Jendouba (talaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q276580 (translate me) |
Man olygu using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Tunisia jendouba gov.jpg|200px|bawd|Lleoliad talaith Jendouba yn Tunisia]] |
||
Mae '''Jendouba''' ([[Arabeg]]: ولاية جندوبة) yn [[taleithiau Tunisia|dalaith]] yn [[Tunisia]]. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag [[Algeria]] gyda rhimyn o arfordir ( |
Mae '''Jendouba''' ([[Arabeg]]: ولاية جندوبة) yn [[taleithiau Tunisia|dalaith]] yn [[Tunisia]]. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag [[Algeria]] gyda rhimyn o arfordir (25 km) ar lan [[Môr y Canoldir]] yn y gogledd. Mae pen gogleddol dyffryn [[afon Medjerda]] yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y [[Kroumirie]]. [[Jendouba]] yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004). |
||
[[Delwedd:Cefn gwlad Jendouba.JPG|250px|bawd|chwith|Cefn gwlad Jendouba yn y gwanwyn]] |
[[Delwedd:Cefn gwlad Jendouba.JPG|250px|bawd|chwith|Cefn gwlad Jendouba yn y gwanwyn]] |
Fersiwn yn ôl 09:30, 21 Mawrth 2013
Mae Jendouba (Arabeg: ولاية جندوبة) yn dalaith yn Tunisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag Algeria gyda rhimyn o arfordir (25 km) ar lan Môr y Canoldir yn y gogledd. Mae pen gogleddol dyffryn afon Medjerda yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y Kroumirie. Jendouba yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004).
Bu'r dalaith yn rhan o dalaith Rufeinig Affrica a dan reolaeth brenhinoedd Numidia o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig Bulla Regia, yn agos i ddinas Jendouba, a Chemtou a Thubernica yn y gogledd.
Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â Tunis i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw Ghardimao, y dref olaf cyn Algeria, a Bou Salem. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel Aïn Draham a thref glan môr Tabarka. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau.
Dinasoedd a threfi
- Aïn Draham
- Beni M'Tir
- Bou Salem
- Fernana
- Ghardimaou
- Jendouba (prifddinas)
- Oued Melliz
- Tabarka
Taleithiau Tiwnisia | |
---|---|
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan |