castell a'i thiroedd gan Iarll Plymouth, agorodd yn swyddogol ym 1948. Peate oedd y curadur cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Trefor M. Owen.

Adeiladau yn Amgueddfa Werin Cymru

Llun Enw Dyddiad Ail-godwyd Safle wreiddiol Sir
(traddodiadol)
Sir
(presennol)
Nodiadau pellach
Pentre Celtaidd 1992 Sain Ffagan Caerdydd Replica ar sail adfeilion yng Ngwynedd, Sir y Fflint a Swydd Gaerwrangon.[1]
Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf 1508[2] 1962 Llangynhafal Sir Ddinbych Sir Ddinbych
Delwedd:IMG 1268.jpg Eglwys Sant Teilo 1100 - 1520 2007[2] Llandeilo Tal-y-Bont, Pontarddulais Sir Forgannwg Abertawe Ymddengys fel yr oedd tua 1510-30[3]
Ffermdy Cilewent Dechreuwyd 1470

(Ffurf bresennol: 1734)

1959 Llansanffraid Cwmdeuddwr, Rhaeadr Gwy Sir Drefaldwyn Powys
Y Garreg Fawr 1544[2] 1984 Waunfawr Sir Gaernarfon Gwynedd
Ysgubor Stryd Lydan tua 1550 1951 Llannerch Banna Sir y Fflint Wrecsam [4]
Castell Sain Ffagan 1580 Sain Ffagan Sir Forgannwg Caerdydd
Ysgubor Hendre Wen Tua 1600 1982 Llanrwst Sir Ddinbych Conwy
Talwrn 17eg ganrif 1970 Hawk and Buckle Inn, Dinbych Sir Ddinbych Sir Ddinbych
Ffermdy Kennixton 1610 1955 Llangynydd Sir Forgannwg Abertawe
Ffermdy Abernodwydd 1678 1955 Llangadfan Sir Faldwyn Powys
Efail 18fed ganrif 1972 Llawr-y-Glyn Sir Drefaldwyn Powys
Tanerdy hwyr yn y 18fed ganrif 1968 Rhaeadr Gwy Sir Drefaldwyn Powys
Melin wlân Esgair Moel 1760 1952 Llanwrtyd Sir Frycheiniog Powys
Bwthyn Llainfadyn 1762 1962 Rhostryfan Sir Gaernarfon Gwynedd
Bwthyn Nant Wallter Tua 1770 1993 Taliaris Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
Tolldy 1772 1968 Penparcau, Aberystwyth Sir Aberteifi Ceredigion
Capel Pen Rhiw 1777 1956 Dre-fach Felindre Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
Beudy Cae Adda 18fed–19eg ganrif 2003 Waunfawr Sir Gaernarfon Gwynedd
Twlc mochyn tua 1800 1977 Hendre Ifan Prosser Sir Forgannwg Rhondda Cynon Taf
Bythynnod Rhyd-y-Car Tua 1800 1986 Rhyd-y-Car, Merthyr Tudful Sir Forgannwg Merthyr Tudful Chwech o dai teras wedi eu creu i gynrychioli chwe chyfnod cronolegol yn ystod y diwydiant haearn: 1805, 1855, 1895, 1925, 1955, 1985
Ffermdy Llwyn-yr-Eos Dechreuwyd 1820 Sain Ffagan Sir Forgannwg Caerdydd Fferm wreiddiol o ystâd Castell Sain Ffagan. Agorwyd fel rhan o'r amgueddfa ym 1989.
Melin ŷd Bompren 1852– 1977 Cross Inn Ceredigion
Sied wair 1870 1977 Maentwrog Gwynedd Dim ond y tirfeddianwyr cyfoethocaf oedd yn codi'r fath siediau gwair ar gyfer eu deiliaid.[5]
Tŷ haf tua 1880 1988 Parc Bute, Caerdydd Sir Forgannwg Caerdydd
Siop Gwalia 1880 1991 Cwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr Sir Forgannwg Pen-y-bont ar Ogwr Ymddengys fel yr oedd yn y 1920au
Ysgol Maestir defnyddiwyd 1880–1916 1984 Llanbedr Pont Steffan Sir Aberteifi Ceredigion
Melin lifo 1892 1994 Tŷ'n Rhos, Llanddewi Brefi Ceredigion
Siop teiliwr 1896 (ymhelaethwyd 1920au) 1992 Cross Inn Ceredigion
Crochendy Ewenni tua 1900 1988 Ewenni Sir Forgannwg Bro Morgannwg
Popty'r Dderwen 1900 1987 Thespian Street, Aberystwyth Sir Aberteifi Ceredigion Caewyd 1924
Institiwt y Gweithwyr 1916 1995 Oakdale, Y Coed Duon Sir Fynwy Caerffili
Gweithdy Cyfrwywr 1926 1986 Sanclêr Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin
Swyddfa bost 1936 1992 Blaen-waun, ger Hendy-gwyn ar Daf Sir Gaerfyrddin Sir Gaerfyrddin Ymddengys fel yr oedd yn yr Ail Ryfel Byd[6]
Pre-fab 1948 1998 Gabalfa Sir Forgannwg Caerdydd Ymddengys fel yr oedd tua 1950[7]
Tŷ Gwyrdd
("Tŷ'r Dyfodol" yn wreiddiol)
2001[8] Sain Ffagan Caerdydd Ar y cyd gyda'r BBC. Ysbrydolwyd gan ddulliau adeiladau traddodiadol a thechnoleg werdd.[9]

Digwyddiadau

Mae'r amgueddfa wedi cynnal yr "Everyman Open Air Theatre Festival" (a ddechreuodd ym 1983) ers 1996,[10] pan symudwyd yno o Erddi Dyffryn ger Casnewydd. Mae'r ŵyl yn cynnwys drama Shakespeare, cynhyrchiad gerddorol a sioe ar gyfer y teulu, ac mae wedi dod yn ran elfennol o galendr theatr yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.

Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau Doctor Who "Human Nature" a "The Family of Blood" yn Sain Ffagan.

Ffynonellau

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1.  Adeiladau Hanesyddol. Amgueddfa Werin Cymru.
  2. 2.0 2.1 2.2  Y Tuduriaid. Amgueddfa Werin Cymru.
  3.  Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  4. Ysgubor Stryd Lydan, Amgueddfa Werin Cymru, 1 Mehefin 1951. Casglu y Tlysau. Cyrchwyd 3 Mehefin 2010
  5. Perthyn - St. Fagans Museum (Excerpt) | Scribd (Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2010.
  6.  Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  7.  Cartref parhaol ar gyfer tŷ dros dro: y pre-fab yn Sain Ffagan. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
  8.  House for the Future. Carpenter Oak & Woodland.
  9.  Tŷ Gwyrdd. Amgueddfa Werin Cymru.
  10. Everyman Open Air Theatre Festival

Dolenni allanol