Tylluan Wen (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7860232 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Llinell 34: Llinell 34:
|-
|-
| Martha/Eirlys
| Martha/Eirlys
| [[Sian James]]
| [[Siân James]]
|-
|-
| Ifor Preis
| Ifor Preis

Fersiwn yn ôl 14:36, 30 Mawrth 2013

Tylluan Wen
Cynhyrchydd Ffilmiau'r Nant
Ysgrifennwr Angharad Jones
Serennu Sian James
John Ogwen
Betsan Llwyd
Maldwyn John
Cerddoriaeth Sian James (Telyn)
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Ffilmiau'r Nant / S4C
Dyddiad rhyddhau 1996
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Ffilm a gynhyrchwyd ym 1996 gan Ffilmiau'r Nant ar gyfer S4C yw Tylluan Wen. Addasiad o'r nofel Y Dylluan Wen gan Angharad Jones yw'r ffilm.

Mae'r ffilm hon yn cael ei gwylio gan bobl ifanc gan ei bod ar faes llafur cwrs Cymraeg Llên TGAU (CBAC).

Crynodeb

Mae Martha/Eirlys yn dychwelyd at yr ardal lle ganed hi i ddial ar Ifor Preis, ei chyn prifathro, am farwolaeth ei thad. Mae hi'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi'i pherthynas ag Ifor o flaen eu holl ffrindiau. Ceisiodd Ifor Preis, yn gandryll, i'w thagu cyn ei gollwng. Nawr mae Martha yn dial am farwolaeth ei thad trwy daro Ifor Preis ar ei ben gyda'i thelyn. Gwelodd merch Ifor Preis, sef Gwen, y llofruddied, a rhedeg i ganol yr heol. I achub bywyd Gwen mae Martha'n aberthu ei hunan i wthio Gwen allan o'r ffordd.

Newidiodd Martha ei henw i Eirlys i wneud yn siŵr y na fyddai neb yn ei hadnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Rowlands, yn darganfod pwy ydy hi wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Rowlands, mae Roger, sef cyn disgybl yn yr ysgol, yn darganfod pwy ydy wrth iddo weld hen lun ysgol.

Symbolaeth

Mae llawer o symbolaeth yn y ffilm; gwelwn ni ôl-fflachiadau o Eirlys yn cael y gansen, y prifathro yn gwisgo mantell, a chan bo Martha yn cyrraedd yn gwisgo mantell, dangosa hyn ei bod bellach yn rheoli. Yn hwyrach mae saethiad o Ifor Price yn gwisgo ei fantell yn breifat, yn dangos sut mae e eisiau adennill rheolaeth. Mewn rhannau lle mae Martha eisiau bod yn arbennig o fygythiol mae hi’n gwisgo coch. Clywn ni lawer o gerddoriaeth ailadroddus yn y ffilm, gan mai symbol o rywbeth o’r gorffennol yn ailadrodd ei hun ydy hon, ac mae’n adeiladu tensiwn i uchafbwynt ar y diwedd.

Cymeriadau ac actorion

Cymeriad Actorion
Martha/Eirlys Siân James
Ifor Preis John Ogwen
Meri Preis Betsan Llwyd
Roger Maldwyn John
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.