Sansibar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1774 (translate me)
Llinell 8: Llinell 8:


[[Categori:Ynysoedd Tanzania]]
[[Categori:Ynysoedd Tanzania]]

[[uk:Занзібар (автономія)]]

Fersiwn yn ôl 00:25, 22 Mawrth 2013

Ynys Zanzibar

Ynys yng Nghefnfor India oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica yw Zanzibar neu Unguja. Yn wleidyddol, mae'n rhan o Tanzania. Gerllaw, mae ynys lai Pemba, a ystyrir yn rhan o Zanzibar.

Mae gan yr ynys arwynebedd o 1554 km² a phoblogaeth o tua 1 miliwn. Y brifddinas yw dinas Zanzibar. Tyfu sbeis yw'r prif weithgarwch economaidd. Roedd yr Arabiaid wedi ymsefydlu yma erbyn y 10fed ganrif, ac erbyn i Vasco da Gama ymweld yn 1498 roedd yn cynnal masnach lewyrchus ag India. Glaniodd y Portiwgeaid ar yr ynys yn 1503. Yn 1698, daeth i feddiant Swltan Oman. Daeth i feddiant Prydain yn niwedd y 19eg ganrif. Daeth yn annibynnol yn niwedd 1963, ac yn fuan wedyn ymunodd a Tanganyika i greu Tanzania. Mae ganddi fesur helaeth o ymreolaeth o fewn Tanzania, gyda'i Arlywydd ei hun, dydd hefyd y Ddirpwy-arlywydd Tanzania.

Hyd nes i Kenya ddod yn annibynnol yn 1963, roedd Mombassa dan reolaeth Zanzibar. Wedi hynny, daeth yn rhan o Kenya.